BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gwresogi

Mae gwresogi fel arfer yn cyfrif am tua hanner yr ynni a ddefnyddir mewn swyddfeydd
ac mae’n gyfran sylweddol o’r ynni a ddefnyddir ym meysydd eraill  busnesau. Mae’n faes allweddol i’w dargedu gyda mesurau arbed ynni. Mae adeiladau llawer o fusnesau’n rhy
boeth yn aml ac mae hynny’n gallu bod yn anghyfforddus yn ogystal â gwastraffus.

Mae’r arweiniad hwn yn trafod meysydd allweddol a ffyrdd rhwydd o wella effeithlonrwydd
eich system wresogi. Mae’n cynnwys cyngor ar leihau’r angen am wresogi trwy atal gwres
rhag dianc o’ch adeilad, yr opsiynau ar gyfer systemau gwresogi a rheoli, ynni gwresogi adnewyddadwy priodol a chyngor ar gyllid i uwchraddio systemau gwresogi.  

Dull ‘ffabrig yn gyntaf’ i leihau biliau gwresogi 

Mae mabwysiadu dull ‘ffabrig yn gyntaf’ yn ffordd effeithiol o leihau faint o ynni a ddefnyddir i wresogi. Mae hyn yn gyntaf oll yn gwneud yn siŵr bod ffabrig yr adeilad – y waliau, y lloriau, y toeau, y ffenestri a'r drysau – wedi’u hinsiwleiddio mor drylwyr â phosibl i leihau faint o wres sy’n cael ei golli ac i leihau’r galw am ynni gwresogi. Y cam nesaf yw sicrhau bod gwasanaethau’r adeilad, y system wresogi a’r mesurau rheoli yn yr achos hwn, mor effeithlon â phosibl. Yn olaf, pan fydd y galw am ynni mor isel â phosibl, y cam olaf yw dewis cyflenwad ynni carbon isel.

Dull ‘Ffabrig yn gyntaf’ ar gyfer gwresogi effeithlon:

  1. lleihau’r galw am ynni trwy wella ffabrig yr adeilad (y waliau, y lloriau, y toeau, y ffenestri ac ati)   
  2. diwallu’r galw am ynni trwy wella’r system wresogi a’i mesurau rheoli 
  3. cyflenwi ynni o ffynonellau carbon isel gan ddefnyddio technoleg ynni adnewyddadwy 

Osgoi colli gwres

  • A yw’r adeilad wedi’i insiwleiddio’n dda?

Man cychwyn da ar gyfer gwella ffabrig adeilad yw trwy edrych o’i gwmpas a llunio rhestr wirio o feysydd i’w harchwilio’n rheolaidd a’r problemau i gadw llygad arnynt. Gwiriwch y toeau a’r atigau, y waliau, y ffenestri a’r drysau lle gall fod modd cyflwyno mesurau effeithlonrwydd heb ddim neu fawr ddim cost. Mae’n debyg mai gosod deunydd insiwleiddio mewn to ar oledd heb ddeunydd o’r fath fydd y ffordd fwyaf cost effeithiol o wella effeithlonrwydd ffabrig adeilad ac arbed arian ar filiau gwresogi. Mae hefyd yn bosibl uwchraddio’r deunydd insiwleiddio presennol yn y rhan fwyaf o doeau gan ychwanegu at yr hyn sydd yno eisoes (ar yr amod ei fod mewn cyflwr da a heb fod yn llaith). Os oes llai na 15cm (6 modfedd) o ddeunydd insiwleiddio, bydd bob amser yn werth ychwanegu mwy.

  • A yw’r ffenestri a’r drysau’n cael eu cadw ar agor yn ystod y tymor gwresogi?

Mae ffenestri sydd ar agor yn ystod y tymor gwresogi’n arwydd o reoli gwres gwael. Yn hytrach nag agor ffenestri i oeri ystafell, trowch y thermostat i lawr rhywfaint nes bydd yn cyrraedd tymheredd cyfforddus. Defnyddiwch ddeunydd hyrwyddo a chyfarfodydd staff i sicrhau bod cyflogeion yn gwybod sut i dynnu sylw at wres gormodol a sut i reoli’r gwres. Mae cyngor ar ymgysylltu â chyflogeion a sticeri gwybodaeth ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

  • A oes drafftiau oer yn dod trwy’r drysau a’r ffenestri?

