BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Tŷ Sawna

Ty Sawna

Mae’r cymorth a'r arweiniad rwyf wedi ei gael drwy gydol y broses wedi bod yn anhygoel ac rwyf ar ben fy nigon.

Wedi’i hysbrydoli gan sawna glan y môr yn Iwerddon ac ar ôl darganfod llawer o fanteision iechyd, penderfynodd Harri Baker agor ei busnes sawna ei hun, Tŷ Sawna, yn edrych dros arfordir Cymru yn Oxwich.  

Er mwyn gwireddu ei gweledigaeth, cafodd Harri gymorth cychwynnol gan ei chynghorydd Busnes Cymru, gan fynychu’r weminar Dechrau Eich Busnes Eich Hun yn gyntaf. 

Ers hynny mae hi wedi ymrwymo i fod yn gyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, ac i ddarparu gwasanaeth hygyrch drwy gofrestru ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd a’r Addewid Cydraddoldeb.

Yn ogystal â hyn, yn gymwys i wneud cais ar gyfer y Grant Rhwystrau Rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn, llwyddodd Harri i gael y grant i gefnogi costau cychwynnol. 

Ers cael cymorth gan ei chynghorydd, mae gweledigaeth Harri o agor Tŷ Sawna wedi cael ei gwireddu!

Cymerwch eich camau cyntaf gyda Busnes Cymru heddiw i adeiladu eich busnes eich hun! 

Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.