BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithio yn y maes trafnidiaeth a logisteg – gwybodaeth i gyflogwyr

Y sector trafnidiaeth a logisteg yw un o’r sectorau mwyaf yn y byd, sy’n cynnig llwyth o fathau gwahanol o yrfaoedd. Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector trafnidiaeth a logisteg. 

Os ydych yn gyflogwr, efallai y gallech chi hefyd gael cymorth.

Gall y cymorth sydd ar gael ymwneud â’r rhaglenni canlynol:

  • Gall y rhaglen ReAct hefyd helpu cyflogwyr sydd yn dymuno recriwtio unigolyn cymwys gyda chymhorthdal cyflog o hyd at  £3000, sy’n cael ei dalu mewn 4 rhandaliad dros gyfnod o 12 mis. Gall y rhaglen hon hefyd ddyfarnu grant sy’n gysylltiedig â’r swydd, sy’n hyd at 50% o’r gost o hyfforddi, a hyd at uchafswm o £1000 ar gyfer pob gweithiwr newydd. Ewch i React Busnes Cymru
  • Mae Cyfrifon Dysgu Personol hefyd ar gael i gyflogwyr i’w helpu i wella sgiliau eu staff er mwyn helpu’r busnes i barhau’n gystadleuol, a hyd yn oed dod yn fwy cystadleuol, o gofio’r heriau deublyg yn sgil pandemig Covid-19 a phenderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae cyrsiau a chymwysterau sy’n cael eu cyflwyno drwy’r Cyfrifon Dysgu Personol wedi’u hardystio gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (RSP) er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r bylchau sgiliau presennol, neu’r bylchau sgiliau yn y dyfodol a’r sectorau sydd â blaenoriaeth yn rhanbarthol. Ewch i Cyfrifon Dysgu Personol Busnes Cymru
  • Mae’r elfen hyfforddiant o’r rhaglen prentisiaethau yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r cyflogwr yn gyfrifol am gostau cyflog ac unrhyw ofynion hyfforddiant ychwanegol. Ewch i Prentisiaethau Busnes Cymru
  • Mae Rhaglen Logisteg yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i’r cyflogwr unigol, a hynny ar sail asesiad o’u gofynion ar gyfer sgiliau mynediad. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu pecynnau cymorth a chyllid sy’n cael eu hasesu ar sail pob achos unigol

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cymru’n Gweithio.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.