1. Trosolwg

Os ydych chi’n bwriadu sefydlu a rhedeg busnes ‘gweithio gartref’, rhaid ichi ystyried nifer o bwyntiau cyn cychwyn.

Gall gweithio o adref effeithio ar eich morgais, eich yswiriant cartref, eich sefyllfa dreth, pobl eraill sy'n byw yn eich cartref a'ch cymdogion hyd yn oed.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio manteision ac anfanteision gweithio o adref ac yn eich helpu i droi lle rydych yn byw yn fan gweithio.

2. Pethau i'w gwirio cyn dechrau rhedeg busnes yn y cartref

Yn dibynnu ar natur eich busnes, efallai y bydd angen ichi gynnal gwiriad gyda rhai o’r canlynol:

  • eich benthyciwr morgais neu landlord/rhydd-ddeiliad – efallai y bydd rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’ch cartref i redeg busnes yn eich cytundeb tenantiaeth neu forgais
  • darparwr eich yswiriant, i weld a oes angen ichi gymryd rhagor o yswiriant
  • Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i weld a fydd yn rhaid ichi dalu ardrethi busnes 
  • Cyllid a Thollau EM a chyfrifydd, i weld beth yw eich sefyllfa o ran incwm, TAW a Threth Enillion Cyfalaf
  • cyfreithiwr, ar gyfer yr agweddau cyfreithiol
  • yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) neu eich awdurdod lleol, i gael gwybod am agweddau iechyd a diogelwch rhedeg busnes o'ch cartref
  • eich cymdogion, i wneud yn siŵr nad oes ganddynt wrthwynebiad ichi redeg eich busnes o adref
  • adran gynllunio a rheoli adeiladu eich awdurdod lleol, i weld a fydd angen caniatâd cynllunio arnoch neu er mwyn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu

Cynllunio ar gyfer argyfwng

Nid yw gweithio o'ch cartref yn cael ei ystyried yn faes risg uchel am argyfyngau. Ond, dylech chi roi mesurau diogelwch ar waith rhag ofn y ceir tân yn y cartref. Dylech chi fod â:

  • system rybuddio ddigonol – gosodwch larwm tân domestig yn eich man gwaith a’i archwilio’n rheolaidd
  • ffordd o ddianc – trefnwch hyn ymlaen llaw

Dylech chi hefyd ystyried prynu diffoddwr tân domestig neu flanced dân a chadw blwch cymorth cyntaf yn eich swyddfa gartref.

3. Rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio i fusnes yn y cartref

Os bydd rhedeg eich busnes o'ch cartref yn golygu bod y defnydd o’r adeilad yn newid yn helaeth, neu os bydd eich gweithgareddau yn effeithio ar yr ardal lle rydych yn byw, efallai y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio oddi wrth eich awdurdod lleol.

Efallai y bydd yn rhaid ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio:

  • os na fydd eich cartref yn cael ei ddefnyddio mwyach fel preswylfa breifat yn bennaf. Dyma’r prawf allweddol – ydy’ch cartref yn adeilad busnes yn gyntaf ac yn gartref yn ail?
  • os bydd eich gweithgareddau busnes yn arwain at ragor o draffig neu barcio mewn ardal breswyl
  • os yw eich busnes yn cynnwys gweithgareddau anghyffredin ar gyfer ardal breswyl
  • os bydd eich busnes yn tarfu ar eich cymdogion ar oriau afresymol neu'n creu mathau eraill o niwsans, fel sŵn neu arogleuon
  • os byddwch yn gwneud newidiadau strwythurol mawr i’ch eiddo, yn ei newid neu’n ei ymestyn

Os bydd angen ichi wneud newidiadau strwythurol i’ch cartref, rhaid iddynt fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu, sy’n cael eu gorfodi gan awdurdodau lleol.

Gallwch holi’ch cyngor lleol yn anffurfiol a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich datblygiad arfaethedig. Am ffi, gallwch hefyd wneud cais am benderfyniad ffurfiol.

Efallai y gallwch ddefnyddio’ch cartref ar gyfer gwneud ychydig o fusnes heb orfod talu ardrethi busnes. Ond, os byddwch yn newid rhan o’ch cartref yn gyfan gwbl ar gyfer defnydd busnes (fel gweithdy), efallai y byddwch yn gorfod talu ardrethi busnes. 

