BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen flaenllaw newydd i helpu mwy o bobl i gael gwaith 

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio rhaglen flaenllaw Newydd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi cymorth personol i bobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd i ddod o hyd i waith ac i aros mewn Gwaith.

Yn fras:

  • cynllun newydd gwerth £13.25 miliwn y flwyddyn i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl i gael gwaith ledled Cymru
  • bydd ReAct+ hefyd yn rhoi cymorth i gyflogwyr o ran cyflog a hyfforddiant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar gyfer staff sydd newydd eu cyflogi
  • mae’r rhaglen yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl i gael gwaith ac aros mewn gwaith

Mae ReAct+ yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen ReAct bresennol. Bydd yn helpu i rymuso pobl sy'n chwilio am waith yng Nghymru, gyda phroses ymgeisio uniongyrchol, cymorth ariannol a chyngor gyrfaoedd am ddim. Bydd yn sicrhau bod hyfforddiant hyblyg ar gael ochr yn ochr â chymorth pwrpasol i oresgyn rhwystrau i sicrhau cyflogaeth barhaus.

Bydd ReAct+ yn rhoi llwybr clir i bobl i waith cynaliadwy gan wasanaeth cyflogadwyedd Cymru'n Gweithio, ac yn helpu pobl, yn enwedig y rheini o grwpiau agored i niwed, i fanteisio ar gyfleoedd gwaith. Bydd lansio proses ymgeisio ar-lein newydd yn darparu mynediad at gymorth ariannol a'r system gymorth bwrpasol.

Bydd y cymorth yn cynnwys:

  • hyd at £1,500 i gefnogi hyfforddiant
  • hyd at £4,500 i helpu gyda gofal plant neu gostau gofal eraill
  • £300 i helpu gyda chostau teithio i wneud hyfforddiant yn bosibl
  • cymorth datblygiad personol o £500 i helpu i ddileu rhwystrau i waith – gan gynnwys cymorth mentora i gynyddu hyder personol a gwydnwch.
  • mynediad at gymorthdaliadau cyflog i helpu pobl i gael swydd a chymorthdaliadau i gael hyfforddiant pan fyddwch mewn swydd

Bydd cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn ReAct+ yn cael cymorth tuag at gyflogau gweithwyr newydd yn ystod y flwyddyn gyntaf, yn ogystal â chyllid ar gyfer hyfforddiant sy'n gysylltiedig â swydd.

Mae'r rhaglen newydd yn rhan bwysig o Warant Pobl Ifanc uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, sy'n dwyn ynghyd ystod eang o raglenni sydd â'r nod o ddarparu'r cymorth cywir i bobl ifanc ledled Cymru i'w helpu i gynllunio ac adeiladu dyfodol llwyddiannus.

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn addo cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed, mewn ymgais i amddiffyn cenhedlaeth rhag effeithiau dysgu a gollwyd, ac oedi cyn cael mynediad i'r farchnad lafur, oherwydd y pandemig. Mae’n helpu hefyd i sicrhau bod Cymru’n lle y mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth fynd ati i gynllunio eu dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i ReAct+ | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales). 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.