BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Opsiynau ar gyfer datblygu’ch busnes

Er bod sawl gwahanol ffordd o ddatblygu’ch busnes, mae popeth yn dod o dan bedwar opsiwn allweddol yn y bôn. Mae’r adran hon yn rhoi fframwaith i chi ystyried pob un o’r pedwar opsiwn allweddol hyn ac yn eich helpu i roi trefn ar eich syniadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 May 2016
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Cynnwys

1. Cyflwyniad

Er bod sawl gwahanol ffordd o ddatblygu’ch busnes, mae popeth yn dod o dan bedwar opsiwn allweddol yn y bôn. Mae’r adran hon yn rhoi fframwaith i chi ystyried pob un o’r pedwar opsiwn allweddol hyn ac yn eich helpu i roi trefn ar eich syniadau.

2. Opsiynau ar gyfer datblygu’ch busnes

Mae'r 4 opsiwn allweddol yw:

  • gwerthwch fwy o’ch cynnyrch neu wasanaeth cyfredol i’ch cwsmeriaid presennol
  • datblygwch gynnyrch neu wasanaeth newydd
  • gwerthwch eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth cyfredol i farchnad newydd
  • datblygwch gynnyrch neu wasanaeth newydd a’i werthu i farchnad gwbl newydd

Ansoff Matrix neu Grid Ehangu Cynnyrch / Marchnad yw’r enw ar y fframwaith defnyddiol hwn, ac mae’n ganllaw da i’ch helpu i roi trefn ar eich syniadau.

Cynnyrch neu Wasanaeth

 

 

Presennol

Newydd

 

 

 

Presennol

1. Treiddiad i’r Farchnad

Gwerthu mwy o’ch cynnyrch/wasanaeth presennol i gwsmeriaid cyfredol

2. Datblygu Cynnyrch

Datblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd i’w werthu i gwsmeriaid cyfredol

Marchnad

 

 

 

 

 

Newydd

 

3. Datblygu’r Farchnad

Gwerthu eich cynnyrch/wasanaeth presennol i farchnad newydd

4. Arallgyfeirio

Datblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd a’i werthu i farchnad newydd

 

Mae gofyn cael strategaethau a chamau gweithredu gwahanol ar gyfer pob un o’r opsiynau yma, yn ogystal â gwahanol sgiliau ac adnoddau.  Ystyriwch y risgiau yn ogystal â’r manteision sy’n gysylltiedig â phob dewis cyn penderfynu pa lwybr sydd fwyaf priodol er mwyn datblygu’ch busnes.

Gall fod yn ddefnyddiol edrych ar eich dadansoddiad SWOT a PESTLE eto wrth ystyried eich opsiynau ar gyfer datblygu’r busnes. Mae hyn yn eich galluogi i ganfod rhai o’r materion mae’n bosib y bydd angen ichi roi sylw iddyn nhw.

Gweler ein 'Beth ydych chi'n ei werthu canllaw' ar yr hyn y mae'n sy'n gwneud i chi sefyll allan - eich Pwynt Gwerthu Unigryw (USP).

Defnyddiwch y templed llwybr ar gyfer datblygu (MS Word 19kb) hwn i’ch helpu chi ystyried y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi ddatblygu’ch busnes.

3. Treiddio i’r farchnad

Y ffordd hawsaf gyda’r lleiaf o risg i ddatblygu’ch busnes, yw gwerthu mwy o’ch cynnyrch neu wasanaethau cyfredol i’ch cwsmeriaid presennol, neu bobl debyg iddyn nhw.

Efallai mai drwy hyrwyddo’ch busnes yn ehangach er mwyn i chi gyrraedd mwy o’ch cynulleidfa darged yw’r ffordd o wneud hyn, gan gynnig pris neu gynnig arbennig i’w hannog i brynu.

Neu gallech gyflwyno cynllun teyrngarwch i gwsmeriaid presennol i’w hannog i brynu mwy ac yn amlach.

Mae’r opsiwn hwn yn cynnig cyfle i weithio mewn partneriaeth â busnesau ategol. Rhoddir sylw i weithio ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth yn nes ymlaen yn yr adran hon.
 

4. Datblygu cynnyrch

Yr ail opsiwn yw datblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd a’i werthu i’ch cwsmeriaid presennol.

Er bod elfen o risg yn perthyn i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd, y fantais yn y sefyllfa hon yw eich bod yn adnabod eich cwsmeriaid yn barod. Rydych chi’n gwybod beth sy’n eu cymell a pha fath o gynnyrch a gwasanaethau efallai y bydden nhw’n dymuno eu cael.

Yn ystod y broses o ddatblygu cynnyrch newydd, gallwch ymgynghori â’ch cwsmeriaid presennol a theilwra’ch cynnyrch neu wasanaeth newydd i gyd-fynd â’u gofynion cystal â phosib.

