BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Systemau Rheoli Ynni

Ynni yw un o'r costau rheoladwy mwyaf yn y rhan fwyaf o sefydliadau. Er gwaethaf y cynnydd mewn costau ynni, mae digon o gyfle i leihau defnydd trwy reoli ynni'n ofalus.

Mae angen trefniadau rheoli da ar gyfer pob sefydliad i sicrhau llwyddiant tymor hir a’i fod yn gweithredu’n effeithlon, ac nid yw rheoli ynni’n ddim gwahanol. Fodd bynnag, mae rheoli ynni’n cael ei esgeuluso’n aml, er bod potensial mawr i arbed ynni a lleihau costau. Ar yr un pryd, mae pwysau cynyddol yn codi yn sgil cynnydd mewn costau ynni, deddfwriaeth newid yn yr hinsawdd a’r angen i gael eich gweld gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid fel sefydliad sy’n parchu’r amgylchedd. Mae arbed ynni’n gwneud synnwyr busnes, ac mae mabwysiadu dull sydd wedi’i lunio, ei gydlynu a’i integreiddio’n cynyddu’r buddiannau hynny. Heb reoli ynni’n effeithlon, byddai’n hawdd iawn colli cyfleoedd cost effeithiol.

Diben yr arweiniad hwn yw helpu busnesau i ddeall yn well y cysyniad o reoli ynni a sut y gallant elwa arno a’i weithredu. 

Beth yw Rheoli Ynni?

Systemau Rheoli Ynni (SRhY)
Mae Systemau Rheoli Ynni fel arfer yn cynnig fframwaith i fabwysiadu dull systematig sy’n sicrhau gwelliant parhaus mewn effeithlonrwydd ynni i sefydliadau. Fel pob disgyblaeth reoli, dylid rheoli ynni mewn ffordd sy’n briodol i natur a maint y sefydliad. Bydd rheoli ynni mewn sefydliad bychan sy’n gweithio mewn swyddfa yn digwydd ar lefel wahanol iawn i’r hyn a geid mewn cwmni diwydiannol cymhleth sydd â bil ynni sy’n costio miliynau o bunnoedd. Gellir ardystio Systemau Rheoli Ynni wrth safonau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol os dymunir. Byddai hynny’n golygu bod yn rhaid i’r system a’r gweithdrefnau gael eu dogfennu’n llawn (ceir rhagor am hyn yn yr ‘Adran Ardystio Eich Cyflawniadau’).

Rheoli ynni, carbon a’r amgylchedd
Mae rheoli carbon yn golygu rheoli allyriadau nwyon tŷ gwydr (NTG) sefydliad. Yn ychwanegol at garbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu wrth ddefnyddio ynni, mae hyn yn cynnwys rhyddhau NTG o ffynonellau eraill; er enghraifft, methan o safleoedd tirlenwi, nwyon oeryddion sy’n gollwng, ac allyriadau o brosesau cemegol. Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o sefydliadau, defnydd ynni yw’r prif gyfrannwr at eu hôl troed carbon, ac felly rheoli ynni yw un o brif elfennau lleihau carbon. Wrth i fusnesau ddatblygu i fod yn fwy gynaliadwy a gweithredu i leihau allyriadau carbon eu cwmni, mae rheolaeth amgylcheddol hefyd yn ystyried yr effeithiau mae newid yn yr hinsawdd yn cael ar sefydliadau, a'r angen i gynyddu'r gallu i wrthsefyll effeithiau tywydd eithafol.

Nodweddion System Rheoli Ynni effeithiol 

Rhaid i reolaeth ynni esblygu a pharhau'n barhaus. Trafodir elfennau allweddol rheoli ynni isod.  

