BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Paratoi ar gyfer twf

Mae twf busnes yn bwysig i bob math o fusnesau. Nod pob busnes, beth bynnag fo’i faint, yw cynhyrchu incwm rheolaidd a chyson. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 June 2017
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Cynnwys

1. Cyflwyniad

Mae twf busnes yn bwysig i bob math o fusnesau. Nod pob busnes, beth bynnag fo’i faint, yw cynhyrchu incwm rheolaidd a chyson. Gall twf busnes fod yn hynod o gyffrous, ond mae’n golygu newidiadau o fewn y busnes. Mae’r adran hon yn edrych ar sut mae rheoli twf a bod yn barod am y newidiadau hynny, yn ogystal â phwysigrwydd gwybod beth rydych chi am ei gyflawni a chael cynllun ar waith.

 

2. Paratoi ar gyfer twf

Mae twf/datblygiad busnes yn bwysig ar gyfer pob math o fusnesau, boed chi’n meddwl ehangu busnes bach sydd newydd ddechrau i greu menter fawr neu gyfnerthu busnes ‘ffordd o fyw’ i gael mwy o sicrwydd a rhyddid personol.  Nod pob busnes, beth bynnag fo’i faint, yw cynhyrchu incwm rheolaidd a chyson.

Efallai nad yw strategaethau twf-cyflym, brwd, gyda lefel uchel o fuddsoddiad allanol at ddant pawb. I rai, mae twf cyson, naturiol, cam wrth gam, yn fwy priodol.  Y nod yw adeiladu a datblygu busnes dibynadwy a diogel.

Daw newidiadau gyda thwf

Gall twf busnes fod yn hynod gyffrous, ond mae’n golygu newidiadau o fewn y busnes. Mae gwybod beth rydych chi am ei gyflawni, bod yn barod am y newidiadau hynny, a chael cynllun ar waith, yn golygu y gallwch chi dyfu a llwyddo yn y ffordd orau i chi.

Nid yw twf busnes yn cael ei gynllunio bob tro. Gall ddigwydd fel rhan arferol o’r busnes, yn arbennig yn y dechrau. Fe allech weld eich bod yn gwneud paratoadau da, yn rhoi popeth ar waith, a bod y busnes yn llifo i mewn. Rydych chi'n gwneud cynnydd cyson, ac yn hapus â'ch llwyddiant ar y cychwyn.

Efallai y byddwch hefyd yn sylwi, pan fyddwch chi’n dechrau’ch busnes, oherwydd eich bod bellach yn meddwl yn wahanol ac am fod eich meddwl yn fwy agored, bod cyfleoedd yn codi sy’n eich galluogi i symud eich busnes yn ei flaen.

Pwyso a mesur

Pan fydd y busnes yn gwneud yn dda ac yn tyfu, mae’n syniad da cymryd saib am funud a phwyso a mesur beth rydych chi wedi’i gyflawni, ac yn bwysicach na hynny efallai, bod yn ymwybodol o’r hyn sydd wedi arwain at eich llwyddiant. Gall deall beth sydd wedi gweithio’n barod fod yn ganllaw da ar gyfer y dyfodol.

Hyd yn oed os ydych chi’n ddigon lwcus i gael y math yma o lwyddiant, nid yw twf cyson yn digwydd ar hap yn aml, mae’n rhaid ei gynllunio a’i reoli.

Pan fydd busnes yn tyfu’n rhy gyflym

Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gall busnes dyfu’n rhy gyflym, gan achosi problemau difrifol i’r busnes. Mae’r archebion yn llifo i mewn, ond does gennych chi ddim digon o adnoddau, dydych chi ddim yn gallu dal i fyny gyda’r gwaith cynhyrchu, mae pwysau ar eich llif arian ac rydych chi’n siomi’ch cwsmeriaid.  I rai, mae’n bosib mai problem dros dro fyddai hyn, ond gall olygu methiant i rai.

Paratoi ar gyfer twf

Yn fras, mae’n bwysig eich bod yn barod ar gyfer twf ac yn ystyried goblygiadau yn ogystal â manteision datblygu’ch busnes cyn rhoi cynlluniau ar waith.

3. Pam eich bod yn awyddus i’ch busnes dyfu?

Mae nifer o resymau, ar wahân i’r prif reswm o fod eisiau gwneud mwy o arian, sy'n gallu ysgogi perchennog busnes i fod eisiau i’w fusnes dyfu. Gall hyn gynnwys:

  • er mwyn sicrhau arbedion maint
  • er mwyn gallu cyrraedd a gwasanaethu marchnadoedd eraill
  • er mwyn goddiweddyd cystadleuydd
  • er mwyn creu busnes y mae modd ei werthu
  • er mwyn creu gwaddol i genedlaethau’r dyfodol
  • meddyliwch pam eich bod yn dymuno i’r busnes dyfu

Pan fyddwch yn paratoi eich cynlluniau i dyfu'r busnes, mae'n werth cadw y rhestr hon mewn golwg.

