Yn gryno: Youmna yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Nyfasi - y cwmni y tu ôl i gynnyrch datglymu arloesol ar gyfer pobl â gwallt affro. Tra'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe sefydlodd Youmna rwydwaith BAME hefyd i gefnogi myfyrwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n astudio peirianneg yn y brifysgol.
Rhanbarth: Abertawe
Gwobrau:
- Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2020
- Dyfarnwyd cymrodoriaeth menter gan yr Academi Beirianneg Frenhinol ym 2020
Yn ystod fy ngyrfa academaidd yn gweithio fel peiriannydd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, wnes i ddim ystyried ymgeisio am wobrau. Ond nawr, gyda gwobr a chymrodoriaeth o dan fy ngwregys, gallaf ddweud yn ddiogel bod gwobrau wedi fy helpu i godi fy mhroffil a datblygu fy musnes mewn ffyrdd na allwn fod wedi dychmygu.
Pan ddes i i’r DU i astudio am radd mewn ffiseg, roeddwn i’n un o ddwy fyfyrwraig yn unig a’r unig berson o liw ar fy nghwrs, a wnaeth i mi deimlo’n ynysig. Roeddwn i’n benderfynol o ddefnyddio fy mhrofiad i helpu i baratoi’r ffordd i fyfyrwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill i ffynnu ym myd gwyddoniaeth.
Yn 2019 sefydlais Rwydwaith BAME Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe i godi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae myfyrwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu a gwahodd staff, myfyrwyr ac arweinwyr busnes i fyfyrio ar atebion posibl. Fe wnaethom dreialu cwrs hyfforddi ac arwain a roddodd gyfle i 10 myfyriwr doethuriaeth yn eu blwyddyn olaf fyfyrio ar fanteision diwylliant i’w harweinyddiaeth a’u sefydliad, tra bod hyfforddiant un-i-un yn adeiladu eu hunanhyder trwy dorri eu credoau cyfyngol.
Wrth sefydlu'r rhwydwaith, roeddwn hefyd yn datblygu'r peiriant datglymu Nyfasi Deluxe ar gyfer gwallt affro. Daeth y cymhelliad o'r adeg pan oeddwn i'n gofalu am ferch a fyddai mewn dagrau bob tro y byddai ei gwallt yn cael ei gyflyru a'i datglymu, oherwydd mae gwallt affro-gwead yn clymu'n hawdd, sy'n ei gwneud hi'n boenus ac yn cymryd llawer o amser i ymbincio. Yn y pen draw, talodd fy ymdrechion ar ei ganfed a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Menter Beirianneg yr Academi Frenhinol i mi i fasnacheiddio fy nyfais.
Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd fy mod wedi cael fy enwebu’n ddienw ar gyfer y categori Merched mewn STEM yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg 2020 am greu’r rhwydwaith. Ar ôl i mi ddarganfod, wnes i ddim meddwl llawer nes i mi gyrraedd y rownd derfynol, lle darganfyddais fanteision anhygoel o fod yn y rownd derfynol. Wnaeth ennill gwobr Womenspire agor ddrysau i ddigonedd o gyfleoedd, gan gynnwys y cyfle i siarad â sefydliadau fel ITV, gwasanaeth Afrique y BBC a Senedd Cymru, yn rhoi cyhoeddusrwydd i fy ngwerthoedd a’m gweledigaeth ar gyfer Nyfasi trwy adrodd fy stori, yn fy gosod fel arweinydd credadwy mewn arloesi.
Arweiniodd yr amlygiad at gynnydd yn nifer y dilynwyr ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Nyfasi sydd wedi bod yn hynod fuddiol, yn enwedig o ran estyn allan at wirfoddolwyr i arbrofi cynhyrchion a cynnig adborth i helpu i lywio datblygiad cynnyrch pellach. Fe wnaeth hefyd fy ngalluogi i ehangu fy rhwydwaith ar draws y DU, Mayotte, a Ffrainc, gan fy helpu i feithrin cysylltiadau â darpar gwsmeriaid a chael mwy o ddiddordeb gan fuddsoddwyr. Fis Hydref diwethaf, gwnaeth stori fy siwrnai entrepreneuraidd newyddion cenedlaethol ar y BBC hefyd, gan arwain at 2,600 o gofrestriadau ar gyfer lansio’r cynnyrch. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf hefyd wedi cael fy nghydnabod yn gyhoeddus gan Weinyddiaeth Ffrainc fel Talent o Adran Dramor Ffrainc 2021.
Ar lefel bersonol, roedd cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi. Drwy gydol y broses wobrwyo, teimlais nad oeddwn yn haeddu sylw ond sylweddolais yn fuan nad oedd fy ofn yn ymwneud â chael fy ddathlu ond yn hytrach yn ymwneud â phoeni am fod yn llygad y cyhoedd ac o bosibl yn methu. Fe wnes i atgoffa fy hun pam roeddwn i eisiau gwneud hyn - i rymuso ac ysbrydoli menywod eraill - ac fe wnaeth hyn fy ngalluogi i groesawu pob cyfle a gyflwynwyd trwy’r wobr gyda hyder.
Byddwn yn annog pawb i enwebu eu hunain ar gyfer gwobr i arddangos eu busnes a dathlu eu hymdrechion. Os byddwch chi'n ennill, mae'n amlwg yn wych, ond hyd yn oed os na wnewch chi, mae'r broses yn rhoi profiad gwerthfawr i chi a fydd yn eich helpu i fireinio a gloywi'r ffordd rydych chi'n siarad am eich busnes.
Gall bod yn rhan o wobrau agor eich busnes i fyrdd o gyfleoedd ar gyfer twf a llwyddiant - does gennych chi ddim byd i'w golli!