Lansiwyd ymgyrch Awydd Antur Ddydd San Steffan, gyda hysbyseb newydd yn anelu at apelio i gynulleidfaoedd lluosog ac yn cynnwys cynnyrch a lleoliadau eiconig o bob cwr o Gymru, gan gynnwys Rheilffordd Ffestiniog, pwll y sba yng Ngwesty St Brides Spa Hotel, hwyl ar y traeth yng Ngheredigion a gweithgareddau yng Nghaerdydd a Phortmeirion.
Mae’r hysbyseb, sy’n anelu at hoelio sylw a rhoi blas 30 eiliad ar Gymru, yn cael ei ddangos ar deledu llinol, ar alw/dal i fyny ac ar sianeli ffrydio, gan gynnwys Disney Plus – sef ‘cartref’ Welcome to Wrexham yn y Deyrnas Unedig.
Dyma un rhan yn unig o amrywiaeth eang o weithgareddau a fydd yn gyrru traffig i wefan Croeso Cymru, lle y gall ymwelwyr ddysgu rhagor am gynnyrch a chyrchfannau ledled Cymru yn fanylach.
Mae cynulleidfaoedd ledled y DU, gan gynnwys Cymru, yn cael eu targedu ac i gael dadansoddiad llawn o’r mathau o gynulleidfa, gallwch weld Canllaw ar y Gynulleidfa Croeso Cymru.
Os colloch chi gyflwyniadau Croeso Cymru yn Sioeau Teithiol yr Hydref, gallwch weld cyflwyniad y trosolwg marchnata yn llawn o hyd ynghyd â’r amrywiaeth o wybodaeth a gyflwynwyd ym mhob un o’r digwyddiadau.
Mae twristiaeth yn fusnes pwysig yng Nghymru. Mae twristiaid yn gwario tuag £17 miliwn y dydd tra byddant yng Nghymru, sef tua £6.3 biliwn y flwyddyn. Gall bod yn berchen ar, a rhedeg, busnes twristiaeth fod yn fuddiol iawn. P’un a’ch ydych chi’n meddwl am ddechrau busnes twristiaeth newydd, eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu eisiau tyfu eich busnes presennol, gallwn helpu. Dysgwch ragor trwy glicio ar y ddolen ganlynol: Twristiaeth | Busnes Cymru (llyw.cymru)