BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Amgylchedd Gwaith Diogel, Iach a Chynhwysol

Beth ydyw a pham ei fod yn bwysig

Er mwyn darparu Amgylchedd Gwaith Diogel, Iach a Chynhwysfawr, mae'r cyflogwr yn casglu data i olrhain amrywiaeth ei weithlu ac mae ganddo brosesau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle. Mae mesurau iechyd a diogelwch effeithiol ar waith a chânt eu cyfathrebu a'u hadolygu'n rheolaidd mewn ymgynghoriad â gweithwyr. Mae'r cyflogwr yn ymrwymo i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth ar draws y nodweddion gwarchodedig ar bob lefel o'r sefydliad ac i leihau ei fwlch cyflog rhwng y rhywiau, hil ac anabledd.

I weithwyr, mae'r amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo, y perthnasoedd y maent yn eu datblygu a'r diwylliant y maent yn ei fwynhau tra'u bod yn y gwaith i gyd yn cael effaith sylweddol ar eu boddhad swydd a'u lles. Dylai eu man gwaith nid yn unig fod yn ddiogel ac yn iach, ond dylai hefyd fod yn hygyrch i bawb fel bod pawb, waeth beth fo'u rhyw, hil, anabledd, oedran, rhywioldeb neu grefydd, yn teimlo ymdeimlad o berthyn ac wedi'u grymuso i gyflawni eu llawn botensial.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut allwch chi wneud gwaith mewn amgylchedd diogel, iach a chynhwysol?

Gyda gweithleoedd yn dod yn fwyfwy amrywiol, mae Lucy Reynolds, Prif Swyddog Gweithredol yn Chwarae Teg, yn trafod sut y gall perchnogion busnes sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud o fewn amgylchedd diogel ac iach, a chyda phrosesau effeithiol i atal a mynd i'r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut allwch chi fynd i'r afael â thangynrychiolaeth a monitro bylchau cyflog posibl?

Yma, mae Lucy Reynolds, Prif Swyddog Gweithredol yn Chwarae Teg, yn trafod y modd y gall perchnogion busnes fynd i'r afael â thangynrychiolaeth ar draws nodweddion gwarchodedig ac ar bob lefel, a sut y gallant leihau eu bwlch cyflog rhywedd, hil ac anabledd.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut allwch chi ddefnyddio technegau ac offer i reoli llwyth gwaith?

Yma, mae Lucy Reynolds, Prif Swyddog Gweithredol yn Chwarae Teg, yn trafod pa offer a thechnegau y gall rheolwyr eu defnyddio i sicrhau bod gan eu staff lwyth gwaith priodol a hylaw.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut gall rheolwyr gefnogi gweithwyr sy’n gweithio o bell gyda'u llesiant corfforol a meddyliol?

Yma, mae Lucy Reynolds, Prif Swyddog Gweithredol yn Chwarae Teg, yn trafod pa brosesau a mesurau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau bod rheolwyr yn gallu cefnogi gweithwyr o bell gyda'u llesiant corfforol a meddyliol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut gall uwchsgilio helpu i sicrhau bod eich rheolwyr yn deg ac yn effeithiol?

Yma, mae Lucy Reynolds, Prif Swyddog Gweithredol yn Chwarae Teg, yn trafod yr hyfforddiant y gall perchnogion busnes ei roi ar waith i sicrhau bod rheolwyr ar draws cwmni yn deg, yn effeithiol ac yn cael eu cefnogi i ddatrys anghydfodau ac ymdrin â'r sgyrsiau anodd hynny.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut allwch chi greu amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol?

Mae amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol yn rhan o ddull llawer ehangach o sicrhau Gwaith Teg. Yma, mae Lucy Reynolds, Prif Swyddog Gweithredol yn Chwarae Teg, yn sôn am y modd y gall busnesau ddechrau ar eu taith a beth i'w flaenoriaethu.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Beth mae'r arbenigwyr yn ei ddweud

Mae Busnes Cymru wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar bob un o’r chwe thema a nodwyd er mwyn i BBaChau ddeall ac i weithio’n effeithiol o fewn egwyddorion Gwaith Teg.

Pecynnau Adnoddau

Lawr lwythwch y pecyn adnoddau Amgylchedd Gwaith Diogel, Iach a Chynhwysol a fydd yn eich cefnogi i wneud newidiadau i'ch busnes i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.