BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Sicrwydd a Hyblygrwydd

Beth ydyw a pham ei fod yn bwysig

Er mwyn darparu sicrwydd a hyblygrwydd, bydd y cyflogwr yn ymrwymo i sicrhau bod gweithwyr yn cael cynnig sicrwydd o isafswm oriau wedi’u gwarantu a (lle bo hynny’n rhesymol ac yn ymarferol) y cynnig o weithio o bell a mathau eraill o weithio’n hyblyg sy’n gwella cydbwysedd gwaith/bywyd a lles.

Nid yw contractau heb eu gwarantu (dim oriau) yn cael eu gorfodi’n unochrog ar weithwyr a rhoddir digon o rybudd i weithwyr am batrymau sifft ac unrhyw newidiadau. Mae'r cyflogwr yn defnyddio hyblygrwydd wrth gynllunio swyddi, oriau gwaith a gweithio o bell i hyrwyddo cynhwysiant a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Elfen bwysig o Waith Teg yw sicrhau bod cyfleoedd i gael mynediad at waith yn agored i bawb, heb rwystrau, a bod y rolau rydych yn eu darparu yn cynnig cymaint o sicrwydd â phosibl i’ch gweithwyr.

Er mwyn cael y gorau o’ch gweithwyr, mae caniatáu'r hyblygrwydd iddynt wneud lle i'w gwaith o fewn realiti eu bywydau bob dydd yn hanfodol, yn enwedig yn yr hinsawdd recriwtio heriol sydd ohoni heddiw. Er mwyn i chi gael eich cydnabod fel cyflogwr Gwaith Teg, dylech bob amser fod yn deg ac yn dryloyw gyda'ch staff ynghylch gofynion a disgwyliadau pob rôl.

Sut gellir cyflwyno gweithio hyblyg mewn ffordd sydd o fudd i bawb?

Gyda phobl yn edrych i weithio'n fwy hyblyg, dyma Laura Fordham, Cyfarwyddwr Masnachol yn Chwarae Teg, yn trafod sut y gall busnesau gyfuno'r angen i ddarparu cyfleoedd gwaith ac incwm i'w gweithlu, ond hefyd cynnal hyblygrwydd i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut allwch chi ddefnyddio hyblygrwydd i hyrwyddo cynwysoldeb?

Yma, mae Laura Fordham, Cyfarwyddwr Masnachol yn Chwarae Teg, yn siarad am y modd y gall busnesau ddefnyddio hyblygrwydd wrth ddylunio swyddi, oriau gwaith a gweithio o bell i hyrwyddo cynhwysiant a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith heb gyfaddawdu ar anghenion busnes.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Beth yw hunangyflogaeth ffug a pha risgiau y mae hyn yn eu peri?

Dyma Laura Fordham, Cyfarwyddwr Masnachol yn Chwarae Teg, yn rhannu ei barn ar hunangyflogaeth ffug a sut y gall busnesau amddiffyn eu hunain yn ei erbyn er mwyn sicrhau nad yw gweithwyr yn cael eu hecsbloetio.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut allwch chi sicrhau bod patrymau gwaith yn gynhwysol?

Gyda phobl â’r angen yn aml i weithio i amserlen wahanol, dyma Laura Fordham, Cyfarwyddwr Masnachol yn Chwarae Teg, yn sôn am y modd y gall busnesau sicrhau eu bod yn gynhwysol pan gynigir i weithwyr y cyfle i weithio oriau gwaith ychwanegol, a sut y gallant ddarparu ar gyfer realiti bywydau personol o fewn y patrymau gwaith hynny.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut ydych chi'n sicrhau bod polisïau'n cael eu gweithredu'n effeithiol?

O fewn proses ddisgyblu a diswyddo, dyma Laura Fordham, Cyfarwyddwr Masnachol yn Chwarae Teg, yn tynnu sylw at y modd y gall busnesau sicrhau bod polisïau'n cael eu hymgorffori mewn sefydliad a'u gweithredu'n effeithiol - yn enwedig wrth ddelio â sefyllfaoedd annisgwyl ac anodd.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut allwch chi sicrhau nad yw gweithwyr sy’n gweithio o bell dan anfantais?

Wrth i fwy o fusnesau symud tuag at ddull hyblyg neu hybrid o weithio, dyma Laura Fordham, Cyfarwyddwr Masnachol yn Chwarae Teg, yn trafod sut y gall perchnogion busnes sicrhau nad yw gweithwyr sy’n gweithio o bell dan anfantais.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut ddylai cyflogwyr ddechrau ar eu taith tuag at waith teg sy’n blaenoriaethu gweithio hyblyg a sefydlog?

Mae Laura Fordham, Cyfarwyddwr Masnachol Chwarae Teg, yn pwysleisio bod gweithio hyblyg a sefydlog yn rhan o ddull ehangach i sicrhau gwaith teg. Mae Laura yn trafod pam mai blaenoriaethau allweddol fel sefydlu polisïau clir, hyrwyddo eglurder a darparu hyfforddiant/cefnogaeth, yw’r ffordd ymlaen i sicrhau gweithle teg a chynhwysol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Beth mae'r arbenigwyr yn ei ddweud:

Mae Busnes Cymru wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar bob un o’r chwe thema a nodwyd er mwyn i BBaChau ddeall ac i weithio’n effeithiol o fewn egwyddorion Gwaith Teg.

Pecynnau Adnoddau

Lawr lwythwch y pecyn adnoddau Sicrwydd a Hyblygrwydd a fydd yn eich cefnogi i wneud newidiadau i'ch busnes i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.