Rydym yn darparu cymorth i fusnesau’r sector gwyddorau bywyd sy’n gweithio yn y meysydd canlynol:
- biotechnoleg
- technoleg feddygol
- cynhyrchion fferyllol
- diagnosteg
- meddyginiaeth atffurfio
- niwrowyddoniaeth
- e-iechyd
Os ydy’ch busnes chi’n gweithio yn y meysydd uchod, mae’n bosib y gallwn eich helpu chi efo:
- cyngor ar fasnach ryngwladol
- cymorth arloesi
- help i gael hyd i adeiladau busnes newydd
- cyngor ar wella sgiliau eich gweithlu
- cyflwyno tendr am gontractau sector cyhoeddus
- cyflwyno bandeang mwy cyflym i’ch busnes
Fe allech hefyd fod yn gymwys ar gyfer ein cyllid busnes, yn ddibynnol ar argaeledd.