Cynyddu gallu a chapasiti busnesau Cymru i gyflawni gweithgareddau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi drwy drosglwyddo gwybodaeth.
Rydym yn cynnig help ariannol i brosiectau cydweithredol ac arloesol sydd ag angen help arbenigwyr arnyn nhw i dyfu, i fod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol.
Fe'i cynigir i fusnesau Cymru a phartneriaid sylfaen gwybodaeth o Gymru*. Rhaid i'r prosiect ddangos bod yr holl bartneriaid yn gweithio ar y cyd ac y bydd yn cyflawni effeithiau cadarnhaol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Bydd arian ar gael i dalu am 100% o gostau cymwys prosiect y partneriaid sylfaen gwybodaeth, gydag o leiaf 50% o arian cyfatebol gan y busnes.
Hyd y prosiectau: 6 -12 mis.
Nid yw gwaith ymchwil dan gontract a gwasanaethau ymchwil yn gymwys.
* Partner sylfaen gwybodaeth - naill ai sefydliad addysg uwch (AU) neu addysg bellach (AB) yng Nghymru, sefydliad ymchwil a thechnoleg (RTO) neu Catapult.
GWYBODAETH AM BARTNERIAETHAU
- Cynyddu twf busnes, cynhyrchiant a chystadleurwydd mewn partneriaeth â sefydliadau ymchwil.
- Sicrhau bod cyllid pellach yn cael ei ennill drwy gystadleuaeth.
- Annog partneriaethau cydweithredol arloesol rhwng busnes a phartner sylfaen gwybodaeth
Bydd hyn o gymorth i greu cydweithrediadau buddiol i'r ddwy ochr rhwng busnes, partner sylfaen gwybodaeth, a pherson â chymwysterau addas (a elwir yn Gydymaith) gyda'r gallu i arwain y prosiect arfaethedig.
Disgwylir y bydd busnesau'n manteisio neu'n masnacheiddio gwybodaeth eu partneriaeth neu'n ymgymryd â datblygiad pellach trwy lwybrau cymorth eraill.
Rhaid i'r cais gael ei ddatblygu ar y cyd gan yr holl bartneriaid a'i gyflwyno gan y partner sylfaen gwybodaeth mewn partneriaeth â'r busnes.
I fod yn gymwys am y cyllid, rhaid i bob cais ddarparu tystiolaeth fel a ganlyn:
- Partner sylfaen gwybodaeth yw'r partner arweiniol.
- Mae angen i'r prosiect gael ei yrru gan fusnes a rhaid i'r busnes yng Nghymru ddangos yn glir y gallu a'r adnoddau sydd ganddo i fanteisio ar ganlyniadau'r prosiect.
- Dim ond mewn achosion eithriadol y gellir ystyried busnesau nad ydynt yng Nghymru, ac mae'n rhaid iddynt gael achos busnes clir sy'n dangos effaith gadarnhaol ar Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
- Mae angen i'r prosiect ddangos heriau a buddion sylweddol i'r holl bartneriaid.
Mae'r prosiectau yn cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i'r sefydliad ymchwil.
Bydd cyllid yn cefnogi 100% o gostau prosiect cymwys y sefydliadau ymchwil, gydag isafswm o 50% o arian cyfatebol yn dod o'r busnes. Mae'r partner busnes yn darparu'r balans sy'n weddill o gyfanswm costau'r prosiectau cymwys drwy arian cyfatebol naill ai mewn cyfraniadau arian parod neu mewn nwyddau i'r prosiect cyffredinol.
Mae'r holl weithgareddau at ddibenion y prosiect yn unig, yn cael eu cynnal ar y gost leiaf i gyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd ac ni ddylent ddyblygu na disodli pecynnau cymorth presennol.
Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer prosiectau sy'n para o leiaf 6 mis o hyd, i uchafswm o 12 mis o hyd.
Mae costau cymwys y prosiectau yn cynnwys costau uniongyrchol o ran
- Costau cyflogi Cydymaith
- Datblygu Cydymaith
- Teithio a chynhaliaeth (y DU yn unig)
- Offer, nwyddau traul (di-gyfalaf)
- Goruchwyliwr Sylfaen Gwybodaeth
- Costau staff y cwmni (os yw'n berthnasol)
- Gorbenion
Opsiynau o ran recriwtio cydymaith:
- Mae'r cydymaith yn cael ei gyflogi'n ffurfiol gan y partner sylfaen gwybodaeth. Y busnes a'r partner sylfaen gwybodaeth sydd â chyd-gyfrifoldeb am benderfynu pwy i benodi
- Gall y busnes gyflogi'r cydymaith, a'u costau cyflogi yn cael eu defnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer y prosiect. Rhaid nodi'n glir yn y cais y bydd y person yn ymroddedig i weithio ar y prosiect.
Gofynion ar gyfer y Cydymaith:
Dylai fod gan y cydymaith gymwysterau a/neu brofiad sy'n cyd-fynd â gofynion cyflawni'r prosiect (BTEC, Diploma lefel 3 neu gyfwerth, o leiaf). Rhaid recriwtio'r cydymaith, a dechrau'r prosiect o fewn 6 mis i gyhoeddi'r llythyr cynnig grant.
Mae'r cydymaith penodedig wedi'i leoli yn y busnes i ddatblygu a gweithredu'r prosiect, a dylai gwrdd â'i oruchwyliwr ymchwil yn rheolaidd i symud y prosiect yn ei flaen.
Lle bo'n briodol, bydd y cydymaith yn defnyddio cyfleusterau'r partneriaid sylfaen gwybodaeth i ddatblygu'r prosiect. Yn ystod yr amser y mae'r cydymaith yn gweithio ar y prosiect, bydd gwybodaeth a sgiliau ymchwil, datblygu ac arloesi newydd yn cael eu datblygu a'u hymgorffori yn y busnes.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os ydych yn credu fod y cymorth hwn yn addas i chi anfonwch e-bost at smart.fis@llyw.cymru
Caiff prosiectau cymeradwy gynnig amodol o gyllid sy'n ddilys am 6 mis. Bydd hyn yn amodol ar gytundeb cydweithio wedi'i lofnodi.
Gellir cyflwyno’r cytundeb cydweithio gyda’r cais os yw’n barod.
Os na fydd Cytundeb Cydweithredu ffurfiol yn ei le ac wedi’i anfon atom erbyn diwedd y cyfnod o 6 mis, caiff y cynnig o gyllid ei dynnu yn ôl.
Sut bydd y cais yn cael ei werthuso?
Caiff y cais ei werthuso yn ôl y meini prawf a ganlyn:
- Cymhelliant
- Arloesi
- Yn herio
- Cydlyniant