BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Dewis yr adeilad iawn ar gyfer eich busnes

Mae dewis yr adeilad iawn yn benderfyniad busnes hollbwysig. Dylai eich adeilad eich helpu i weithredu’n effeithiol heb gostau gormodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 June 2017
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Cynnwys

1. Cyflwyniad

Mae dewis yr adeilad iawn yn benderfyniad busnes hollbwysig. Dylai eich adeilad eich helpu i weithredu’n effeithiol heb gostau gormodol. Ar yr un pryd, dylech chi osgoi cael eich clymu i adeilad na fydd yn addas ichi efallai yn y dyfodol.

Mae opsiynau gwahanol yn addas ar gyfer busnesau gwahanol. Drwy ystyried yr holl ffactorau perthnasol, byddwch yn gallu dod o hyd i adeilad addas mewn lleoliad a fydd yn bodloni anghenion eich busnes, eich cwsmeriaid a'ch staff.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i chwilio am adeilad a fydd yn bodloni’ch gofynion a sut i ddewis y lleoliad gorau ar gyfer eich busnes. Mae hefyd yn amlinellu'r prif faterion cyfreithiol y bydd angen ichi eu deall.

2. Pennu'ch gofynion ar gyfer adeilad

Un ffordd dda o ddechrau chwilio yw llunio rhestr o'r pethau y bydd eu hangen arnoch o'ch adeilad. Gallai’r rhestr gynnwys y pwyntiau canlynol:

  • maint a chynllun yr adeilad
  • adeiledd ac ymddangosiad, yn fewnol ac yn allanol
  • unrhyw ofynion arbennig o ran yr adeiledd, ee nenfydau uchel
  • cyfleusterau a chysur ar gyfer cyflogeion ac ymwelwyr – gan gynnwys y goleuadau, toiledau a chyfleusterau cegin
  • cyfleustodau, megis pŵer a draeniau, ac unrhyw ofynion arbennig - er enghraifft trydan teirgwedd
  • caniatâd, gan gynnwys caniatâd cynllunio, i ddefnyddio'r adeilad ar gyfer eich math chi o fusnes
  • mynediad a mannau parcio - ar gyfer derbyn nwyddau neu ar gyfer cwsmeriaid, gan gynnwys cwsmeriaid anabl
  • a oes angen yr hyblygrwydd arnoch i newid neu ymestyn yr adeilad
  • eich cynlluniau busnes hirdymor

Mae angen ichi hefyd feddwl am y lleoliad y byddech yn ei hoffi ar gyfer eich busnes – gweler rhan 3 o'r canllaw hwn ar sut ddewis y lleoliad iawn ar gyfer eich busnes.

Ar ôl llunio rhestr o’ch gofynion, efallai y byddwch yn penderfynu y gallai gweithio gartref fod yn addas ichi. Fodd bynnag, rhaid ichi ystyried materion ymarferol a chyfreithiol pwysig – gweler ein canllaw ar sut mae defnyddio'ch cartref fel gweithle.

Bydd yr adeilad a ddewiswch yn dibynnu hefyd ar eich cyllideb. Pa un a ydych yn rhentu neu'n prynu, gall y costau gynnwys:

  • costau prynu cychwynnol, gan gynnwys costau cyfreithiol megis ffioedd cyfreithiwr a ffioedd proffesiynol ar gyfer syrfewyr.
  • newidiadau cychwynnol, dodrefnu ac addurno
  • unrhyw newidiadau gofynnol i fodloni gofynion rheoliadau adeiladu, iechyd a diogelwch a thân
  • costau rhent, gwasanaethau a chyfleustodau rheolaidd, gan gynnwys dŵr, trydan a nwy
  • ardrethi busnes – gweler GOV.UK: ardrethi busnes - golwg gyffredinol
  • gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio parhaus
  • yswiriant adeiladau a chynnwys

Rhaid i werthwyr a landlordiaid ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) i ddarpar brynwyr neu denantiaid.

 Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn dangos pa mor ynni-effeithlon yw adeilad a'i wasanaethau a gall fod yn ddangosydd da ar gyfer y costau ynni tebygol.

