BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer Adolygiad Cyffredinol o’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP)

cargo ship export

Mae’r Adran Busnes a Masnach wedi lansio cyfnod o ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn casglu safbwyntiau ynghylch sut y gall y Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP) barhau i fod yn gytundeb masnach ‘safon aur’.

Ymunodd y Deyrnas Unedig (DU) â grŵp masnachu eang y CPTPP fis Gorffennaf y llynedd, gan gychwyn aelodaeth y DU o gytundeb masnach sy’n cynnwys 12 o economïau ledled Asia, y Môr Tawel, ac Ewrop, pan fydd y DU yn ymuno.

Bellach, mae’r Adran Busnes a Masnach yn gofyn am safbwyntiau busnesau ac unigolion ynghylch sut y gellid gwella’r fargen, trwy broses yr Adolygiad Cyffredinol hwn.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 22 Chwefror 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Share your views: general review of the Comprehensive and Progressive Agreement for Trans-Pacific Partnership (CPTPP) - GOV.UK

Ydych chi’n dechrau neu’n tyfu eich busnes allforio? Mae Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth o gymorth, arweiniad a chyngor: Busnes Cymru – Allforio (llyw.cymru)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.