BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Pecynnau Adnoddau Gwaith Teg

Mae gwaith teg yn waith sy'n cyflawni hawliau gweithwyr, yn cefnogi lles gweithwyr, ac yn rhoi llais i weithwyr. Gwaith teg yw presenoldeb amodau gweladwy yn y gwaith sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo’n deg, eu clywed a’u cynrychioli, a’u bod yn gallu symud ymlaen mewn amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol, lle mae eu hawliau fel gweithwyr yn cael eu parchu.

Gallwch lawr lwytho pecyn adnoddau ar gyfer pob thema, a fydd yn eich cefnogi i wneud newidiadau i'ch busnes i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Yn yr adran hon

Gwybodaeth i'ch helpu i ddeall yn union beth sydd angen ei ystyried i allu trin eich gweithwyr yn deg.

Gwybodaeth i’ch helpu chi i ddeall beth yn union sydd angen ei ystyried er mwyn darparu llais i’ch gweithwyr.

Gwybodaeth i’ch helpu chi i ddeall beth yn union sydd angen ei ystyried er mwyn cynnig cyfleoedd ar gyfer mynediad, dilyniant a chynnydd i’ch gweithwyr

Gwybodaeth i’ch helpu chi i ddeall beth yn union sydd angen ei ystyried er mwyn cynnig sicrwydd a hyblygrwydd i’ch gweithwyr

Gwybodaeth i’ch helpu chi i ddeall beth yn union sydd angen ei ystyried er mwyn darparu Amgylchedd Gwaith Diogel, Iach a Chynhwysfawr i’ch gweithwyr.

Gwybodaeth i’ch helpu chi i ddeall beth yn union yw eich rhwymedigaethau statudol parthed eich gweithwyr.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.