BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gweithio â’ch contractwr gwastraff

Mae’r gost o waredu gwastraff yn codi, ac mae deddfwriaeth yn rhoi pwysau ar fusnesau
i reoli a didoli gwahanol fathau o wastraff. Ar ôl i chi gynnal archwiliad gwastraff i weld pa
fathau a faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu a’r deunydd y gallwch ei ailgylchu, gallwch gymryd camau i leihau gwastraff a’ch defnydd o ddeunyddiau crai. Bydd yr hierarchaeth gwastraff yn eich helpu i benderfynu ar flaenoriaethau i reoli a dileu gwastraff cyn iddo gael ei gynhyrchu.

Efallai y gall eich cyflenwyr eich helpu i leihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir; mae rhai cwmnïau’n cynnig gwasanaeth cymryd yn ôl ar gyfer deunydd pacio a all wedyn gael ei ailddefnyddio, neu gallwch drafod dulliau pacio amgen.

Dewis contractwr gwastraff ac ailgylchu 

Gall eich awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff a deunydd masnachol i’w ailgylchu, neu gellir ei brynu’n uniongyrchol gan gontractwr gwastraff ac ailgylchu preifat. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis gwasanaeth sy’n addas ar gyfer y lefelau a’r math o wastraff a gynhyrchir gan eich busnes.  

Efallai y gall eich cwmni rheoli gwastraff eich helpu i ailgylchu mwy, trwy ddarparu gwasanaeth ailgylchu ar gyfer deunyddiau sych y gellir eu hailgylchu a gwasanaeth casglu bwyd gwastraff a fydd yn addas ar gyfer gofynion unigol eich busnes. Gallai hyn gynnwys casgliadau ar wahân ar gyfer papur, cerdyn, plastig, gwydr, caniau, bwyd ac eitemau trydanol.

Gall eich contractwr gwastraff ac ailgylchu eich helpu i reoli’r gwastraff gweddilliol a gynhyrchir gennych, yn ogystal â lleihau costau gwaredu gwastraff. Os nad oes gennych ddata eto ar faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu gall eich contractwr gwastraff eich helpu i goladu hyn a helpu i fonitro arbedion. 

Am bob ffrwd deunydd gwastraff neu ailgylchu dylech gael dogfennau sy’n dweud beth a faint sydd wedi’i symud o’ch safle. Mae gwastraff yn cael ei godio gan ddefnyddio codau’r catalog Gwastraff Ewropeaidd (EWC) a gellir rhoi meintiau mewn tunelli neu faint y biniau. Am ragor o wybodaeth am ddogfennaeth ‘Dyletswydd Gofal’ (nodiadau trosglwyddo neu gludo gwastraff) cliciwch yma.

Cofiwch, dylai gwastraff gael ei drin a’i storio’n ddiogel ac yn saff mewn cynwysyddion addas, sydd wedi’u labelu’n eglur sy’n gwneud yn siŵr nad oes dim yn gollwng ohonynt, nac yn eu halogi na’u difetha.

Gweithio â’ch contractwr gwastraff i ddod o hyd i gyfleoedd i leihau costau

Er mwyn penderfynu a yw eich darpariaeth bresennol, neu’r un a fwriedir, yn ateb eich galw, a yw’n cydymffurfio ac yn cynnig gwerth am arian, dylid gofyn nifer o gwestiynau allweddol:

  • Faint mae’r gwasanaeth yn ei gostio?

Gofynnwch i’ch adran cyfrifon am anfonebau, ac edrychwch ar gopi o’r contract sy’n rhoi manylion am drefniadau eich gwasanaeth presennol. Gwiriwch y contract i weld a oes ffioedd ychwanegol yn cael eu codi am derfynu’r contract, rhentu biniau, neu finiau sydd wedi’u gorlenwi, neu gasgliadau a gollwyd / wedi’u halogi.

Mae cost casglu gwastraff yn gysylltiedig â math a chyrchfan y gwastraff. Mae’r gost i gasglu deunydd sy’n cael ei ailgylchu fel arfer yn is na chost gwastraff cyffredinol, sy’n gymhelliad i ailgylchu mwy.

  • A yw’r contract yn codi’n ôl pwysau ynteu nifer y casgliadau?

