Mae gan y busnesau hynny sy’n sicrhau twf uchel a chynaliadwyedd hirdymor dri chynhwysyn allweddol:
- Gweledigaeth glir, strategaeth a chynllun
- Diwylliant cwsmeriaid sy’n asio gyda’r farchnad
- Prosesau a systemau disgybledig
Cnoi cil:
Mae’n hanfodol eich bod yn glir ynghylch yr hyn rydych chi am ei gyflawni – yr eglurder hwn sy’n sbarduno tîm llwyddiannus.
Mae’n rhaid crisialu’r cynllun mewn cyfres o weithgareddau bach sy’n sbarduno camau a all greu momentwm.
Mae llwyddiant yn dibynnu ar 20% strategaeth a 80% gweithredu. Mae’n hanfodol ar ôl gorffen meddwl, ein bod yn dechrau gweithredu.
Mae’r weledigaeth wedi’i seilio ar y cwsmer yn y pen draw - mae strategaeth a chynllun clir ar gyfer canfod, cyrraedd, ennill a chadw cwsmeriaid yn hanfodol i dwf.
Cyflawnir hirhoedledd a chynaliadwyedd drwy fyw ym Myd y Cwsmeriaid a chysoni’r hyn rydym yn ei wneud yn gyson i gyfateb i ofynion y byd hwn.
Mae angen i bawb yn y sefydliad deimlo bod ganddynt ddiben a rôl i’w chwarae wrth gyflawni canlyniad buddugoliaethus.
“Y bobl iawn yn gwneud y pethau iawn”
Mae’n rhaid i sefydliadau arddangos disgyblaeth entrepreneuraidd – mae’r ddau gynhwysyn yn sbarduno llwyddiant.
O bryd i’w gilydd, gall sefydliadau sy’n dangos ymddygiad entrepreneuraidd ymddangos fel bwled digyfeiriad - peryglus iawn.
Mae busnesau sy’n orddibynnol ar systemau a disgyblaeth yn tueddu i fod yn rhy fewnblyg – maen nhw’n colli cyfleoedd o dro i dro.
Mae cyfuno egni entrepreneuraidd a systemau disgybledig yn creu dyfodol disglair.
Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.