4. Ystyriaethau treth pan fyddwch yn gweithio o'ch cartref

Gall gweithio o'ch cartref effeithio ar eich sefyllfa dreth:

  • Bydd eich busnes yn gallu hawlio gostyngiad treth ar filiau domestig ar gyfer y rhannau o’r tŷ a ddefnyddir ar gyfer eich busnes.
  • Os yw’ch busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW, efallai y byddwch yn gallu hawlio TAW yn ôl ar eitemau y byddwch yn eu prynu ar gyfer defnydd y busnes.  
  • Os ydych chi wedi neilltuo ystafell yn gyfan gwbl ar gyfer gweithio ynddi, rhaid ichi weithio allan a fydd Treth Enillion Cyfalaf i'w thalu petaech yn gwerthu’ch cartref. Cewch wybodaeth am ostyngiad yn y Dreth Enillion Cyfalaf ar eich cartref ar wefan Cyllid a Thollau EM.

O 1 Ebrill 2011, at ddibenion Treth Corfforaeth, a 6 Ebrill 2011 ar gyfer treth incwm, mae eiddo gwyliau wedi’i ddodrefnu a osodir ar sail fasnachol yn gallu bod yn gymwys ar gyfer cael ei drin at ddibenion treth o dan reolau Gosod Tai Gwyliau wedi’u Dodrefnu (FHL). Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’r eiddo fod yn y DU neu yn Ardal Economaidd Ewrop a rhaid iddo fod ar gael ar gyfer ei osod yn fasnachol i’r cyhoedd am isafswm cyfnod. 

Dylech chi bob amser ymgynghori â chyfrifydd neu Gyllid a Thollau EM ar faterion treth. Gweler ein canllaw dewis a gweithio gyda chyfrifydd.

Talu ardrethi busnes

Efallai y bydd yn rhaid talu ardrethi busnes yn hytrach na'r dreth gyngor ar eiddo domestig a ddefnyddir ar gyfer busnes - er enghraifft os ydych chi'n gweithio o'ch cartref, yn darparu gwely a brecwast neu'n gosod eich tŷ fel tŷ gwyliau. 

5. Asesiadau risg iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio o'ch cartref

Os byddwch yn defnyddio’ch cartref fel eich gweithle busnes, rhaid ichi gynnal asesiad risg iechyd a diogelwch i ganfod unrhyw beryglon posibl i chi, gweithwyr, ymwelwyr ac aelodau eraill eich cartref.

Canfod a phwyso a mesur y risgiau

Dyma beryglon posibl:

  • defnyddio cyfarpar gwaith gartref, gan gynnwys cyfarpar trydanol
  • gosodiad eich gweithfan
  • codi a thrin llwythi
  • deunyddiau a sylweddau peryglus
  • peryglon seicolegol, megis straen neu unigrwydd
  • tân
  • llithro, baglu a chwympo
  • sŵn neu ddirgrynu gormodol

Rhaid ichi bwyso a mesur a yw perygl yn sylweddol ac, os ydyw, a ydych chi wedi cymryd camau i wneud y risg mor isel ag y gallwch yn rhesymol ei wneud. Mae'r pethau i’w hystyried yn cynnwys y bobl sy'n byw yn eich cartref, y math o waith rydych yn ei wneud a'r offer rydych yn ei ddefnyddio.

Does dim rhaid ichi gofnodi canlyniadau eich asesiad risg iechyd a diogelwch onid ydych yn cyflogi 5 neu fwy o bobl.

Defnyddio deunyddiau a sylweddau peryglus

Os oes raid ichi ddefnyddio deunyddiau neu sylweddau peryglus yn eich busnes gartref, dylech chi ddarllen y dalenni data diogelwch neu labeli'r cynnyrch a ddarperir gyda'r deunyddiau neu'r sylweddau i ganfod pa fygythiadau penodol y maent yn eu hachosi. Bydd angen ichi sicrhau bod sylweddau peryglus yn cael eu storio'n ddiogel ac y ceir gwared â nhw yn y ffordd gywir.

Dylai dillad diogelwch fel menig a masgiau gael eu gwisgo hefyd, a dylid agor ffenestri pan fyddant yn cael eu defnyddio fel nad ydych yn dod i ormod o gysylltiad â’r sylwedd.

Gall hyd yn oed sylweddau cyffredin a ddefnyddir mewn swyddfa, glud er enghraifft, fod yn beryglus yn y dwylo anghywir.

6. Creu ardal weithio ar wahân yn eich cartref

Yn ddelfrydol, dylai'r rhan o'ch cartref y byddwch yn ei defnyddio ar gyfer eich gwaith fod ar wahân i weddill eich cartref. Mae’n helpu os gallwch osgoi cael eich styrbio pan fyddwch yn gweithio. Efallai hefyd y byddwch eisiau gallu ymlacio yn ystod eich amser rhydd heb i waith darfu arnoch chi. Ystafell sbâr gyda drws sy’n cloi neu adeilad allanol fel garej neu sied sydd orau, fel y:

  • bydd y risg o ddifrod damweiniol i’ch gwaith neu gyfarpar yn llai
  • bydd yn eich helpu i fod ar wahân i fywyd y cartref, er mwyn ichi allu delio â’ch cleientiaid mewn modd proffesiynol
  • bydd eich cyfarpar gwaith ddim yn achosi perygl i aelodau’ch cartref
  • bydd yn haws gwrthsefyll gofynion aelodau eraill eich cartref

Os byddwch yn neilltuo rhan o’ch cartref fel gweithle, bydd gan hynny oblygiadau treth ac yswiriant. 