Gall deall goblygiadau cost pob math o strwythur codi tâl eich helpu i gynyddu arbedion a buddiannau amgylcheddol contractau. Os ydynt yn codi’n ôl pwysau, gwnewch yn siŵr bod gan y contractwr offer pwyso digonol, ac nad yw’r costau’n cael eu seilio ar amcangyfrif o’r pwysau.

  • Pa mor aml mae’r biniau’n cael eu casglu?

Bydd angen cytuno ar ba mor aml fydd y biniau’n cael eu casglu ac ar ba amser o’r dydd. Os oes unrhyw gyfyngiadau o ran mynediad i’ch safle, bydd yn rhaid i’ch contractwr gael ei hysbysu. Dylech weithio â’ch contractwr i wybod sut mae’ch gwastraff yn cael ei reoli, i ble mae’n mynd i gael ei ddidol ymhellach, neu i gael ei ailgylchu neu ei drin.

  • A yw’r biniau’n llawn pan fyddant yn cael eu casglu?

Gallwch fod yn talu i wagio biniau gwag neu rannol wag. Ystyriwch gael gwared ar rai o’r biniau neu leihau nifer y biniau ar eich safle. Efallai y bydd amrywiadau tymhorol yn lefelau’r gwastraff a gynhyrchir; byddai hyblygrwydd mewn contractau yn caniatáu i chi gynyddu neu leihau nifer y casgliadau ar gais. 

Dylech ystyried cywasgu ffrydiau gwastraff swmpus fel cardfwrdd trwy ddefnyddio byrnwr y gallech ei hurio neu ei brynu. Gall gwahanu deunyddiau ailgylchadwy atal halogi deunyddiau a gall gynyddu’r cyfleoedd i gael ad-daliad. Argymhellir eich bod yn gwahanu gwastraff bwyd os yw’r gwasanaeth hwnnw ar gael.  

  • A yw fy ngwastraff yn werthfawr?

A oes unrhyw ad-daliadau / gostyngiadau / cyfraddau ffafriol am ddidoli gwastraff ailgylchadwy ar gyfer casgliad ar wahân, e.e. cardfwrdd? 
Efallai bod gan eich gwastraff a’ch deunydd ailgylchadwy werth ariannol y gellid ei roi yn erbyn costau casglu’r contractwr, neu hyd yn oed gynhyrchu incwm i chi.

Mae gwybodaeth am werth gwastraff ailgylchadwy ar gael yn Lets Recycle.

  • A yw eich contractwr yn cynnig gwasanaethau ategol ychwanegol?

Gall rhai contractwyr eich helpu i reoli neu leihau eich gwastraff trwy gynnig archwiliadau gwastraff ar y safle neu gynlluniau i leihau gwastraff. Gallant hefyd gynnig deunyddiau cyfathrebu neu bosteri i’w gosod ar finiau i helpu i ddangos beth a ellir ei roi ac na ellir ei roi yn y biniau. Gall contractwyr hefyd gynnig cyfarpar i gywasgu neu fyrnu deunyddiau, neu wasanaethau sy’n eich galluogi i gofnodi, mesur a monitro’r gwastraff a gynhyrchir.

  • Yn olaf, a yw’r contractwr gwastraff ac ailgylchu wedi’i gofrestru?

Dylech fod yn hyderus fod eich gwastraff yn cael ei drin mewn ffordd gyfreithlon ar eich rhan ac mewn ffordd sy’n amgylcheddol gyfrifol. Gofynnwch i’ch contractwr gwastraff sut ac ym mhle mae’r gwastraff yn cael ei drin neu ei waredu.

Ni ddylech drosglwyddo eich gwastraff i neb oni bai eu bod wedi’u hawdurdodi i’w drin. Rhaid i bwy bynnag sy’n casglu ac yn cludo eich gwastraff fod wedi’i gofrestru fel cludwr gwastraff a reolir. Dylai cludwyr gwastraff cofrestredig allu dangos Tystysgrif Gofrestru ar gais i ddangos eu bod wedi’u trwyddedu. Dylai busnesau wirio dyddiad dod i ben y cofrestriad ar y tystysgrifau hyn a dylid nodi nad yw llungopi’n dystiolaeth ddigonol o gofrestriad.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.