Adolygiad cychwynnol

Dylai eich adolygiad cychwynnol roi dealltwriaeth o’r canlynol i chi:

  • defnydd eich sefydliad o ynni a’r costau 
  • ffactorau sy’n effeithio ar ddefnydd ynni, fel amodau’r tywydd neu gyfraddau cynhyrchu
  • materion allweddol, fel ymrwymiadau rheoleiddiol neu newidiadau sefydliadol sydd wedi’u cynllunio
  • sefyllfa eich sefydliad mewn perthynas i’w nodau ar gyfer rheoli ynni
  • meincnodi i gymharu eich defnydd o ynni â sefydliadau eraill yn eich sector

Dylai’r adolygiad cychwynnol roi digon o wybodaeth i chi i gyflwyno achos i’r uwch reolwyr i fwrw ymlaen â strategaeth rheoli ynni.

Ymrwymiad uwch reolwyr

Mae rheoli ynni angen arweinyddiaeth ac ymrwymiad gydag adnoddau yn eu lle i reoli'r broses. Bydd y cyfiawnhad dros weithredu system rheoli ynni hefyd angen ddealltwriaeth o'r canlynol: -

  • Beth yw system rheoli ynni?
  • Pam fod angen system rheoli ynni?
  • Beth yw'r manteision?
  • Beth fydd yn ei gostio?

Bydd ymrwymiad a chymeradwyaeth lefel uwch yn annog dull gweithredu ar draws y sefydliad, gan godi ei broffil a chyflwyno amlygrwydd y materion ar draws y cwmni.
 

Polisi ynni

Bydd angen polisi a strategaeth ynni arnoch. Ar ei symlaf, datganiad ysgrifenedig o ymrwymiad parhaus i reoli defnydd ynni yw polisi ynni. Dylai polisi ynni fel arfer gynnwys:

  • cefnogaeth yr uwch reolwyr – y prif weithredwr neu swyddog cyfatebol os yn bosibl
  • gweledigaeth a dyheadau’r sefydliad o ran ynni / carbon, gydag amcanion a thargedau penodol
  • ymrwymiad i sicrhau bod rheoli ynni’n cael ei integreiddio ym mhob proses benderfynu berthnasol
  • ymrwymiad i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gyflawni amcanion y polisi
  • ymrwymiad i ddiwallu anghenion hyfforddiant a datblygiad y staff rheoli ynni ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith yr holl staff
  • ymrwymiad i ddatblygu a chynnal strategaeth ynni a / neu gynllun gweithredu cyfoes i gyflawni amcanion y polisi ynni
  • ymrwymiad i gynnal adolygiadau rheolaidd a ffurfiol

Efallai na fydd yn rhaid i rai sefydliadau llai ddatblygu polisi ynni penodol – gall polisi amgylcheddol a mandad ar lefel y bwrdd ynghyd â chynllun ynni da fod yn ddigon. Fodd bynnag, yn achos sefydliadau mwy mae polisi fel arfer yn elfen allweddol o reoli ynni.

Strategaeth ynni

Mae strategaeth ynni’n ddogfen sy’n amlinellu cynllun gweithredu sy’n dangos sut y bydd ynni’n cael ei reoli yn y sefydliad i gyflawni amcanion y polisi. Mae wyth maes allweddol a ddylai gael sylw yn y strategaeth, er na fydd pob un yn berthnasol i bob sefydliad.

Trefnu rheoli ynni 

O dan arweiniad y Rheolwr Ynni (neu bwy bynnag sy’n gyfrifol am reoli ynni), mae’r tîm ynni’n gyfrifol am gyflawni’r polisi ynni o ddydd i ddydd trwy weithredu’r strategaeth ynni. Nid oes un model perffaith ar gyfer tîm rheoli ynni – bydd ei strwythur yn dibynnu ar sut mae eich sefydliad yn gweithio. Os oes gan aelodau’r tîm ddyletswyddau eraill, mae’n bwysig bod ganddynt ddigon o amser, arbenigedd ac adnoddau i gyflawni eu cyfrifoldebau rheoli ynni’n effeithiol. Gellir dyrannu cyfrifoldeb ffurfiol am reoli ynni i:

