BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Kelly East Financial Advisor

Yn gryno: Kelly yw Rheolwr Gyfarwyddwr Kelly East Financial Advisor, practis gwasanaeth ariannol sy’n cynnig cyngor ariannol i gleientiaid ar draws y DU, gan gwmpasu bensiynau, buddsoddiadau a morgeisi yn ogystal a chyngor ar gynllunio treth etifeddiant, llesiant ariannol a setliadau ysgariad.

Rhanbarth: Casnewydd

Gwobrau:

  • Cynghorydd Proffesiynol 2020 – Dychwelwr Mwyaf Ysbrydoledig
  • Cynghorydd Proffesiynol 2021 – Chanmoliaeth Uchel  - Model Rôl y flwyddyn 
  • Cynghorydd Proffesiynol 2022 – Enwebwyd mewn 3 chategori – Canlyniadau Hydref 2022
  • VouchedFor 2020 – Gwobr Cynghorydd o'r Radd Flaenaf
  • VouchedFor 2020 – Gwobr Cwmni â'r Sgôr Uchaf
  • VouchedFor 2021 – Gwobr Cynghorydd o'r Radd Flaenaf
  • VouchedFor 2021 – Gwobr Cwmni â'r Sgôr Uchaf
  • VouchedFor 2022 – Gwobr Cynghorydd o'r Radd Flaenaf
  • VouchedFor 2022 – Gwobr Cwmni â'r Sgôr Uchaf

Doeddwn i erioed wedi meddwl rhoi fy hun ymlaen am wobr nes i mi ddechrau fy musnes fy hun ddwy flynedd yn ôl, ar ôl degawd yn gweithio o fewn gwasanaethau ariannol. Roeddwn i bob amser wedi bod eisiau bod yn fos arnaf fy hun a chael fy nghwmni fy hun felly pan darodd y pandemig, penderfynais fentro o'r diwedd a sefydlu Luna Financial Planning. Fel busnes newydd yn y sector, penderfynais ymgeisio am wobrau i helpu i godi fy mhroffil i a Luna ac arddangos y gwaith gwych yr oeddem yn ei wneud fel tîm.

Doeddwn i erioed wedi ennill sticer mewn diwrnod mabolgampau yn yr ysgol felly fe wnes i feddwl y byddwn yn gwneud iawn amdano yn fy 40au ac yn ymgeisio am bob gwobr y gallwn! Ers dechrau Luna, rwyf wedi ymgeisio ac wedi cyrraedd y rhestr fer mewn nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Menywod mewn Cyngor Ariannol 2020, gwobr Cynghorydd Benywaidd Gorau Cymru, Gwobr Cyngor Ariannol 2021 a’r Cwmni Cyngor Gorau 2021 VouchedFor 2021 enillwyd gennym - ni oedd y yr unig gwmni cynghori yng Nghymru sydd â’r teitl hwnnw.

Rwyf wedi gwneud cais am rai gwobrau i mi fy hun, tra bod eraill wedi bod o ganlyniad i rywun arall yn ein henwebu - mae'r ddau yn dod â'r un faint o falchder.

Mae ennill gwobr wedi bod yn gymaint mwy i mi na gwobr yn unig. Mae wedi cyfrannu at dwf personol enfawr ac wedi helpu i roi hwb i fy hyder. Rwyf bob amser wedi dioddef o ‘imposter syndrome’ a phryder felly yn ei chael yn anodd derbyn y byddai rhywun yn meddwl fy mod yn haeddu clod, ond mae cyrraedd y rhestr fer ac ennill wedi cadarnhau fy mod yn dda yn yr hyn yr wyf yn ei wneud ac yn haeddu cael fy nghydnabod.

Mae’n deimlad gwych ennill gwobr – rydych chi’n cael bwrlwm o adrenalin. Mae wedi fy ysgogi i dyfu fy musnes ac ysbrydoli menywod eraill i ymdrechu am fwy, yn enwedig y staff benywaidd yn fy nghwmni fy hun ac yn y byd ariannol.

Mae cael gwobrau y tu ôl i'ch busnes hefyd yn rhoi'r hyder i ddarpar gleientiaid eu bod yn dewis cwmni ag enw da.

Hoffwn weld mwy o fenywod yn cymryd rhan mewn gwobrau. Fy nghyngor i fyddai rhoi cynnig arni a phan ddaw'n amser enwebu eich hun, byddwch yn ddilys ac yn ffyddiog i bwy ydych chi'n bersonol ac yn broffesiynol. Fel rhywun sydd wedi dioddef gyda’i iechyd meddwl ers yn 13 oed, rwy’n gwybod â’m llygaid fy hun pa mor anodd y gall fod i wneud rhywbeth sydd allan o’ch cysur ond mae’n werth chweil! Ei wneud yw'r rhan anoddaf mewn gwirionedd ond unwaith y bydd hynny wedi'i wneud, mae wedi'i wneud ac mae cymaint y gallwch chi ei ennill.

Rwy'n fenyw, yn llwyddo mewn byd sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion, sydd wedi bod yn anodd ar adegau. Rwy'n gobeithio y gall fy mhrofiad helpu i wneud gwahaniaeth ac ysbrydoli menywod eraill i ddechrau eu busnesau eu hunain a rhoi eu hunain ymlaen ar gyfer gwobrau!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.