Mae Wythnos Elusennau Bach, a gynhelir rhwng 24 Mehefin a 28 Mehefin 2024, yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth am waith hanfodol sector elusennau bach y DU, sy’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywydau miliynau o unigolion, cymunedau ac achosion ledled y DU a gweddill y byd.
Thema’r wythnos eleni fydd ‘Elusennau Cydnerth dros Gymunedau Cryfach’, a’r amcanion yw:
- Dathlu’r cyfraniad y mae elusennau bach yn ei wneud i gymunedau ledled y DU ac ar draws y byd
- Cynyddu gwybodaeth am elusennau bach a’u cynrychiolaeth a’u cynaliadwyedd
- Rhoi sylw i waith y sector elusennau bach ymhlith y gynulleidfa ehangaf bosibl
- Annog rhoddion gan y cyhoedd
- Gweithio gyda’r sector elusennau bach i ddatblygu ymgysylltiad gwleidyddol ar lefel genedlaethol a lleol
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Home | Small Charity Week | Raising the profiles of small charities
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maent eisiau gweld bod y busnesau y maent yn ymwneud â nhw yn cymryd rhan yn yr un modd ac yn gwneud yr un peth.
Mae llawer o ffyrdd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol, gan gadw eu cwsmeriaid yn hapus ar yr un pryd. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Business Wales (gov.wales)