Nid yn unig y mae drafftiau’n anghyfforddus ac yn arwain at gwynion, ond maent hefyd yn gwastraffu arian. Bydd drws gyda bwlch o 3mm yn gadael cymaint o aer oer i mewn â thwll maint bricsen mewn wal. Os nad oes drafftiau yn yr adeilad, ni fydd yn rhaid i’w systemau gwresogi weithio mor galed. Mae atal drafftiau’n ffordd rad ac effeithiol o arbed arian a gwella cysur thermol mewn  adeilad. 

Mae ystod o wahanol opsiynau a chostau i atal drafftiau, gan gynnwys seliau rwber, stribedi brwsh a seliau wedi’u cywasgu. Mae atal drafftiau mewn adeilad masnachol bychan yn fesur na fydd yn costio llawer a dylid adennill y gost o fewn pum mlynedd ac, yn y cyfamser, bydd y bobl yn yr adeilad yn gynhesach ac yn fwy cyfforddus.

  • A yw’r adeilad yn sych?

Mae adeiladau gwlyb yn anos ac yn fwy costus i’w cynhesu nag adeiladau sych, a gall gormod o leithder achosi difrod strwythurol costus yn ogystal â chreu amgylchedd gwaith anghyfforddus a all fod yn afiach i weithwyr.

Mae’n bwysig bod archwiliadau o’r adeilad yn cael eu cynnal yn gyson i sicrhau nad oes rhwystrau yn y cafnau ar y to nac yn y draeniau, a bod to a ffabrig yr adeilad yn gadarn. Mae’n arbennig o bwysig cynnal archwiliadau o’r fath cyn y gaeaf. Mae problem a ganfyddir yn gynnar bron bob amser yn rhatach ac yn haws i’w chywiro.

Defnyddio cyfarpar a gwres

  • Pa bryd gafodd y gwresogyddion a’r boeleri eu gwasanaethu ddiwethaf?

Gall costau cynhesu gynyddu 30% neu fwy os yw boeler yn gweithredu’n aneffeithiol neu os nad yw’n cael ei wasanaethu. Dylech sicrhau eu bod yn cael eu gwasanaethu o leiaf bob blwyddyn ac yn cael eu haddasu i weithio’n fwy effeithlon.

  • A yw’r rheiddiaduron yn gweithio’n effeithiol?

Bydd gormod o aer mewn rheiddiaduron confensiynol yn eu hatal rhag cynhesu, felly mae’n syniad da i’w ‘gwaedu’ yn achlysurol i atal aer rhag casglu. Byddwch yn gwybod bod angen gwaedu rheiddiadur os yw’n teimlo’n gynnes yn y gwaelod ond yn oer yn y top. Dyma sut i’w gwaedu:

  • diffoddwch y gwres a gadewch i’r system oeri’n llwyr
  • defnyddiwr allwedd rheiddiadur i droi’r falf gwaedu’n araf (bydd hwn fel arfer ar y top ac ar un ochr o’r rheiddiadur) nes byddwch yn clywed aer yn dianc
  • gwnewch yn siŵr bod gennych gadach oddi tano i ddal unrhyw ddiferion a all ddianc
  • gwaedwch y rheiddiadur nes bydd dim mwy o aer i’w glywed yn dianc a bod diferyn o ddŵr yn ymddangos, a chyn gynted ag y bydd hyn yn digwydd caewch y falf ar unwaith
  • A oes tystiolaeth bod gwresogyddion cludadwy’n cael eu defnyddio?

Mae gwresogyddion trydan cludadwy’n gostus i’w rhedeg. Mae gwresogyddion 2kW yn costio tua 20c yr awr i’w defnyddio. Byddai eu defnyddio am wyth awr y dydd yn golygu y byddai pob gwresogydd yn costio £8 yw wythnos neu dros £120 y flwyddyn.

Gall gwresogyddion cludadwy effeithio ar reolaeth tymheredd cyffredinol y gofod rydych yn ceisio’i gynhesu. Os oes gwir angen amdanynt mae hynny’n debygol o olygu bod problem â’ch system wresogi neu ffabrig yr adeilad. Os nad oes modd cywiro’r broblem, gwnewch yn siŵr bod gwres atodol yn cael ei osod a’i weithredu’n gywir. Defnyddiwch reolaeth amser os yw ar gael i wneud yn siŵr bod y gwresogyddion yn diffodd y tu allan i oriau neu dylech godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd eu diffodd. 

Dylai unrhyw wresogyddion cludadwy yn y gweithle gael profion PAT sy’n golygu bod modd cadw llygad ar y defnydd a wneir ohonynt. Gellir cael gwared ar unrhyw eitemau sydd heb eu labelu a gellir cyfyngu ar ddefnydd heb ei awdurdodi.