  • y prif weithredwr ac uwch reolwyr eraill
  • rheolwyr allweddol eraill a’u hadrannau, fel cynhyrchu neu gyflenwi gwasanaeth, neu reoli asedau / eiddo
  • cyfleusterau
  • ystadau
  • cynnal a chadw
  • prosiectau cyfalaf, fel cyllid, caffael, TG, adnoddau dynol, neu ddiogelwch, glanhawyr a gofalwyr

Fel yn achos iechyd a diogelwch, dylai pawb yn y sefydliad fod yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain o ran effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, yn wahanol i iechyd a diogelwch lle mae ymrwymiadau cyfreithiol ar bob cyflogai, mae ymddygiad sy’n dangos effeithlonrwydd ynni’n cael ei hybu’n fwy priodol trwy ddatblygu diwylliant o effeithlonrwydd ynni.

Cydymffurfiad rheoleiddiol 

Mae’n bwysig bod pob sefydliad yn deall pa reoliadau’n sy’n berthnasol iddynt a’r hyn mae’n rhaid iddynt ei wneud i gydymffurfio. Y prif gynlluniau rheoliadol yw:

  • Rheoliadau Adeiladu, Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) a’r Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol (MEES)
  • Nwy tŷ gwydr (GHG) ac adroddiadau ynni a charbon symlach (SECR)
  • yr Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL) a’r Cytundebau Newid yn yr Hinsawdd (CCA). (Mae CCAau yn wirfoddol, ond mae gofynion ar y sawl sy’n rhan ohonynt)
  • System Masnachu Allyriadau’r UE (EU-ETS)
  • Rheoliadau Nwyon wedi’u Fflworeiddio (F-gas)
  • Y Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni (ESOS)

Mae rheoli ynni’n effeithiol yn fodd i gydymffurfio’n effeithlon â rheoliadau ac mae’n galluogi sefydliadau i fanteisio ar gynlluniau cymell fel Lwfansau Cyfalaf Uwch, 
 

Buddsoddi

Bydd angen i’r rhan fwyaf o sefydliadau fuddsoddi i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd effeithlonrwydd ynni cost effeithiol. Dylid cymharu prosiectau sy’n lleihau costau ynni ar lefel resymegol â chyfleoedd buddsoddi eraill. Mae’n gyffredin i brosiectau effeithlonrwydd ynni ddioddef o ganlyniad i alwadau eraill am arian ar gyfer dibenion y tybir sy’n bwysicach. Mae’r canlynol yn nodweddu arferion buddsoddi da:

  • cyllideb wedi’i chlustnodi ar gyfer effeithlonrwydd ynni / ynni cynaliadwy o dan reolaeth y Rheolwr Ynni. Mae hyn yn osgoi’r perygl y gallai cyllid cael ei ddargyfeirio i ddibenion eraill
  • cyfran o’r arbedion ynni’n cael eu cadw gan y swyddogaeth sy’n gysylltiedig â hynny. Mae hyn yn gweithredu fel cymhelliad a gwobr am ymdrechion effeithlonrwydd ynni
  • arfarnu ar lefel cylch bywyd cyfan wrth gymharu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni â galwadau eraill am gyfalaf
  • cyflwyno achos busnes eglur a thrylwyr dros fuddsoddi i’r uwch reolwyr
  • manteisio ar gynlluniau sy’n cael eu hariannu fel cynllun benthyciadau di-log yr Ymddiriedolaeth Garbon neu’r Gronfa Busnesau Gwyrdd, sy’n cynnig cyfraniad cyfalaf tuag at gost cyflwyno technoleg effeithlonrwydd ynni

Caffael

Mae dau faes caffael sy’n hanfodol ar gyfer strategaeth rheoli ynni effeithiol: un yw caffael yr ynni ei hun; a’r llall yw caffael cyfarpar, gwasanaethau ac adeiladau sy’n defnyddio ynni. Ceir crynodeb o’r rhain isod.


