Newyddion

Rhannu rhagor o wybodaeth am brisiadau ardrethi busnes

Cowbridge - shops

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA) yn rhannu gwybodaeth o safon uwch am brisiadau ardrethi busnes.

Bydd hyn yn digwydd fesul cam:  

  • Erbyn 2026, bydd talwyr ardrethi yn gallu gweld mwy o wybodaeth wedi’i theilwra am eu heiddo. 
  • Erbyn 2029, bydd talwyr ardrethi yn gallu gweld gwybodaeth a thystiolaeth brisio fwy penodol. 

Mae hyn yn rhan o set ehangach o newidiadau sy’n dod i ardrethi busnes yng Nghymru a Lloegr rhwng 2026 a 2029. Mae’r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno fesul cam. Byddant yn cefnogi’r VOA i gyflawni ailbrisiadau eiddo yn amlach. 

Mae’r newidiadau’n cynnwys dyletswydd newydd ar dalwyr ardrethi i ddarparu gwybodaeth am eu heiddo i’r VOA. 

Disgwylir i’r ddyletswydd wybodaeth newydd ar dalwyr ardrethi gael ei chyflwyno ar ôl y 1af o Ebrill 2026. Bydd yn cael ei phrofi gyda niferoedd bach o gwsmeriaid fesul cam o’r pwynt hwnnw fel y gallwn wneud yn siŵr bod y system yn gweithio i bob talwr ardrethi. 

Yna bydd y ddyletswydd yn cael ei roi ar waith yn ffurfiol ac yn orfodol i bawb erbyn y 1af o Ebrill 2029. 

Nid oes unrhyw gamau y mae angen i chi eu cymryd nawr.

Mae’r ddyletswydd newydd yn golygu y bydd yn rhaid i dalwyr ardrethi roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn pen 60 diwrnod pan fo newidiadau i’w heiddo. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r canlynol: 

  • y meddiannydd 
  • y brydles neu rent 
  • yr eiddo

Bydd yn rhaid i nifer fach o dalwyr ardrethi ddarparu gwybodaeth fasnachol unwaith y flwyddyn hefyd, os defnyddir yr wybodaeth honno i brisio eu heiddo. 

Unwaith y flwyddyn, gofynnir i dalwyr ardrethi hefyd gadarnhau eu bod wedi rhoi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am unrhyw newidiadau i’w heiddo. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Rhannu rhagor o wybodaeth am brisiadau ardrethi busnes - GOV.UK

Darganfyddwch fwy am Ardrethi Busnes yng Nghymru: Ardrethi Busnes yng Nghymru | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.