  • Sut mae’r dŵr poeth yn cael ei gyflenwi?

Mae dŵr poeth yn aml yn cael ei redeg yn barhaus ac mae’r gosodiadau tymheredd yn aml yn rhy uchel felly’n aml gellir lleihau’r defnydd o ynni sy’n gysylltiedig â dŵr poeth gymaint ag 20%. I wneud arbedion ynni yn y maes hwn, dylid gosod tymheredd y dŵr poeth ar 60°C ond nid yn is (oherwydd perygl o glefyd y llengfilwyr).

Opsiwn arall yw ystyried gosod gwresogyddion dŵr sy’n cynhesu’r dŵr ar unwaith pan fydd angen ychydig o ddŵr poeth yn bell oddi wrth y prif offer cynhesu. Bydd hyn hefyd yn golygu bod modd diffodd y prif foeler yn ystod yr haf.

Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn insiwleiddio’r holl danciau dŵr poeth, y boeleri, y falfiau a’r pibelli oni bai eu bod yn rhoi gwres defnyddiol i gynhesu rhannau o’r adeilad nad ydynt yn cael eu defnyddio. 

  • Pa mor effeithlon yw eich tapiau dŵr poeth a’r cawodydd?

Nid yn unig y bydd lleihau llif y dŵr yn nhapiau’r sinciau a’r cawodydd yn arbed dŵr ond bydd hefyd yn cwtogi ar faint o ynni sydd ei angen i gynhesu’r dŵr poeth. 

Mae cyfarpar sy’n awyru’r dŵr ac yn cyfyngu ar y llif yn atebion cost isel sy’n gallu lleihau’r defnydd o ddŵr hyd at 70%. Mae llif o 5-6 litr y funud yn ddigon ar gyfer golchi dwylo, ac mae 8-10 litr y funud yn ddigon ar gyfer cael cawod.

Gellir cyfrifo cyfradd llif y dŵr trwy ddefnyddio mesurydd llif a stopwats i gofnodi faint o amser a gymer i lenwi bwced 10 litr â dŵr. Er enghraifft, os yw’n cymryd 90 eiliad o lenwi’r cynhwysydd 10 litr, gallwch gyfrifo llif y dŵr (litr y funud) fel hyn:

  • 10 litr / 90 eiliad = 0.11111 litr yr eiliad           
  • 0.11111 litr yr eiliad x 60 eiliad = 6.66 litr y funud
  • A yw’r un gofynion gwresogi’n weithredol ym mhob man?

Ystyriwch gynhesu eich adeilad fesul parth i alluogi’r gwres i gael ei addasu ar gyfer pob parth. Bydd angen llai o wres mewn mannau fel storfeydd a choridorau, neu fannau lle mae llawer o weithgarwch corfforol.

Mae warysau’n aml yn cael eu cynhesu mewn ymdrech i leihau lleithder ac i gynnal ansawdd y nwyddau, ond gall aer cynnes yn aml ddal mwy o leithder nag aer oer a gall cynhesu gynyddu’r lleithder. Gall dadleithydd fod yn fwy effeithlon mewn amgylchiadau o’r fath.

Hefyd, cofiwch am effaith golau’r haul, a meddyliwch a ydych chi’n cynhesu mannau sydd eisoes yn cael eu cynhesu gan yr haul.

Rheoli ac amseru

  • A yw thermostatau wedi’u gosod yn gywir?

Mae costau cynhesu’n codi tua 8% am bob 1°C gormodol. Gwnewch yn siŵr bod gosodiadau’r thermostat yn cyd-fynd â chanllaw Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CIBSE):

  • Gweithgarwch trwm: 11 - 14°C
  • Gweithgarwch ysgafn: 16 - 19 °C
  • Eisteddog: 19 - 21 °C
  • Swyddfeydd: 21 – 23 °C

Gosodwch falfiau thermostatig yn y rheiddiaduron pan fo hynny’n bosibl i gael rheolaeth leol dros reiddiaduron a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir. 

Gwnewch yn siŵr bod thermostatau wedi’u gosod yn y mannau cywir yn ddigon pell oddi wrth ddrafftiau a golau haul uniongyrchol a heb fod yn rhy agos at ffynonellau gwres. 

Mae rheolaeth fesul parth hefyd yn eich galluogi i gynhesu neu oeri gwahanol rannau o’r adeilad ar adegau gwahanol a thymereddau gwahanol yn ôl anghenion defnyddwyr yr adeilad.

  • Blwch naid: A ydych chi’n Fanwerthwr?

