Cynnwys
1. Cyflwyniad
Mae llwyddiant pob sefydliad yn dibynnu ar ei bobl. Gofalwch am eich pobl a byddwch yn debygol o gael staff brwd a chynhyrchiol a busnes mwy llwyddiannus. O beidio â gwneud pethau’n iawn, fe fydd gennych bobl ddigalon ac isel eu morâl a mwy o absenoldebau. A chewch chi ddim chwaith y chwa creadigol hwnnw sydd ei angen arnoch chi – yn enwedig wrth i’ch staff ddelio â’ch cwsmeriaid.
Mae gweithwyr trawsrywiol yn aml yn cael cam yn y gwaith, er nad yw hynny bob tro’n fwriadol. Mae llawer ohonyn nhw’n dewis peidio â mynegi’u teimladau yn y gwaith gan fod ofn adwaith trawsffobig eu cyflogwyr a’u cydweithwyr arnyn nhw. Mae hyn yn eu rhoi o dan lawer o straen, felly fyddan nhw ddim yn debygol o weithio ar eu gorau. Mae gweithle sy’n dathlu amrywiaeth, yn enwedig o ran rhywedd, yn recriwtio ac yn cadw staff gwerthfawr – rhywbeth fydd o les i bawb, nid dim ond i’r grwpiau dan sylw.
Mae cyflogwr cyfrifol yn gwneud mwy nag y mae’r gyfraith yn gofyn amdano o ran darparu gweithle diogel ac iach i’w weithwyr. Bydd yn creu amgylchedd gwaith positif sy’n cadw cydbwysedd rhwng anghenion y busnes ac anghenion yr unigolion sy’n gweithio ichi, gan wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn rhan werthfawr o’r busnes.
Mae cael pethau’n iawn yn hyn o beth yn golygu y cewch chi hi’n haws recriwtio a chadw gweithwyr, bydd llai o absenoldebau a bydd eich gweithwyr yn fwy brwd ac felly’n fwy cynhyrchiol.
Mewn gweithle da, bydd pobl yn gallu cyfathrebu’n rhwydd â’i gilydd, yn ymddiried yn ei gilydd ac yn cael eu trin yn deg. Bydd y gwaith yn ddiddorol; bydd pawb yn teimlo’ch bod yn gwerthfawrogi’u cyfraniad a chaiff pawb gyfle i lwyddo.
Bydd rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn helpu’ch busnes i lwyddo yn y dyfodol. Mae pob gweithiwr yn wahanol, a gall gwybod ei fod yn cael ei barchu fel unigolyn yn y gwaith wneud byd o wahaniaeth.
2. Gwybodaeth pellach
Dilynwch y dolenni isod i weld cyngor ymarferol a defnyddiol i gyflogwyr, a syniadau ynghylch recriwtio a chadw gweithwyr trawsrywiol a darpar weithwyr trawsrywiol.
Ganllawiau Stonewall
Cyfathrebu ymrwymiad i gynhwysiant trans