BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cydweithio

Mae cydweithio wrth wraidd Cymru’n Arloesi, ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Dechreuwch eich taith at arloesi yma.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydweithredu ac mae gennym lawer o rwydweithiau, cytundebau a phartneriaethau a all eich helpu i feithrin cysylltiadau gyda sefydliadau blaengar tebyg i chi yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd.


Cydweithredu Rhyngwladol

1) Horizon Europe yw rhaglen yr UE ar gyfer cyllido ymchwil ac arloesedd. Mae’n cefnogi partneriaid i rannu gwybodaeth a chreu technolegau.

2) Mae’r Vanguard Initiative yn cysylltu 38 o ranbarthau yn Ewrop ac yn hwyluso cydweithredu rhyngranbarthol.

3) Mae’r Enterprise Europe Network (EEN) yn helpu busnesau i arloesi a thyfu ar raddfa ryngwladol. Dyma rwydwaith cymorth mwyaf y byd ar gyfer busnesau bach a chanolig (BbaCh) ac mae ganddo uchelgeisiau rhyngwladol.

Cydweithredu o fewn y DU

1) Mae Contractau ar gyfer Arloesi yn cysylltu heriau o fewn y sector cyhoeddus gyda syniadau blaengar o’r diwydiant. Maent yn galluogi sefydliadau i ddefnyddio technoleg a datrysiadau newydd i fynd i’r afael â phroblemau o fewn y gymdeithas a hefyd yn cefnogi busnesau i ddatblygu a thyfu.

2) Asiantaeth genedlaethol y DU ar gyfer arloesedd yw Innovate UK. Mae’n  cefnogi busnesau o fewn pob sector, technoleg a rhanbarth yn y DU i arloesi. Chwiliwch am gyfleoedd i gyllido’ch sefydliad yma.

3) Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru ac Innovate UK ynghylch sut orau i sicrhau Arloesedd yng Nghymru.

4) Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth (KTP) gallai’r rhain eich helpu i elwa ar raglen gymorth ar gyfer arloesedd er mwyn helpu eich busnes i arloesi a thyfu. Bydd y cynlluniau hyn yn eich cysylltu â sefydliad academaidd neu ymchwil a pherson graddedig i’ch helpu i gyflawni eich nodau. 

 


Cymorth Arloesi

A allai eich sefydliad elwa o Gymorth Arloesi Hyblyg? Yma gallwch ddarganfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael gennym.

Mae ein cymorth wedi helpu nifer o sefydliadau a busnesau i lwyddo. Gallwch ddarganfod mwy amdanynt a sut y bu ein cymorth o fudd iddynt.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.