BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

The Little Book of Net Zero

Mae'r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) wedi cynhyrchu canllaw syml 'sut i' i'ch helpu i ddechrau taith cynaliadwyedd eich busnes, 'The Little Book of Net Zero'.

Mae’n debygol nad oeddech wedi meddwl llawer am newid hinsawdd pan ddechreuoch eich busnes. Ond mae newid hinsawdd yn effeithio arnom i gyd, a gallwn ni i gyd chwarae rhan wrth frwydro yn eu erbyn. Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon, mae'r DU wedi gosod targed i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr 'Sero Net' erbyn 2050. Nod a fydd ond yn cael ei gyflawni gyda chymorth busnesau.

Mae 'The Little Book of Net Zero' yn cynnig cyfle i fusnesau yn y DU, yn enwedig busnesau bach a chanolig (BBaCh), edrych ar nod hinsawdd llywodraeth y DU yn 2050 fel senario lle mae pawb ar eu hennill.
Bydd gwneud ymrwymiad cadarn i sicrhau sero net yn eich busnes yn golygu y byddwch yn:

  • Dod yn fwy cynaliadwy a chyfrifol yn gymdeithasol 
  • Cymryd rheolaeth o gostau ynni
  • Gwella perfformiad
  • Dod yn wydn

Gall safonau helpu busnes hyd at drawsnewid cyfiawn. Maen nhw'n ymwneud â chymhwyso arferion da wedi’u profi o fewn busnes i sefydlu a chynnal prosesau rheoli cadarn, dibynadwy. Maen nhw'n cael eu datblygu gan arbenigwyr sydd â dealltwriaeth ddofn o'r heriau y mae busnesau bach yn eu hwynebu a beth y bydd angen i chi ei wneud i'ch helpu i lwyddo. Gallant ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich nodau yn y ffordd fwyaf effeithlon, diogel ac effeithiol. 

Nod un safon, yn benodol – canllawiau ISO 50005 ar gyfer gweithredu systemau rheoli ynni yn raddol – yw helpu BBaCh i wneud cynnydd ystyrlon tuag at sero net. Mae'r safon wedi'i chynllunio'n benodol i helpu cwmnïau bach a llai cymhleth i reoli eu perfformiad ynni yn effeithlon ac yn gynaliadwy. Mae’r safon hon yn rhad am ddim i’w lawrlwytho

Mae'n amlinellu dull cam wrth gam o apelio at fusnesau nad ydynt yn ddefnyddwyr ynni dwys, yn ogystal â'r rheiny sydd ag adnoddau cyfyngedig. Mae sawl safon ryngwladol arall yn ffurfio pecyn cymorth a all helpu busnesau i drosglwyddo i sero net. 

I lawrlwytho 'The Little Book of Net Zero', cliciwch ar y ddolen ganlynol The Little Book of Net Zero | BSI (bsigroup.com)

Cyfarfodydd Gweledigaeth Werdd Busnes Cymru: wyth sesiwn sy'n cynnwys siaradwyr arbenigol yn rhannu eu gwybodaeth, yn edrych ar effeithlonrwydd adnoddau ac ystyried sut allwn eich helpu chi i fynd ati i leihau eich effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Os oes gennych chi Weledigaeth Werdd sy'n anelu at fod yn garbon Sero Net yn y dyfodol, dyma'r gyfres i chi. Gweledigaeth Werdd | Busnes Cymru (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.