Mae hefyd yn llawer iawn haws ac yn fwy cost-effeithiol i fynd yn ôl at gwsmeriaid bodlon a gwerthu rhywbeth newydd iddyn nhw, yn hytrach na dod o hyd i gwsmeriaid newydd.

Yn y sefyllfa hon, gall plymar sy’n targedu pobl sy’n dymuno cael cegin neu ystafell ymolchi newydd gynnig gwasanaeth teilsio. Neu gall delicatessen arbenigol gyflwyno siytnis i gyd-fynd â’u cawsiau a’u cigoedd oer. 

5. Datblygu’r farchnad

Y trydydd opsiwn ar gyfer datblygu’ch busnes yw gwerthu’ch cynnyrch neu wasanaeth i farchnad newydd.

Gall hyn olygu eich bod yn targedu ardal ddaearyddol newydd, ac er enghraifft, yn agor siop neu salon mewn tref wahanol.  Neu gallech ddefnyddio sianel wahanol i gael at eich cwsmeriaid, er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu o siop ar hyn o bryd, fe allech chi benderfynu gwerthu ar-lein ar eich gwefan eich hun.

Allforio

Fe allech chi ystyried allforio er mwyn cael mynediad i farchnad newydd a mwy o gwsmeriaid. Er bod risg uchel ynghlwm â hyn, ac y gall gymryd cryn amser, mae posib cael llawer yn ôl.

Cyn dechrau dilyn yr opsiwn hwn, rhaid i chi ymchwilio’n drwyadl i sut mae gwahanol farchnadoedd yn gweithio, yn ogystal â chynnal asesiad manwl o’r hyn sydd ei eisiau ar y farchnad, a pha mor addas yw eich cynnyrch a’ch gwasanaethau.  Mae llawer o gyngor arbenigol, cymorth ac arian ar gael i baratoi a chynllunio ar gyfer allforio gan yr adran Cymorth ar gyfer Masnach Ryngwladol yn. 

Masnachfraint

Opsiwn arall i ehangu'ch marchnad yw ystyried cael masnachfraint ar gyfer eich busnes.  Mae cael masnachfraint yn ffordd o amlhau eich busnes ac ymestyn i farchnadoedd newydd. Rydych chi’n rhoi trwydded i berchennog busnes arall sy’n caniatáu iddo fasnachu fel ei fusnes ei hun o dan eich enw brand chi, gan ddilyn model busnes sicr.

Mae cael masnachfraint yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae modd ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o wahanol fusnesau. Fodd bynnag, nid yw'n opsiwn rhad nac yn ‘ateb sydyn'.  Rhaid i chi allu dangos i ddarpar ddeiliaid masnachfraint, fod y busnes yn un llwyddiannus a bod y model busnes a’r systemau ar waith i’w galluogi i redeg y busnes eu hunain. Rhaid iddo fod yn fusnes y mae modd ei drosglwyddo ac y mae modd ei gynnal mewn amryw o leoliadau, gan ddefnyddio’r un model busnes, system, brand ac ansawdd.

Mae gwybodaeth fanwl am fasnachfraint ar gael gan Gymdeithas Masnachfriaint Prydain yn neu holwch eich cynghorydd busnes yn Busnes Cymru neu’ch banc am gyngor os yw hwn yn opsiwn rydych chi wedi bod yn ei ystyried.

Arallgyfeirio

Arallgyfeirio yw’r strategaeth risg uchaf ar gyfer datblygu’ch busnes. Gall helpu eich busnes ddod drwy amser anodd, drwy arwain at ffynonellau incwm eraill os bydd eich marchnad wreiddiol yn dod i stop, yn rhoi’r gorau i dyfu neu os yw cystadleuaeth yn effeithio arno.

Mae arallgyfeirio wedi bod yn strategaeth effeithiol i nifer o ffermwyr, sydd wedi chwilio am opsiynau newydd a gwahanol wrth i’w busnes traddodiadol ddirywio, er enghraifft, datblygu bythynnod gwyliau neu gyfleusterau hamdden fel beicio mynydd neu hyd yn oed gyrsiau golff.

Os ydych chi’n rhedeg eich busnes o gartref, byddwch yn ofalus wrth arallgyfeirio’r busnes, oherwydd gall gael effaith ar agweddau o’ch bywyd gartref yn ogystal â’ch busnes.  Rhaid i chi hefyd fod yn realistig ynghylch eich cynllun gadael neu gynllun olyniaeth, er enghraifft efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried a ellir rhedeg y busnes o eiddo gwahanol, neu a ydych chi’n fodlon symud tŷ er mwyn i’r busnes allu parhau yn yr eiddo presennol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.