BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru ar ‘daith’ i gefnogi cwmnïau o Gymru ar draws y byd

Mae’r rhaglen teithiau masnach tramor Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cwmnïau o Gymru i gynnal busnes ar draws y byd. Mae’r daith fasnach ddiweddar i Gynhadledd ar gyfer Datblygwyr Gemau yn San Francisco, a fynychwyd gan y nifer uchaf erioed o fusnesau o Gymru, yn un enghraifft o hyn. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a aeth ar y daith hefyd:

"Yng Nghymru, rydym o ddifrif am ein gemau a thechnoleg gemau. Rydym yn cefnogi cymuned lewyrchus o fusnesau arloesol, sy’n gwneud y gorau o ddoniau lleol i sicrhau llwyddiant rhyngwladol.

"Mae’r sector hwn yn rhan bwysig o’n diwydiannau creadigol ac yn cynnig swyddi cynaliadwy â chyflogau da. Dyna pam ein bod yn rhoi’r gefnogaeth i ddatblygwyr gemau sydd ei hangen arnynt i droi ffrwyth eu hawen yn realiti ac i gynyddu eu potensial mewn sector sy’n newid yn gyflym. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod y sector yn cael y bobl dalentog a galluog sydd ei angen arno i dyfu a ffynnu.

"Gyda phobl o bob rhan o’r byd yn bresennol, roedd y digwyddiad yn gyfle heb ei ail i fusnesau o Gymru hyrwyddo’u hunain a chyda Cymru Greadigol, i ddangos i fuddsoddwyr yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.”

Dros y 12 mis nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu 15 o deithiau tramor eraill gan ddechrau gyda’r pedair isod. Cliciwch ar y dolenni i gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais:

Ymweliad â Marchnad Allforio Qatar

13 Mai i 19 Mai 2023

Confensiwn Rhyngwladol BIO / Ymweliad â Marchnad Allforio Boston

4 Mehefin i 9 Mehefin 2023

Money 20/20

5 Mehefin i 9 Mehefin 2023

Sioe Awyr Paris 

19 Mehefin i 25 Mehefin 2023

I weld beth arall sydd ar y gweill, ewch i’n tudalen Digwyddiadau Tramor Busnes Cymru.

Mae’r digwyddiadau hyn hefyd yn ategu ein Rhaglen Clwstwr Allforio, sydd wedi gweld aelodaeth yn tyfu i dros 190 o gwmnïau ar draws pum sector blaenoriaeth: 

  • Technoleg Feddygol a Diagnosteg
  • Technoleg 
  • Cynhyrchion Defnyddwyr
  • Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Glân
  • Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth

Os hoffech fod yn rhan o’r Rhaglen Clwstwr Allforio ac elwa ar ystod o gymorth, canllawiau a chyngor, cysylltwch â ni i drafod ymhellach. Ffoniwch 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg neu cysylltwch â ni yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.