Beth ydyw a pham ei fod yn bwysig
Mi ddylai gweithwyr dderbyn profiadau dysgu a datblygu perthnasol ac o ansawdd dda, a dylai hynny fod yn hygyrch i bawb yn y gweithle. Mi ddylai bob cyflogwr anelu at ddarparu hyfforddiant ynglŷn â chydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth i bob gweithiwr.
I unigolion, mae manteision mynediad at waith o ansawdd da a chyfleoedd dysgu a datblygu perthnasol yn glir. Gall cael cyfleoedd nid yn unig i weithio, ond i ddatblygu a thyfu o fewn eu rôl wella eu cyfleoedd bywyd yn sylweddol, gan bennu eu potensial cyflogaeth ac enillion a chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer symudedd cymdeithasol.
Isod, cewch wybodaeth i’ch helpu chi i ddeall beth yn union sydd angen ei ystyried er mwyn cynnig cyfleoedd ar gyfer mynediad, dilyniant a chynnydd i’ch gweithwyr
Sut all busnes sicrhau bod dysgu a datblygu perthnasol, o ansawdd dda, ar gael i bob gweithiwr, ac nad yw gweithwyr rhan amser o dan anfantais?
Er mwyn sicrhau bod dysgu a datblygu perthnasol o ansawdd dda ar gael i bob gweithiwr, gan gynnwys gweithwyr rhan amser, mae angen dull amlochrog. Mae Samuel Stensland, Uwch Arweinydd Busnes yn y Gymuned Cymru yn rhannu strategaethau y gall busnesau eu rhoi ar waith er mwyn cyflawni hyn.
Sut gall busnesau bach a chanolig ddatblygu cynllun hyfforddi ar gyfer eu gweithwyr?
Gellir hyfforddi a datblygu staff mewn gwahanol ffyrdd. Gyda chymaint o opsiynau i ddewis ohonynt, dyma Sam Stensland, Uwch Arweinydd yn BITC Cymru, yn siarad am arfer gorau a sut y gall Busnesau Bychan a Chanolig adeiladu'r cynlluniau hynny.
Sut allwch chi sicrhau hyfforddiant effeithiol?
Yma, mae Sam Stensland, Uwch Arweinydd BITC Cymru, yn siarad am y gwahanol ddulliau dysgu a sut y gall busnes sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol i weithwyr, drwy gymryd anghenion amrywiol i ystyriaeth.
Sut allwch chi sicrhau bod hyfforddiant yn hygyrch i bawb?
Gyda chymaint o opsiynau hyfforddi ar gael, dyma Sam Stensland, Uwch Arweinydd yn BITC Cymru, yn trafod sut y gall busnes sicrhau bod unrhyw hyfforddiant sy'n ymwneud â chydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yn hygyrch i bawb ac yn cael ei gyflwyno mewn fformat ac ar amser priodol.
Sut gall busnes ddarparu hyfforddiant cost isel?
Yma, mae Sam Stensland, Uwch Arweinydd BITC Cymru, yn sôn am y modd y gall busnesau yng Nghymru ddarparu hyfforddiant effeithiol, cost isel i helpu i ddatblygu eu gweithlu.
Sut allwch chi sicrhau bod pawb yn cael mynediad at hyfforddiant?
Yma, mae Sam Stensland, Uwch Arweinydd yn BITC Cymru, yn amlinellu sut y gall cyflogwyr sicrhau bod gan weithwyr fynediad at gyfleoedd cynhwysol i gaffael a datblygu sgiliau, a pha gamau y gallant eu cymryd i annog gweithwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
Sut allwch chi annog pobl i ailymuno â'r gweithlu?
Yma, mae Sam Stensland, Uwch Arweinydd yn BITC Cymru, yn sôn am y modd y gall busnesau ddefnyddio cyfleoedd a chymhellion i annog pobl i ddod yn ôl i'r gwaith.
Sut allwch chi ddechrau cynnig cyfleoedd i dyfu a datblygu?
Mae amgylchedd sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer mynediad, twf a chynnydd yn rhan o ddull llawer ehangach o sicrhau Gwaith Teg. Yma, mae Sam Stensland, Uwch Arweinydd yn BITC Cymru, yn trafod sut y gall busnesau ddechrau ar eu taith a'r hyn y mae angen iddynt ei flaenoriaethu.
Beth mae'r arbenigwyr yn ei ddweud:
Mae Busnes Cymru wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar bob un o’r chwe thema a nodwyd er mwyn i BBaChau ddeall ac i weithio’n effeithiol o fewn egwyddorion Gwaith Teg.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Pecynnau Adnoddau
Lawr lwythwch y pecyn adnoddau Cyfle i gael Mynediad at Waith, i Dyfu ac i Gamu Ymlaen a fydd yn eich cefnogi i wneud newidiadau i'ch busnes i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.