Caffael ynni 

Mae’n bwysig cydnabod, er ei fod yn angenrheidiol, y dylai gweithgarwch sy’n gysylltiedig â chaffael ynni fod yn elfen fechan yn unig o reoli ynni. Dylai’r swyddogaeth rheoli ynni ganolbwyntio ar leihau’r galw am ynni yn hytrach nag ar gaffael a gweinyddu cyflenwadau ynni.

Er enghraifft, adran gyllid yn aml sy’n gyfrifol am brynu ynni, ond nid am ei reoli, felly mae’n bwysig fod yr wybodaeth berthnasol ar gael iddynt i’w galluogi i wneud penderfyniadau am gaffael. Ni allant arbed arian os nad ydynt yn deall y marchnadoedd a sut mae eich sefydliad yn defnyddio a sut y bydd yn defnyddio ynni. 

Caffael cyfarpar a gwasanaethau 

Mae perfformiad ynni sefydliad yn cael ei ddylanwadu gan y cyfarpar a’r gwasanaethau a ddefnyddir ganddo. Yn ôl arferion gorau bydd perfformiad ynni eitemau o’r fath yn cael ei gadw mewn cof wrth wneud penderfyniadau caffael. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys cyfraniad ffurfiol gan y swyddogaeth rheoli ynni.

Caffael adeiladau

Gall caffael adeiladau, boed trwy brydles neu brynu, fod yn ffactor allweddol ym mherfformiad ynni tymor hir sefydliadau. Fel mater o bolisi byddai’n briodol i brydlesu, prynu neu gomisiynu adeiladau sy’n cyrraedd y safonau effeithlonrwydd ynni uchaf. 

Mesur, monitro a thargedu

Mae mesur, monitro a thargedu ynni (MM&T) yn system gwybodaeth reoli sy’n helpu i reoli ynni. Fe’i hadwaenir hefyd fel monitro a thargedu’n unig (M&T), ac mae’n hanfodol i reoli ynni’n effeithiol. Yn syml, ni allwch reoli rhywbeth os nad ydych chi’n ei fesur ac nid yw’r hyn nad yw’n cael ei fesur yn cael ei reoli. Mae MM&T effeithiol yn eich galluogi i leihau costau trwy ddeall defnydd eich sefydliad o ynni a chanfod gwastraff a thargedu aneffeithlonrwydd.
Camau MM&T yw:

  • casglu data ar ynni ac ar ffactorau sy’n dylanwadu, fel amodau’r tywydd neu lefelau cynhyrchiant
  • dadansoddi i drosi data’n wybodaeth
  • cyfathrebu i drosi gwybodaeth yn hysbysrwydd
  • camau i wella effeithlonrwydd ac i ddileu gwastraff

Mae hon yn broses barhaus, ac ar ôl iddi sefydlu’i hun ni ddylai fod yn rhy gymhleth na chymryd gormod o amser.
Mae M&T yn eich galluogi i:

  • ganfod gwastraff ynni y gellid ei osgoi na fyddai’n dod i’r amlwg fel arall
  • meintioli arbedion a gyflawnir yn sgil prosiectau ac ymgyrchoedd ynni
  • canfod meysydd ymchwil buddiol ar gyfer arolygon ynni
  • paratoi adborth ar gyfer ymwybyddiaeth staff, gwella prosesau pennu cyllidebau a gwneud gwaith meincnodi
  • cyfrifo targedau lleihau ynni a charbon mewn ffordd resymegol i adlewyrchu perfformiad y gellid ei wireddu – yn aml, bydd targedau’n cael eu pennu heb ystyried yr hyn y mae modd ei gyflawni

Mae MM&T hefyd yn helpu i wirio anfonebau ac i negodi tariffau. Weithiau bydd y term yn cael ei ddefnyddio’n amhriodol i olygu dilysu biliau’n unig, tra bod gwir MM&T yn golygu llawer mwy. Mae systemau mesur awtomatig (AMR) yn defnyddio mesuryddion nad oes yn rhaid eu darllen. Mae AMR yn gwneud y broses o ddarllen mesuryddion yn llawer haws ac mae’n golygu bod modd casglu data ynni llawer mwy manwl. Er enghraifft, byddwch yn gallu gweld faint yn union o ynni sy’n cael ei ddefnyddio ‘y tu allan i oriau’. Gall hyn olygu ‘gormodedd o ddata’, ond dylech gydbwyso ymarferoldeb a chost unrhyw fesur gyda’r buddiannau a ddaw yn ei sgil. 

