BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Lleihau Defnydd Dŵr

Mae cost wirioneddol cyflenwi dŵr a gwaredu elifiant (gwastraff) wedi cynyddu 40 y cant er 2002.
Mae dŵr yn costio ddwywaith i’ch busnes – unwaith am ei gyflenwi ac eto am ei waredu. Bydd lleihau faint o ddŵr mae eich busnes yn ei ddefnyddio’n arbed arian i chi mewn costau cyflenwi a biliau gwaredu elifiant, a gallai hefyd eich helpu i leihau costau gwresogi neu gemegau i drin dŵr.

Gall mabwysiadu dull systematig i leihau’ch defnydd o ddŵr yn aml arwain at arbedion o 30% ar ddŵr os nad oes mesurau wedi’u gweithredu’n barod.

Isod mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i’ch helpu i arbed dŵr.

Cyfle Trosolwg
Trwsio tapiau sy’n diferu Gall tap sy’n diferu wastraffu mwy na 5,500 litr o ddŵr y flwyddyn. I’ch helpu I ganfod gollyngiadau a cholledion ddŵr erill darllenwch eich mesurydd y peth olaf yn y nos a’r peth cyntaf yn y bore I weld faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio y tu allan i oriau gwaith. Archwiliwch y pibelli a chysylltwch â’r cyflenwr dŵr I helpu I ddod o hyd I ddŵr sy’n gollwng. Gall yr arbedion y byddwch yn eu gwneud o ganlyniadi drwsio neu gael tap Newydd fod yn werth y buddsoddiad.
 
Trwsio pibelli sy’n gollwng
Gall pibelli sy’n gollwng achosi difrod I’ch eiddo a gallant fod yn ddrud I’w trwsio. I’ch helpu I ganfod gollyngiadau a cholledion dŵr erill darllenwch eich mesurydd y peth olaf yn y nos a’r peth cyntaf yn y bore I weld faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio y ty allan I oriau gwaith. Cofiwch archwilio’ch pibelli a chysylltwch â’r cyflenwr dŵr a all eich helpu I ddod o hyd I bebelli sy’n gollwng.
 
Gosod cyfarpar I ddefnyddio llai o ddŵr mewn ystafelloedd ymolchi Mae llawer o ddŵr ac arian yn cael eu fflysio I ffwrdd; gall toiled ddefnyddio 9 litr bob fflysh, a sinc 4 litr. Gall argaeau tanc dŵr, cyfyngwyr llifoedd a thapiau pwyso I gyd leihau costau. Ystyriwch osod tapiau sy’n cau eu hunain neu â synwyryddion is-goch; yn ogystal â defnyddio llai o ddŵr gallant wella hylendid. Ystyriwch fuddiannau cost prynu cyfarpar lleihau dŵr fesul safle. Byddai gosod rheolyddion fflysio wrinalau fel arfer yn arbed tua 70% o’r dŵr a ddefnyddir ar gyfer fflysio.
Gallai gosod awyrydd sy’n costio tua £6, ar gawod gonfensiynol a ddefnyddir ddwywaith y dydd am bum munud arbed tua £30 y flwyddyn mewn costau dŵr a charthffosiaeth
 
Cynnal a chadw systemau dŵr Byddai gosod tapiau sy’n cau eu hunaian neu sydd â synwyryddion is-goch yn defnyddio llai o ddŵr yn ogystal â gwella hylendid. Bydd cynnal a chadw tapiau’n rheolaidd yn sicrhau and yw sebon a chalch yn achosi iddynt ollwng a blocio. Dylid cynnal a chadw cawodydd hefyd rhag iddynt flocio as amharu ar eu perfformiad.
 
Gostwng pwysedd y dŵr Mae cfradd llif 5-6 litr y funud yn ddigon I olchi dwylo. Mae aeryddion tapiau a chyfyngwyr llif yn atebion rhad sy’n gallu lleihau defnydd dŵr cymaint â 70%.
 

 

Mewn swyddfa, mae’r defnydd mwyaf o ddŵr yn cynnwys fflysio wrinalau a thoiledau, dŵr a ddefnyddir yn y ffreutur a glanhau. Dyma’r meysydd lle gellir gwneud yr arbedion mwyaf. Mae’r tabl isod yn dangos yr arbedion y gellir eu gwneud trwy gyflwyno cynlluniau arbed dŵr. 

Lleihad mewn defnydd o ddŵr y gellir ei gyflawni mewn safleoedd masnachol a diwydiannol

Lleihad mewn defnydd o ddŵr y gellir ei gyflawni mewn safleoedd masnachol a diwydiannol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.