Newyddion

Wythnos Prentisiaethau 2025

Apprentice hairdresser

Cynhelir yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau rhwng 10 a 16 Chwefror 2025.

Nod yr wythnos hon yw dathlu a hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd. a'r buddion a ddaw yn eu sgil i unigolion a chyflogwyr.

Os oes gennych chi neu unrhyw un o fewn eich rhwydwaith unrhyw gyfleoedd prentisiaeth ar y gweill, yna byddem yn eich annog i'w hychwanegu at y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag dros yr wythnosau nesaf, 

Y ffordd hawsaf i ychwanegu prentisiaeth wag yw mynd i Chwilio am brentisiaeth wag | Apprenticeships cy (llyw.cymru) a sgrolio i lawr, lle ceir botwm 'Rheoli Prentisiaethau'. Yma, gallwch gofrestru fel cyflogwr prentisiaid ac ychwanegu unrhyw brentisiaethau gwag i'r Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag.

Cafodd y gweinidog sy'n gyfrifol am bolisi prentisiaethau Cymru, Jack Sargeant, gyfle yr wythnos hon i ddychwelyd i'r coleg lle bu ef ei hun yn astudio fel prentis, i ddathlu Wythnos Prentisiaethau a thynnu sylw at fanteision y llwybr hwn at gyflogaeth: Cylch cyflawn i gyn brentis sydd bellach yn Weinidog yn y llywodraeth | LLYW.CYMRU

I ddarganfod sut i recriwtio prentis a thrawsnewid eich busnes trwy sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen arnoch nawr ac yn y dyfodol, ewch i dudalennau Busnes Cymru Recriwtio a Hyfforddi i gael mwy o wybodaeth. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.