Gellir cyflawni twyll yn ddichellgar mewn nifer o ffyrdd, gyda chamliwio’n fwriadol i ennill mantais ariannol anghyfreithlon i'r troseddwyr eu hunain neu i eraill yn broblem enfawr.
Effeithiau
Gall busnesau ddioddef yn erchyll o dwyll, gall arwain at golledion enfawr os yw arian yn cael ei dynnu o gyfrifon banc yn anghyfreithlon. Gall cwsmeriaid golli ymddiriedaeth mewn cwmniau os ydyn nhw’n gweld eu bod yn gallu cael eu twyllo.
Rhwystro
Os yw busnesau'n trin llawer iawn o arian, gellir cymryd mesurau rhwystro megis gofyn am brawf adnabyddiaeth cyn rhyddhau symiau dros hyn a hyn. Dylai busnesau sy’n cymryd taliadau drwy gardiau ystyried Safon Diogeleddd Data'r Diwydiant Cardiau Talu, sy’n safon diogeledd byd-eang ar gyfer taliadau â chardiau.
Riportio
- Dylid adrodd ynghylch troseddau twyllo yn erbyn busnesau yng Nghymru i Action Fraud, un ai ar lein; neu drwy ffonio 0300 123 2040
- Action Fraud yw canolfan adrodd ar dwyll ar gyfer y DU gyfan lle gallwch adrodd ar dwyll os ydych wedi dioddef o dwyll.
- Mae Action Fraud yn bwynt cyswllt sengl ar gyfer gwybodaeth ynghylch twyll a throseddau ariannol ar y rhyngrwyd. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol - asiantaeth y llywodraeth sy'n helpu i gydlynu'r frwydr yn erbyn twyll yn y DU. Mae Action Fraud yn gweithio gyda phartneriaid mewn gwaith gorfodi’r gyfraith - y Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol sy’n cael ei redeg gan Heddlu Dinas Llundain - i wneud yn siŵr fod eich adroddiadau ynghylch twyll yn cyrraedd y lle iawn.
- Pan fyddwch yn adrodd wrth Action Fraud byddwch yn cael rhif cyfeirnod trosedd yr heddlu. Bydd yr adroddiadau a dderbynnir yn cael eu hanfon at yr heddlu ac efallai y cysylltir â chi i gael rhagor o wybodaeth. Nid yw Action Fraud yn ymchwilio i achosion ac nid yw’n gallu rhoi gwybodaeth i chi ynghylch cynnydd eich achos.