Canfod cyfleoedd

Gellir canfod cyfleoedd i wella effeithlonrwydd ynni trwy:
Ddadansoddi data ynni trwy MM&T, gan gynnwys cymharu â meincnodau mewnol neu allanol.
Cynnal arolygon ynni neu ymarferiadau cyfatebol. Mae’r rhain yn amrywio o ymddygiad staff i arfarniadau manwl o beiriant technegol penodol neu gyflwr ffisegol adeiladau. Efallai y cewch wybodaeth ddefnyddiol o arolygon cyflwr adeiladau a chyfarpar cyfredol, cofrestrau o asedau a thystysgrifau ynni adeiladau.

Yr unig ffordd o fod yn hollol siŵr o’r cyfleoedd sydd ar gael i arbed ynni yw trwy edrych ar yr adeiladau, y peiriannau a’r cyfarpar a chanfod achosion o wastraff ynni ac aneffeithlonrwydd. Nid oes angen gweithiwr effeithlonrwydd ynni proffesiynol bob amser i ddod o hyd i arbedion – gellir dod o hyd i lawer o gyfleoedd trwy ddefnyddio synnwyr cyffredin yn unig.

Cewch awgrymiadau o beth i chwilio amdano yn y taflenni ffeithiau sector benodol a’r arweiniad i wresogi a goleuo

Diwylliant sefydliadol

Rhaid i strategaeth rheoli ynni ymgysylltu â staff ar bob lefel, o’r prif weithredwr i’r gweithiwr rhan amser. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod eich cyflogeion yn ymwybodol o bwysigrwydd arbed ynni, i’r sefydliad ac i’w amodau gwaith eu hunain. Mae pobl yn fwy tebygol o newid eu harferion os ydynt yn deall sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar yr ynni a ddefnyddir. Dylai staff deimlo’n ddigon hyderus i allu gwneud awgrymiadau a bod yn ddigon gwybodus i weithredu. Dylai uwch reolwyr gael eu gweld fel arweinwyr y broses ac yn gosod esiampl dda.

Gellir annog newid ymddygiadol trwy gynnwys tasgau effeithlonrwydd ynni mewn gweithredoedd pob dydd, er enghraifft, arferion cau i lawr ac amserlenni cynnal a chadw. Ewch i dudalen Ymwybyddiaeth Cyflogeion ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am ragor o wybodaeth a deunyddiau i helpu i redeg ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu mewnol da’n elfen bwysig o ddatblygu diwylliant a fydd yn helpu effeithlonrwydd ynni. I ddangos pa mor wyrdd ydynt, mae sefydliadau’n rhannu eu hymdrechion yn allanol â chwsmeriaid, cyflenwyr, cyfranddalwyr, y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill.

Mae lledaenu newyddion da’n bwysig am ei fod yn annog pobl sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant ac mae’n rhoi gwybod i randdeiliaid bod eu buddiannau’n cael eu gwarchod.

Mae elfen ‘cysylltiadau cyhoeddus’ rheoli ynni’n bwysig i’r sefydliad oherwydd:

  • gall rhannu canlyniadau roi boddhad a gweithredu fel cymhelliad i’r sawl sydd â chysylltiad uniongyrchol ac anuniongyrchol
  • gall rhoi cyhoeddusrwydd i gyflawniadau ynni helpu enw da’r sefydliad

Adolygiad Rheoli

Fel yn achos pob proses reoli, mae adolygiadau rheoli ynni rheolaidd yn hanfodol i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud a bod dogfennau’r polisi, y strategaeth a’r cynllun gweithredu’n gyfoes ac yn berthnasol.

