BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gwaith Teg i Gymru

Creu Amgylchedd Gwaith Teg

Mae creu amgylchedd Gwaith Teg yn y gweithle yn gofyn am gydbwysedd drwy sicrhau eich bod yn ystyried anghenion yr holl weithwyr, gan gynnwys costau byw ac anghenion anabledd.

Mae gan Busnes Cymru gymorth ar gael i’ch helpu i greu amgylchedd Gwaith Teg drwy eich helpu i ddeall beth yw nod y busnes, beth sy’n ei ysgogi a beth sydd angen i chi ei roi ar waith i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Mae arbenigwyr diwydiant wedi nodi chwe thema i BBaChau ddeall ac i weithio'n effeithiol o fewn egwyddorion Gwaith Teg. Bydd y themâu hyn yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, lleihau tlodi a hybu lles.

Mae pob adran isod yn canolbwyntio ar thema i'ch cefnogi i wneud newidiadau i'ch busnes i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Cliciwch ar bob thema am ragor o wybodaeth.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.


Downloads

Mae taflenni ffeithiau ar gael i’ch helpu i ddeall sut allwch greu gweithlu amrywiol, yn ogystal â nodi bylchau cyflog, a dysgu sut i’w lleihau.

Mae pecyn adnoddau i’w cael ar gyfer bob thema a fydd yn eich cefnogi i wneud addasiadau i’ch busnes er mwyn dod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Mae Busnes Cymru wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar bob un o’r chwe thema a nodwyd er mwyn i BBaChau ddeall a gweithio’n effeithiol o fewn egwyddorion Gwaith Teg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.