Gofynnwch i chi'ch hun os ydych yn ydych yn barhaus ychwanegu gwerth i'r busnes, neu yn syml atgyfnerthu dibyniaeth ar chi, y perchennog busnes.

Defnyddiwch y templed hwn i’ch helpu i nodi’ch rhesymau dros fod eisiau datblygu’ch busnes (MS Word 11kb)
 

4. Beth yw eich cynllun gadael?

Os ydych chi newydd ddechrau’ch busnes, gall holi sut rydych chi’n bwriadu gadael y busnes ymddangos yn gwestiwn rhyfedd. Yn aml iawn, mae perchnogion busnesau bach yn dechrau eu busnes er mwyn iddyn nhw gael job, yn hytrach nad dechrau’r busnes i greu ased parhaus. 

Mae sut rydych chi’n adeiladu ac yn datblygu’ch busnes yn seiliedig ar sut rydych chi’n gweld y busnes, a beth rydych chi’n bwriadu ei wneud â’r busnes yn y pen draw.

Dyma rai o’r opsiynau:

  • Ydych chi’n bwriadu gwerthu’r busnes i fuddsoddwr?
  • Ydych chi’n bwriadu ei werthu i’ch gweithwyr cyflogedig?
  • Ydych chi’n dymuno ei drosglwyddo i’ch teulu?
  • Ydych chi am ddal eich gafael arno ond cael rhywun arall i’w redeg ar eich rhan?
  • Ydych chi’n bwriadu ei gau ar ôl i chi wneud digon o arian i fyw arno ar ôl i chi ymddeol?

Os byddwch chi’n dechrau arni gan feddwl am y diwedd, gallwch adeiladu’ch busnes yn y ffordd orau er mwyn cyflawni’r nod hwnnw – ac elwa o’r manteision ar y ffordd.

Nid oes atebion cywir neu anghywir yma. Eich dewis personol chi yw’r hyn rydych chi’n dymuno’i wneud â’ch busnes. Ac mae’r nodau personol hyn yn allweddol o ran cyfeirio'ch nodau busnes ac o ran penderfynu sut rydych chi’n bwriadu datblygu’ch busnes.

Defnyddiwch y templed beth yw eich cynllun gadael (MS Word 11kb) hwn i’ch helpu chi i ganfod beth ydych chi’n dymuno’i wneud â’ch busnes yn y dyfodol.

5. Cael y gwerth gorau posib o’ch busnes

Er mwyn cyflawni rhai o nodau’r cynllun gadael, rhaid bod gwerth i’r busnes ei hun, ac ni ddylai ddibynnu ar berchennog y busnes yn unig.

Er enghraifft, yn achos rhywun sy’n cynnig gwasanaeth trin gwallt symudol neu blymar sy’n teithio i gartrefi neu eiddo’i gwsmeriaid ac sy’n gwneud y gwaith ei hun, perchennog y busnes YW’R busnes.
Heb berchennog y busnes, nid oes busnes, ac nid oes gan y busnes unrhyw werth annibynnol.

Fodd bynnag, os bydd y sawl sy’n trin gwallt yn symud i salon, yn cyflogi ac yn hyfforddi tîm o weithwyr cyflogedig, yn datblygu brand ac enw da ar gyfer y busnes, ac yn cael cwsmeriaid ffyddlon, yna mae gwerth i’r busnes, hyd yn oed os nad yw perchennog y busnes trin gwallt yno.

Yn yr un modd, os bydd plymar yn sefydlu system sy’n arwain at waith y mae’n ei roi i gontractwyr annibynnol i’w wneud ar ei ran, ar sail comisiwn, yna mae gwerth i’r busnes plymio ei hun.

Asedau anniriaethol

Yn ogystal ag asedau diriaethol busnes, mae nifer o agweddau anniriaethol sy’n gallu rhoi gwerth i fusnes. Mae’r rhain yn cynnwys

  • Tîm rheoli cadarn
  • Model busnes y gellir ei ailadrodd
  • Systemau gweithredu cyson
  • Sylfaen gwsmeriaid amrywiol ac sydd wedi’i sefydlu
  • Cynnyrch neu wasanaethau gwych
  • Hawlfraint neu batentau
  • Cyfran sylweddol o’r farchnad
  • Perthynas dda â’r cyflenwyr
  • Brand sydd wedi’i sefydlu ac enw da i’r  busnes
  • Llif arian sefydlog sy’n cynyddu
  • Rheolaethau ariannol effeithiol
  • Strwythur busnes cadarn
  • Strategaeth dwf realistig

Pan fyddwch chi’n paratoi’ch cynlluniau i ddatblygu'r busnes, mae’n werth cofio am y rhestr hon.

Gofynnwch i’ch hun a ydych chi’n ychwanegu gwerth i’r busnes bob amser neu, yn syml, yn atgyfnerthu dibyniaeth arnoch chi, perchennog y busnes.

Defnyddiwch y templed cael y gwerth gorau posib o’ch busnes (MS Word 11kb) hwn i’ch helpu i benderfynu a oes gwerth annibynnol i’ch busnes, neu a yw ei werth yn gysylltiedig â chi, perchennog y busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.