BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Parchu Hawliau Cyfreithiol

Beth ydyw a pham ei fod yn bwysig

Mae Parchu Hawliau Cyfreithiol yn golygu fod y cyflogwr yn cadw at yr holl rwymedigaethau statudol i'w weithwyr ac nid yw'n ceisio eu hosgoi. Rydym yn annog sefydliadau i ddileu arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol yn eu cadwyni cyflenwi.

Mae pob cyflogwr wedi’u rhwymo’n gyfreithiol i drin eu gweithwyr yn deg, gydag ystod o safonau gwaith a hawliau cyflogaeth statudol ar waith i amddiffyn gweithwyr rhag triniaeth annheg. Mae cyflogwyr nad ydynt yn gweithredu yn unol â'u rhwymedigaethau cyfreithiol nid yn unig yn ddangosydd clir o waith annheg ond yn yr achosion mwyaf eithafol, er enghraifft, caethwasiaeth fodern a dwyn cyflogau, mae hyn yn drosedd.

I fod yn wir gyflogwr Gwaith Teg, mae'n ofynnol i chi fynd y tu hwnt i safonau cyflogaeth statudol drwy barchu hawliau cyfreithiol eich staff bob amser a gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw driniaeth a allai gael ei hystyried yn annheg.

Sut dylid mynd ati i barchu hawliau cyfreithiol gweithwyr a'u cyflawni orau mewn gwaith teg?

Mae agwedd allweddol ar waith teg yn cynnwys parchu hawliau cyfreithiol gweithwyr. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ddeddfau a rheoliadau cyflogaeth perthnasol. Dyma Nathan Vidini, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyflogaeth yn Altra Law, yn esbonio sut y gellir cyflawni hyn drwy fesurau rhagweithiol megis darparu hyfforddiant parhaus i reolwyr a staff, gweithredu polisïau a gweithdrefnau cadarn, a meithrin diwylliant o barch a thryloywder o fewn y sefydliad.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Pam ddylai busnes fynd y tu hwnt i’r gofynion cyfreithiol statudol? A beth yw'r manteision i'r berthynas gyflogaeth a'r busnes ehangach?

Dyma Nathan Vidini, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyflogaeth Altra Law, yn trafod pwysigrwydd busnesau sy'n mynd y tu hwnt i ofynion cyfreithiol statudol. Drwy wneud hynny, gall busnesau ddangos ymrwymiad gwirioneddol i lesiant eu gweithwyr a meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut ddylai busnesau fynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â bylchau cyflog rhywedd, hil ac anabledd fel rhan o'u hymrwymiad i barchu hawliau cyfreithiol?

Dyma Nathan Vidini, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyflogaeth Altra Law, yn manylu ar sut y dylai eich busnesau fynd i'r afael â materion fel recriwtio, gwerthuso swyddi a dylunio swyddi gyda ffocws ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cyflog rhyw, hil ac anabledd fel rhan o'ch ymrwymiad i barchu hawliau cyfreithiol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Beth yw manteision cynnig trefniadau gweithio hyblyg ym mhob swydd yn hytrach nag aros i unigolion arfer eu hawl statudol i ofyn am hyblygrwydd?

Dyma Nathan Vidini, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyflogaeth Altra Law, yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi i fusnesau fynd ati’n rhagweithiol i hwyluso a chynnig trefniadau gweithio hyblyg ar draws pob swydd a'r manteision a ddaw i'r busnes o ganlyniad.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut gall busnesau sicrhau bod polisïau disgyblu a diswyddo yn cael eu gweithredu’n effeithiol o fewn y sefydliad?

Dyma Nathan Vidini, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyflogaeth Altra Law, yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod polisïau disgyblu a diswyddo wedi'u gwreiddio ac yn cael eu gweithredu'n effeithiol o fewn y sefydliad, yn enwedig wrth wynebu amgylchiadau heriol ac annisgwyl.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut gall busnesau gydnabod y rôl gyfreithlon y mae undebau llafur yn ei chwarae wrth gynrychioli gweithwyr? A sut dylen nhw ddatblygu perthynas waith gadarnhaol gyda nhw?

Dyma Nathan Vidini, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyflogaeth Altra Law, yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i fusnesau gydnabod y rôl gyfreithlon y mae undebau llafur yn ei chwarae wrth gynrychioli gweithwyr. Mae'n argymell y dylai pob busnes ddatblygu perthynas waith gadarnhaol gydag undebau llafur cydnabyddedig drwy gymryd rhan mewn deialog agored ac adeiladol a pharchu hawliau gweithwyr i ymuno ag undeb.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut dylai busnes fynd ati i gynhyrchu ei ddatganiad caethwasiaeth fodern? Pa werth mae hyn yn ei ychwanegu at y busnes?

Yma, mae Nathan Vidini, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyflogaeth Altra Law, yn trafod pa mor bwysig yw hi i fusnesau fynd ati i gynhyrchu eu datganiad caethwasiaeth fodern gyda diwydrwydd a thryloywder. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau trylwyr o'u cadwyni cyflenwi a'u gweithrediadau i nodi a lliniaru unrhyw risgiau o gaethwasiaeth fodern.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Beth all busnes ei wneud i sicrhau bod gan ei weithwyr fynediad at wybodaeth am eu hawliau yn y gwaith?

Mae'n bwysig bod gweithwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth am eu hawliau yn y gwaith. Yma, mae Nathan Vidini, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cyflogaeth Altra Law, yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i fusnesau sicrhau eu bod yn darparu llawlyfrau cynhwysfawr i weithwyr ac yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd ar ddeddfau a rheoliadau cyflogaeth.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Lle dylai busnesau ddechrau wrth gychwyn ar eu taith gwaith teg? A oes yna faes y dylid ei flaenoriaethu?

I fusnesau sy'n cychwyn ar y daith hon, gall cyflawni pob agwedd ar waith teg godi braw ond gyda'n canllawiau o'n cyfres o chwe thema, maent yn hawdd i’w cyflawni.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Beth mae'r arbenigwyr yn ei ddweud

Mae Busnes Cymru wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar bob un o’r chwe thema a nodwyd er mwyn i BBaChau ddeall ac i weithio’n effeithiol o fewn egwyddorion Gwaith Teg.

Pecynnau Adnoddau

Lawr lwythwch y pecyn adnoddau Parchu Hawliau Cyfreithiol a fydd yn eich cefnogi i wneud newidiadau i'ch busnes i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.