Bydd cynllun gweithredu’n cadw strategaeth rheoli ynni ar y trywydd cywir, ond bydd adegau pan fydd angen asesiad mwy manwl. Gall hyn gynnwys mesur perfformiad yn erbyn y cynllun gwreiddiol, neu yn erbyn newid mewn polisi sefydliadol.

Mae rhai sefydliadau’n cynnwys asesiadau rheoli fel rhan o’u polisi ynni cyffredinol, gan sicrhau bod cynnydd yn cael ei fesur yn rheolaidd a bod yr uwch reolwyr yn cael eu hysbysu o’r canlyniadau. Mae hyn yn creu cyfle i reoli perfformiad anfoddhaol ar unwaith cyn iddo ddechrau cael effaith negyddol.

Bydd asesiadau’n cynhyrchu adborth gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio i:

  • gadarnhau ymrwymiad ar y lefel uchaf
  • adolygu a newid polisïau ac amcanion
  • diwygio cynlluniau gweithredu
  • ailddiffinio rolau a chyfrifoldebau
  • newid trefniadau adrodd

Gellid trefnu adolygiadau llai bob tri neu chwe mis, gyda dadansoddiad blynyddol llawn i gadw’r strategaeth ar y trywydd cywir. Cofiwch gynnwys yr holl staff. Un ffordd o barhau i gynnwys pawb mewn rheoli ynni yw cael wythnos ynni flynyddol i hyrwyddo cynllun y flwyddyn nesaf.


Y Camau Nesaf

Gan fod gennych yn awr ddealltwriaeth dda o’r hyn sydd ei angen i reoli ynni’n effeithiol, gallwch gynllunio sut yr ydych yn mynd i roi system ar waith yn eich sefydliad. Dyma ddylai’r camau nesaf fod:

  • deall defnydd eich sefydliad o ynni, y costau a’r ymrwymiadau cyfreithiol
  • asesu lle’r ydych wedi’i gyrraedd ar y daith rheoli ynni
  • sicrhau cefnogaeth uwch reolwyr a dyrannu adnoddau
  • datblygu polisi ynni a strategaeth gychwynnol
  • gweithio i ffurfioli rheoli ynni a’i integreiddio ym mhob rhan o’r sefydliad

Os ydych wedi mynd tipyn o ffordd ar hyd y daith, dylech fod yn gwneud y canlynol:

  • canolbwyntio ar gyflawni gostyngiadau
  • adolygu’r system
  • hybu ymwybyddiaeth
  • canfod cyfleoedd newydd

Ardystio eich System Rheoli Ynni a chyflawniadau 

Gall System Rheoli Ynni sefydliadau gael ei hardystio gan safon gydnabyddedig os ydynt yn dymuno hynny. Mae ardystio’n ffordd o ddangos a chyfleu eich ymrwymiadau a’ch cyflawniadau rheoli ynni, ac mae bellach yn rhywbeth mae cwsmeriaid yn ei fynnu ac yn ei ddisgwyl. Mae systemau rheoli ynni cyffredin yn cynnwys BS EN 16001, ISO 140001 ac ISO 50001. Am ragor o wybodaeth ewch i ISO yma. 

Opsiwn arall heblaw safonau o’r fath yw Safon Route to Net Zero yr Ymddiriedolaeth Garbon sy’n pennu meini prawf perfformiad ar gyfer mesur, rheoli a lleihau ôl troed carbon sefydliadau. Mae’n cyfleu neges gref bod camau’n cael eu cymryd i leihau allyriadau carbon o flwyddyn i flwyddyn. Mae hyn yn arwydd cryf o barhad yn yr ymrwymiad ac yn sicrhau enw fel sefydliad cynaliadwy. I sicrhau ardystiad yn erbyn Safon Route to Net Zero yr Ymddiriedolaeth Garbon, bydd yn rhaid i’ch sefydliad:

  • fesur ei ôl troed carbon 
  • dangos gostyngiad mewn allyriadau carbon
  • cyflwyno tystiolaeth o reolaeth dda dros lefelau carbon

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Garbon.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.