Sioeau Teithiol Croeso Cymru ar gyfer y Diwydiant – hydref 2023

Cwmcarn Forest Drive - Autumn

Diolch i'r holl fusnesau a'r sefydliadau hynny a ddaeth i 4 Sioe Deithiol ranbarthol Croeso Cymru. Roedd llawer wedi mynychu'r digwyddiadau ac ym mhob un rhannom wybodaeth am:

  • Y prosiectau buddsoddi diweddaraf 
  • Cynlluniau marchnata strategol ac offer hawdd eu defnyddio i randdeiliaid 
  • Sut y gall Digwyddiadau Cymru weithio gyda'r diwydiant i sicrhau amrywiaeth o ddigwyddiadau 
  • Y canfyddiadau ymchwil a mewnwelediadau diweddaraf

Roedd cyfle hefyd i glywed gan Gadeirydd pob Fforwm Twristiaeth Ranbarthol, a rhoddodd siaradwyr gwadd y diwydiant gyflwyniadau rhagorol yr oeddem yn falch o'u recordio gan y bydd y cynnwys, yn ogystal â'r dimensiwn rhanbarthol, o ddiddordeb i lawer o randdeiliaid ledled Cymru. 

Roedd panel Holi ac Ateb ym mhob digwyddiad a oedd yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ac fe welwch dolenni i'r wybodaeth ddiweddaraf isod: 

Roedd sesiynau trafod y prynhawn yn cynnig gwybodaeth fwy penodol am:

  • Digwyddiadau Cymru - Cyfleoedd, heriau a'r dyfodol. Siaradwyr allanol o ddigwyddiadau a gefnogir ar gyfraniad digwyddiadau at flaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru. 
  • Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) - Sut i gael rhagor o archebion a chyrraedd cwsmeriaid newydd gyda TXGB - y platfform sy'n cysylltu systemau archebu twristiaeth y DU neu rhestr eiddo eich hun â rhwydwaith byd-eang o ddosbarthwyr.

Gallwch weld y cyflwyniadau, y ffilmiau a'r wybodaeth ddefnyddiol arall a rannwyd yn y sioe deithiol isod:

Sesiynau dewisol:

Os nad oeddech yn gallu mynychu sesiwn Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) yn un o'r sioeau teithiol a bod gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am TXGB a sut y gallai fod o fudd i'ch busnes, rydyn ni'n bwriadu cynnal sesiwn rithiol arall cyn bo hir. Cofrestrwch eich diddordeb yn y sesiwn rithiol yma a byddwn ni'n cysylltu â chi er mwyn rhoi rhagor o fanylion.

Arddangoswyr stondinau masnach (PDF)


Cysylltiadau defnyddiol:

Ymchwil a Mewnwelediadau: