BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol

Mae Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol yn gynllun disgresiynol a gyflwynir drwy Gronfa Dyfodol yr Economi, lle y defnyddir cyllid cyhoeddus i gefnogi twf Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu cynnwys o'r radd flaenaf.

Bydd y cyllid yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu a datblygu gemau yng Nghymru sy'n awyddus i ddatblygu cynyrchiadau a fwriedir ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol. Fe'i defnyddir hefyd i ddenu cwmnïau mewnfuddsoddi o'r radd flaenaf a all hybu'r economi leol a gadael gwaddol sylweddol o ran sgiliau yng Nghymru.

Mae Cymru Greadigol yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sector cynhyrchu cynnwys sy'n cynnig cyfleoedd cyfartal ac amrywiol ar gyfer sail cyflogaeth sgil uchel hirdymor. Bydd y cyllid yn targedu cwmnïau sy'n rhoi'r arferion diweddaraf ym maes cynhyrchu cynaliadwy ar waith ac sy'n rhoi'r pwys mwyaf ar lesiant cast, criw a chyflogeion, p'un a ydynt yn weithwyr llawrydd, yn gontractwyr neu'n staff parhaol.  

Rydym hefyd yn blaenoriaethu cynnwys sy'n dangos y gorau o Gymru i'r byd, o ran diwylliant, iaith a daearyddiaeth. 

Drwy'r cyllid hwn, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Hybu gweithgarwch cynhyrchu drwy ysgogi cynnydd yn nifer y cynyrchiadau a'r amrywiaeth o gynyrchiadau a wneir yng Nghymru 
  • Sicrhau bod cynyrchiadau a gefnogir yn cael yr effaith fwyaf posibl ar economïau lleol a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru 
  • Gwella cyfleoedd cyflogaeth yn y sector drwy sicrhau bod mwy o gyfleoedd cydgysylltiedig ar gyfer hyfforddiant a datblygiad 
  • Datblygu cynulleidfaoedd drwy wella mynediad i gynyrchiadau a chynnwys a wneir yng Nghymru, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol 
  • Datblygu enw da Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynyrchiadau a chydgynyrchiadau rhyngwladol, a gefnogir gan ein talent, ein criwiau, ein cyfleusterau a'n lleoliadau unigryw sydd o'r radd flaenaf
  • Helpu i ddatblygu gweithlu amrywiol medrus

Drwy'r cyllid hwn, bydd Cymru yn manteisio ar y cynnydd enfawr yn y galw am gynnwys ledled y byd, drwy ddatblygu diwydiant hirdymor cynaliadwy. Byddwn yn sicrhau y gall pawb sy'n gweithio yn y sector, o weithwyr llawrydd i griw, cast a staff parhaol, ddatblygu eu gyrfa mewn amgylcheddau gwaith teg. Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i gynnal llif o brosiectau arfaethedig sydd, yn ei dro, yn hanfodol i sicrhau sefydlogrwydd y diwydiant. 
 

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Gallwch wneud cais am Gyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol os ydych yn bodloni POB UN o'r meini prawf cymhwyso canlynol;

  • Eich prif weithgarwch busnes yw Ffilm neu'r Teledu (wedi'i sgriptio/heb ei sgriptio), Gemau neu Animeiddio
  • Bydd y cynhyrchiad cyfan neu ran sylweddol ohono yn cael ei (g)wneud yng Nghymru.
  • Mae gennych gynllun cyllid a ystyriwyd yn llawn gyda'r holl gyllid arall wedi'i drefnu
  • Mae elfen sgiliau/uwchsgilio i'r prosiect
  • Mae eich prosiect yn dangos ymrwymiad i amrywiaeth, cynwysoldeb a chynaliadwyedd.
  • Gallwch ddangos dichonoldeb masnachol (cytundeb dosbarthu, comisiwn, darlledwr ac ati) sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn
  • Mae o leiaf 12 wythnos tan ddyddiad dechrau'r prosiect (y prif gam ffotograffiaeth ar gyfer prosiectau Teledu a Ffilm) o ddyddiad yr ymholiad ynglŷn â'r prosiect *
  • Mae gan eich cwmni/tîm rheoli hanes y gellir ei ddangos o gyflawni yn y genre ac o leiaf un cynhyrchiad masnachol a ryddhawyd o fewn y tair blynedd diwethaf i ddyddiad y cais 

Noder - gall penderfyniad cyllido gymryd mwy na 12 wythnos a bydd angen cyflwyno cais wedi'i gwblhau'n llawn am gyllid. 

Sut i wneud cais
Defnyddiwch ein gwiriwr cymhwysedd i benderfynu a yw'r cyllid hwn yn iawn ar gyfer eich prosiect: https://businesswales.gov.wales/cronfacynhyrchugreadigol

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.