Os ydych chi, dylech hefyd ystyried y tymheredd y tu allan. Bydd cwsmeriaid yn gwisgo dillad cynnes os yw’n oer y tu allan, felly dylid gosod y tymheredd i mewn yn y siop ar lefel na fydd yn eu gwneud yn rhy boeth tra byddant i mewn yn y siop. Mae rhai manwerthwyr yn gwastraffu ynni trwy gynhesu man lle mae staff yn gwisgo lifrai gyda llewys byr. Dylech gyflenwi lifrai ymarferol i staff fel bod modd cynnal tymheredd cyfforddus.

  • A oes gwresogyddion ac unedau awyru sy’n gweithio ar yr un pryd yn yr un fan?

Mae cynhesu ac oeri’r un lle ar yr un pryd yn gyffredin ac mae’n gwastraffu llawer o arian. Gosodwch ‘fand marw’ o 4 - 5°C rhwng cynhesu ac oeri, i wneud yn siŵr na fydd hyn yn digwydd. Er enghraifft, gwnewch yn siŵr nad yw systemau gwresogi’n dod ymlaen oni bai bod y tymheredd yn gostwng yn is na 19°C ac nad yw’r system oeri’n dod ymlaen nes bydd y tymheredd yn codi’n uwch na 24°C fel na fydd y systemau cynhesu ac oeri’n gwrthweithio yn erbyn ei gilydd. Gall hyn arbed hyd at 20% o ynni cynhesu ac oeri. 

  • A yw’r rheolaeth amser wedi’i osod yn gywir?

A yw’ch gwres yn dod ymlaen pan fydd ei angen yn unig ynteu a yw’n cynhesu’r adeilad pan fo neb yno? Mae cynhesu’ch adeilad pan fydd yn wag yn treulio’r boeler ac mae’n cynyddu eich costau ynni. Bydd eich adeilad yn cadw’r gwres am tuag awr ar ôl iddo gael ei ddiffodd, felly diffoddwch y gwres yn gynt na’r amser pan fydd pawb yn gadael.

Defnyddiwch switshis amseru syml neu amseryddion saith diwrnod i helpu i wneud y broses yn awtomatig fel na fydd neb yn anghofio diffodd y gwres pan nad oes ei angen. Gwnewch yn siŵr bod y gosodiadau amser yn cael eu hadolygu o leiaf bob mis (os nad yn amlach na hynny) i wirio eu bod yn briodol. 

Mae llawer o systemau’n gweithredu’n aneffeithlon o ganlyniad i addasiadau tymor byr sy’n cael eu hanghofio, felly’n ddelfrydol bydd gennych o leiaf un unigolyn dynodedig sy’n rheoli’r system wresogi. Hefyd, peidiwch â dibynnu at drydydd parti i reoli eich amseroedd ac os bydd angen gofynnwch iddynt ddangos i chi sut mae ei rheoli.

  • Sut mae ffannau echdynnu, yn y toiledau er enghraifft, yn cael eu rheoli?

Mae ffannau sy’n cael eu gadael ymlaen yn echdynnu aer cynnes ac yn gwastraffu arian - ystyriwch osod switshis amser neu synwyryddion sy’n synhwyro pan fydd pobl yn mynd i mewn ac allan.

Newid eich system wresogi 

Os yw eich boeler neu wresogydd yn fwy na 10 oed, efallai y dylech ystyried cael model tebyg ond mwy effeithlon neu system cwbl wahanol. Lle da i fynd i gael manylion am y cynnyrch mwyaf effeithlon ar y farchnad yw gwefan y Rhestr Technoleg Ynni (ETL). 

Ynni adnewyddadwy 
Os ydych chi’n chwilio am system gwres adnewyddadwy, technolegau y gallech eu hystyried yw:

  • Pympiau gwres
  • Paneli solar thermol 
  • Biomas
  • Systemau gwres a phŵer cyfunedig (CHP) 

Ceir rhagor o wybodaeth am systemau adnewyddadwy ar wefan yr Ymddiriedolaeth Garbon ac mae’r modelau mwyaf effeithlon hefyd i’w cael ar yr ETL.

Os ydych chi’n ystyried newid eich system wresogi, fe’ch cynghorir i gael cymorth proffesiynol i ddod o hyd i’r ateb gorau i ddiwallu eich anghenion. Os ydych chi’n cael anhawster dod o hyd i gyflenwyr dibynadwy, gallwch ddefnyddio Cyfeiriadur Busnesau Gwyrdd yr Ymddiriedolaeth Garbon – cewch ragor o fanylion yr yn adran ddilynol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.