Rydym i gyd yn profi unigrwydd o bryd i'w gilydd. Ond er bod tymor yr ŵyl yn gallu bod yn gyfnod o lawenydd a chysylltiad, gall hefyd gael yr effaith groes weithiau - gan wneud i ni deimlo'n unig ac wedi ein datgysylltu. P'un ai ydych chi'n dathlu'r Nadolig, Hanukkah, y Flwyddyn Newydd, gŵyl arall, neu ddim un ŵyl, gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar sut i ymdopi a ffyrdd o gefnogi rhywun arall:
- Christmas and mental health - Mind
- Coping with loneliness during the festive season | Mental Health Foundation
- Stress and mental health at work - HSE
- Useful resources - Mind
- Cymorth iechyd meddwl a lles i deuluoedd sy'n ffermio | LLYW. CYMRU
Gall caredigrwydd a rhoi yn ôl i'ch cymuned wneud i ni deimlo'n dda a rhoi cyfle i ni gysylltu ag eraill. Gall gwirfoddoli yn eich cymuned leol fod yn ffordd wych o wneud hyn, ac yn aml mae galw mawr am wirfoddolwyr - yn enwedig yn ystod tymor y gaeaf. Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales)
Mae Gwirfoddoli Cymru yn cysylltu gwirfoddolwyr a sefydliadau. Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac mae dros fil o sefydliadau eisoes wedi manteisio ar ddechrau hysbysebu eu cyfleoedd gwirfoddoli i'r cyhoedd yng Nghymru: Croeso - Gwirfoddoli Cymru