Os yw’ch gofynion yn rhy benodol, efallai y gwelwch mai dewis bach iawn o adeiladau sydd ar gael neu na fyddwch yn gallu’u fforddio. Meddyliwch pa ofynion sy’n hanfodol a pha rai sy’n ddymunol, a'u blaenoriaethu yn unol â hynny er mwyn gwneud eich penderfyniad.

3. Dewis y lleoliad iawn ar gyfer adeilad eich busnes

Mae cael lleoliad da ar gyfer eich busnes yn hanfodol, ond gall dewis yr un iawn olygu taro cydbwysedd rhwng gwahanol bethau. Yn ddelfrydol, dylai’r lleoliad fod yn hwylus ar gyfer eich cwsmeriaid, cyflogeion a chyflenwyr – heb fod yn rhy ddrud.

Dyma rai ffactorau i'w hystyried:

  • Nifer y cwsmeriaid sy’n pasio heibio – yn dibynnu ar natur eich busnes, gall faint o gwsmeriaid sy’n pasio gael effaith enfawr ar lwyddiant eich menter.
  • Nifer y cystadleuwyr – er y bydd rhai busnesau, fel gwerthwyr tai, yn gallu elwa o fod mewn clwstwr o fusnesau tebyg. I lawer o fusnesau eraill, bydd cael gormod o gystadleuwyr yn rhy agos yn gallu cael effaith ddifrifol ar werthiant a phroffidioldeb.
  • Cysylltiadau trafnidiaeth a pharcio – mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da a chyfleusterau parcio lleol yn ei gwneud yn haws i gyflogeion a chwsmeriaid nad ydynt yn gallu cerdded i'w gwaith.
  • Cyfyngiadau ar ddanfon cyflenwadau – gall hyn achosi problemau i’ch cyflenwyr. Felly rhaid ichi wneud yn siŵr fod eich adeilad mewn man hwylus os ydych yn disgwyl cael cyflenwadau wedi'u danfon yn gyson.
  • Taliadau atal tagfeydd.
  • Cyfyngiadau cynllunio – cofiwch holi i weld a ydych yn cael defnyddio'r adeilad at y diben sydd gennych mewn golwg.
  • Ardrethi busnes a ffioedd awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau fel casglu sbwriel - gall y rhain ychwanegu'n sylweddol at gostau parhaus lleoli mewn ardal benodol, a all wneud yr adeilad yn llai deniadol o'ch safbwynt chi.
  • Amwynderau lleol – yn gyffredinol, mae’n well gan gyflogeion weithio mewn ardaloedd sydd â chyfleusterau lleol da, ac efallai y bydd angen ichi fynd i’r banc neu ganolfan bostio’n rheolaidd.
  • Sut le ydy’r ardal – efallai y bydd natur eich lleoliad yn effeithio ar ddelwedd eich busnes.

Pa bynnag opsiwn y byddwch yn ei ddewis, mae'n debyg y bydd ganddo ei fanteision a'i anfanteision. Efallai y bydd swyddfa yng nghefn gwlad yn ymlaciol, ond gallai fod yn niwsans i staff neu i gyflenwyr sy’n cyflenwi nwyddau. Gallai lleoliad yng nghanol dinas fod yn hwylus iawn, ond gallai fod yn ddrud iawn hefyd.

Mae lleoliad yn cael effaith fawr ar gost. Os bydd angen adeilad arnoch mewn lleoliad o’r radd flaenaf, efallai y gellir cyfiawnhau'r costau ychwanegol.

