Gweminarau Gweithio’n Ddoethach
Rydyn ni yma i helpu eich busnes i weithio’n ddoethach ar yr un pryd ag aros yn ddiogel ar-lein.
Os ydych chi eisiau gwella cynhyrchiant drwy weithio hybrid, neu os ydych chi eisiau treulio llai o amser ar dasgau gweinyddol llafurus, bydd ein cyfres o weminarau Gweithio’n Ddoethach am ddim yn helpu i leddfu’r pwysau a meithrin eich hyder digidol.
O rannu ffeiliau a galwadau cynadledda, i fonitro gwerthiant a chyllid, dysgwch sut gallwch chi weithio ar-lein yn rhwydd gydag offer ar-lein sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i wneud y gorau o’r diwrnod gwaith.
Gweithio'n Gallach, Gweithio'n Fwy Diogel
Os ydych chi’n rhedeg busnes bach neu newydd ar-lein, fe wnawn ni ddangos yr offer ar-lein a fydd yn eich helpu i arbed amser a chynyddu adnoddau, er mwyn i chi allu gwneud mwy gyda llai. Mae’r meysydd sy’n cael sylw yn y cwrs gweithio o bell hwn yn cynnwys:
- Sut mae rheoli eich busnes yn effeithlon ar-lein
- Adnoddau swyddfa rhad/am ddim ar gyfer cyllidebau cyfyngedig
- Modelau gweithio hybrid sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd
- Ymgorffori diogelwch o’r cychwyn cyntaf i ddiogelu eich busnes
Seibergadernid
A yw eich busnes wedi’i amddiffyn rhag seiberdroseddu? Mae seiberdroseddu yn effeithio ar fusnesau o bob maint, ond mae camau y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich un chi.
Gallwch gael cyngor am ddim gan arbenigwyr yng Nghanolfan Seibergadernid Cymru ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian, sy’n ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad Cadernid Seiber arbennig hwn:
- Dysgu am y 5 colofn diogelwch
- Beth i’w wneud os bydd eich busnes o dan fygythiad
-
Achrediad Cyber Essentials
Gwelwch dyddiadau a chofrestrwch eich diddordeb
Peidiwch ag anghofio trefnu eich sesiwn un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol pan fyddwch chi yn y gweithdy!