BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Sut i ddatblygu cynllun sy’n gwneud defnydd effeithlon o ddŵr

Bydd cynllunio ar gyfer effeithlonrwydd dŵr yn eich helpu i weld sut mae eich busnes yn
defnyddio dŵr, ac i ganfod meysydd lle gallwch arbed dŵr. Bydd dealltwriaeth dda o’ch gweithrediadau hefyd yn eich helpu i ganfod cyfleoedd i wella eich defnydd o ynni a deunyddiau ac i gyflawni rhagor o fuddiannau amgylcheddol ac economaidd.

Gellir defnyddio mantolen ddŵr i ddangos ym mhle mae dŵr yn cael ei ddefnyddio ac i fapio sut mae’n dod i mewn i’ch safle ac yn ei adael. Bydd yr amser a’r ymdrech a fydd eu hangen i gynhyrchu mantolen ddŵr yn dibynnu ar faint eich safle ac ar gymhlethdod y prosesau rydych yn ymchwilio iddynt. Wrth benderfynu pa mor fanwl ddylai eich mantolen ddŵr fod, dylech ystyried y buddiannau posibl yn erbyn y gost:

  • beth yw’r tebygrwydd o ddod o hyd i gyfleoedd cost effeithiol i arbed dŵr? 
  • faint o arian allech chi ei arbed?
  • faint fydd yn ei gostio i ymchwilio’n fwy manwl i ddefnydd dŵr? 

Yn achos safleoedd sy’n defnyddio llawer o ddŵr, bydd yr arbedion posibl yn fwy na digon i gyfiawnhau llunio mantolen ddŵr fanwl.

Y cam cyntaf yw cwblhau adolygiad cychwynnol o’ch safle i gasglu data cychwynnol ar ddefnydd a chostau blynyddol eich dŵr, a chanfod unrhyw fylchau mewn data neu wybodaeth. Cofiwch ystyried pob elfen o ddefnydd dŵr, gan gynnwys dŵr gwastraff ac elifiant sy’n gadael y safle. Dylech anelu at gael cyfrif am 80% o’r dŵr rydych yn talu amdano. 

Nodwch leoliad y mesurydd dŵr ar eich safle, a gwnewch yn siŵr bod cyfeirnod y mesurydd sydd ar eich biliau’n cyfateb i’r rhif cyfresol ar y mesuryddion. Os nad ydych yn siŵr sut i ddarllen eich mesurydd dŵr, cysylltwch â’ch cyflenwr dŵr i ofyn am help. Defnyddiwch eich biliau, ynghyd ag unrhyw ddata ar gost gwres pympiau, cemegau, gweithredol, llafur a chynnal a chadw i amcangyfrif cost flynyddol dŵr i’ch sefydliad.

Defnyddiwch y rhestr wirio ganlynol yn ystod eich adolygiad cychwynnol i’ch helpu i feddwl sut y mae pob proses yn defnyddio dŵr. Gall llunio diagram syml o’ch safle helpu i ddangos ym mhle mae dŵr yn dod i mewn i’r safle, lle mae’n cael ei ddefnyddio a lle mae dŵr neu elifiant yn gadael.

Ffigur 1.

Image removed.

Diagram bloc. Gwnewch yn siŵr eich bod yn marcio prif ddefnyddiau dŵr yn ôl math o weithgarwch neu broses, lleoliad mesuryddion dŵr, a mannau lle mae dŵr yn dod i mewn ac yn gadael. Gall saethau helpu i ddangos llifoedd, ac i gysylltu prosesau.

Ffigur 2.

Image removed.

Ar ôl cwblhau’r diagram bloc dylech allu meintioli eich defnydd o ddŵr, sydd fel arfer yn cael ei fesur fel m3/y dydd. Gellir meintioli defnydd dŵr mewn nifer o ffyrdd. Y rhain yw:

  • mesur uniongyrchol gan ddefnyddio mesuryddion llif neu fwced a stopwats;
  • cyfrifo ar sail mesuriadau eraill; 
  • cyfrifo ar sail gwybodaeth a gyhoeddwyd gan y gweithgynhyrchydd
  • cyfrifo ar sail gwybodaeth am ddefnydd arferol; ac 
  • amcangyfrif o wybodaeth am y gweithrediad, proses neu ddefnydd o’r cyfarpar

Adiwch yr holl gyflenwadau dŵr sy’n dod i mewn, yna adiwch yr hyn sy’n mynd allan i gynhyrchu mantolen ddŵr gychwynnol. Ar bapur, dylai cyfanswm yr hyn sy’n dod i mewn ac yn mynd allan fod yr un faint, boed ar gyfer gweithrediadau unigol neu’r broses gyfan; fodd bynnag, ni fydd hyn yn wir yn aml yn ymarferol. Os oes gwahaniaethau mawr, gwiriwch eich cyfrifiadau – a ydych chi’n cymharu tebyg â’i debyg, a ydych chi’n darllen eich mesuryddion yn gywir, a oes unrhyw ollyngiadau neu golledion wedi’u canfod ac a oes cyfrif amdanynt?

Gweler y Daflen Ffeithiau ar Leihau Defnydd Dŵr ac Awgrymiadau defnyddiol yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.