4. Ystyriaethau cyfreithiol wrth ddewis adeilad ar gyfer eich busnes

Os ydych yn berchen ar adeilad busnes, neu’n ei feddiannu, mae angen ichi wybod am y dyletswyddau a'r cyfyngiadau cyfreithiol sy'n effeithio arnoch chi. Er enghraifft:

  • rhaid bod gan yr adeilad ganiatâd cynllunio sy’n caniatáu i’ch math chi o fusnes gael ei gynnal yno
  • rhaid ichi gydymffurfio â rheoliadau adeiladu, tân ac iechyd a diogelwch
  • rhaid talu treth stamp ar brydlesi masnachol ac mae’n debyg y bydd yn rhaid ichi dalu ardrethi busnes, er y bydd y rhain o bosibl yn cael eu talu gan y landlord os ydych chi'n rhentu eiddo. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw: ardrethi busnes - golwg gyffredinol
  • chi sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch cyflogeion ac ymwelwyr
  • rhaid ichi hefyd ddarparu amgylchedd gweithio addas
  • os ydych chi’n darparu nwyddau neu wasanaethau i'r cyhoedd, rhaid ichi gymryd camau rhesymol i wneud eich adeilad yn hygyrch
  • bydd angen ichi gydymffurfio â thelerau unrhyw brydles neu gytundeb trwydded
  • ar gyfer rhai busnesau, efallai y bydd yn rhaid ichi gael trwydded i weithredu neu i werthu rhai mathau o gynnyrch
  • efallai y bydd cyfyngiadau ar pryd y caniateir danfon nwyddau, neu ar lefelau sŵn a llygredd, a sut y byddwch chi neu eich cwsmeriaid yn cael gwared â gwastraff

Mewn adeiladau trwyddedig neu ar les, mae'r cyfrifoldebau'n cael eu rhannu rhwng y landlord a'r tenant.

Pa adeilad bynnag y byddwch yn ei ddewis, bydd angen ichi sicrhau bod gennych yswiriant priodol. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw ar sut i yswirio eich busnes a'ch asedau - yswiriannau cyffredinol.

Os ydych yn ansicr am eich dyletswyddau cyfreithiol, dylech chi geisio cyngor gan gyfreithiwr neu eich cynghorydd busnes.

5. Chwilio am adeilad

Mae’n werth cychwyn arni drwy lunio manyleb neu ‘spec’,  a fydd yn nodi’ch gofynion yn glir. Gwahaniaethwch rhwng y pethau sy’n hanfodol a’r pethau sy’n ddymunol. 

Gallwch wedyn ddosbarthu’r fanyleb hon i werthwyr eiddo a syrfewyr sy’n delio ag adeiladau  masnachol yn eich ardal. Efallai hefyd y bydd eich awdurdod lleol, Siambr Fasnach neu gymdeithas fasnach yn gallu'ch helpu.

Mae gan lawer o awdurdodau lleol gofrestr o adeiladau masnachol sydd ar gael. Hefyd, mae’n werth ymchwilio i unrhyw grantiau, benthyciadau ar delerau ffafriol a chynlluniau cymhelliant sydd wedi'u sefydlu i demtio busnesau bach i sefydlu mewn ardaloedd trefol, megis grantiau gan brosiectau adnewyddu canol dinasoedd, neu adeiladau rhatach ar gyfer busnesau bach mewn ardaloedd dynodedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Cronfa Ddata Eiddo Masnachol Cymru Gyfan sy’n darparu manylion adeiladau busnes sydd ar gael, gan gynnwys:

  • warysau ac unedau diwydiannol
  • swyddfeydd a chanolfannau galwadau
  • tir sy’n addas ar gyfer datblygiad masnachol

Dod o hyd i adeilad busnes ar Gronfa Ddata Eiddo Masnachol Cymru Gyfan (mae angen cofrestru).

Defnyddiwch eich manyleb i ymchwilio i ddarpar adeiladau a dileu unrhyw rai nad ydynt yn bodloni o leiaf y cyfan o'ch gofynion hanfodol.  Yna gallwch lunio rhestr fer o adeiladau i ymweld â nhw.

Ar y cam hwn, efallai y byddwch am gysylltu â chynghorwyr proffesiynol. Er enghraifft, gall syrfëwr asesu cyflwr yr adeilad a rhoi syniad o'i werth ichi.

Pan fyddwch yn barod i wneud cynnig neu i gytuno ar delerau prydles, gall eich cyfreithiwr helpu i negodi’r cytundeb a chwblhau’r gwaith cyfreithiol.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.