Diffinnir fandaliaeth fel difrodi’n fwriadol eiddo cyhoeddus a phreifat. Ar eiddo preifat, y ffurf fwyaf cyffredin o fandaliaeth yw torri ffenestri a graffiti.
Effeithiau
Er nad yw hyn yn golygu llawer i fusnesau, heblaw costau glanhau a gosod gwydr newydd mewn ffenestri, mae’n effeithio ar y gymuned ehangach. Mae’r Ddamcaniaeth Torri Ffenestri yn dweud, os yw fandaliaid yn torri rhai ffenestri, ac os nad yw’r ffenestri hynny’n cael eu trwsio, yna mae ychydig yn rhagor o ffenestri yn cael eu torri. Yna, mae’r eiddo’n cael ei fwrglera. Gallai hyn gynyddu ac arwain at sgwatio.
Rhwystro
Drwy fuddsoddi mewn ffenestri gwydr dwbl a phaent gwrth fandaliaid, gall busnesau rwystro’r troseddau hyn. Fe allan nhw hefyd newid eu hagwedd at y math yma o droseddau. Efallai nad yw graffiti, er yn edrych yn flêr, yn cael ei weld yn broblem enfawr i fusnesau gan nad yw o angenrheidrwydd yn effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol, ond dylid ei gymryd o ddifrif rhag iddo arwain at ragor o broblemau.
Riportio
Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft:
- mae cerbyd wedi’i ladrata
- mae eiddo wedi’i ddifrodi
- i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall
Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn.
Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis:
- bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
- mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd
- mae bywyd rhywun mewn perygl
- mae rhywun wedi’i anafu
- mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth