BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 – Cofrestrwch Nawr

Lightbulb - green energy

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd o 11 i 15 Tachwedd, gan ddod â phobl ynghyd o bob rhan o Gymru i ddysgu ac archwilio atebion arloesol ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo. 

Bydd yr Wythnos eleni yn cyd-fynd â chynhadledd newid hinsawdd COP29 y Cenhedloedd Unedig. Bydd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch yr hinsawdd, rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a phobl o bob rhan o Gymru archwilio sut y gallwn, gyda’n gilydd, leihau’r risg a pharatoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd a pharatoi ar eu cyfer, yn ogystal â manteisio ar y cysylltiadau â lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Ymunwch â thrafodaethau am gamau sy’n digwydd yn rhyngwladol ac o fewn Cymru i addasu ein cartrefi, ein cymunedau a’n busnesau i dywydd poeth, sychder, stormydd, llifogydd ac erydu arfordirol cynyddol. Dysgwch fwy am sut y gallwn ddiogelu ein systemau cynhyrchu bwyd, adnoddau naturiol, seilwaith ac amgylchedd adeiledig a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer dyfodol mwy gwydn yn yr hinsawdd.

Bydd rhaglen eleni yn cynnwys y digwyddiadau a’r gweithgareddau canlynol:

  • Cynhadledd rithiol 5 diwrnod
  • Cronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd
  • Digwyddiadau ymylol

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, dewiswch y ddolen ganlynol: Hafan | Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 (gov.wales)

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.