Os nad oes modd ichi fod wedi'ch gwahanu’n gyfan gwbl o'ch cartref, yr ail opsiwn yw gwahanu rhannol. Gallech wneud y canlynol:

  • defnyddio’ch cyfarpar swyddfa mewn ardal gyffredinol o’r tŷ megis ystafell fwyta neu lolfa
  • cloi cyfarpar a gwaith yn ddiogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
  • ystyried gosod eich gweithfan mewn cwpwrdd sydd â drysau neu gaeadau y gellir eu cloi

Cofiwch fod yn ofalus iawn am ddiogelwch ac ystyried yr effeithiau ar aelodau eraill eich cartref.

Mae’n syniad da cael llinell ffôn a pheiriant ateb ar wahân ar gyfer eich galwadau busnes.

7. Gosod y weithfan a chyfarpar gwaith

Gwnewch yn siŵr fod eich cyfarpar gwaith yn ddiogel ac nad oes modd i aelodau eraill eich cartref, plant bach yn enwedig, gael eu brifo gan y cyfarpar.

Mae diogelwch trydanol yn eithriadol o bwysig a rhaid i’r cyfarpar y byddwch yn ei ddefnyddio fod yn addas ar gyfer y gwaith a rhaid iddo gael ei archwilio’r rheolaidd. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn gorlwytho socedi.

Gosod y man gwaith

Mae llawer o bethau i’w hystyried pan fyddwch yn gosod eich man gwaith, megis:

  • rhaid i gyfarpar gyrraedd y safonau sylfaenol a’u gosod yn gywir
  • dylid gallu addasu cadeiriau i’w gwneud yn addas ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr
  • dylai cyfarpar cyfrifiadurol fod yn ddiogel ac ni ddylai effeithio ar iechyd y defnyddiwr
  • ni ddylai sgriniau cyfrifiaduron ddangos adlewyrchiadau  
  • rhaid addasu gweithfannau fel eu bod yn gyfforddus, gyda'r bysellfwrdd yn y safle iawn

Diogelwch

Pan fyddwch yn gweithio o’ch cartref, rhaid ichi fod yn ofalus am ddiogelwch cyfarpar a data gwaith, yn enwedig os ydynt yn sensitif. Dylech ystyried y canlynol yn ofalus:

  • ydy’ch cartref wedi'i ddiogelu'n gyffredinol rhag lladron? Efallai y byddai’n syniad da gofyn i swyddog atal troseddau gael golwg ar eich cartref a rhoi cyngor ar sut y gallwch ei wneud yn fwy diogel.
  • ydych chi wedi ystyried sut y byddwch yn diogelu'ch gwaith rhag y bobl eraill sy'n byw yn eich cartref? Os ydych chi’n rhannu cyfrifiadur, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed eich gwaith ac yn gwneud copi wrth gefn yn rheolaidd a bod eich gwaith yn cael ei ddiogelu â chyfrinair.
  • oes gennych chi yswiriant digonol? Cofiwch na fydd eich yswiriant tŷ cyffredinol mae’n debyg yn gwarchod cyfarpar busnes drud.
  • oes gennych chi gwpwrdd ffeilio neu sêff y gellir ei gloi? Efallai y byddai'n ddoeth prynu sêff sy'n ddiogel rhag tân ar gyfer eitemau unigryw.
  • allwch chi gael gwared â gwybodaeth sensitif mewn ffordd ddiogel? Er enghraifft, dylai papurau sensitif gael eu rhwygo’n fân yn ofalus (gorau oll os defnyddir peiriant rhwygo lletraws), ac ni ddylid cael gwared â nhw gyda sbwriel arferol y cartref.
  • ydych chi’n cludo eich cyfarpar neu eich gwaith mewn mannau cyhoeddus fel ar drên? Ni ddylech chi adael cyfarpar heb neb yn gofalu amdano neu heb ei glymu mewn man cyhoeddus. Hefyd, dylech chi fod yn ofalus ynghylch beth sy’n cael ei arddangos ar eich sgrin pan allai gael ei weld gan bobl ddiawdurdod.

8. Manteision ac anfanteision gweithio o adref

Mae defnyddio’ch cartref fel adeilad eich busnes yn ddewis cyffredin i bobl sydd angen swyddfa fechan yn unig, neu sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio yn adeiladau cleientiaid.

Mae llawer o fanteision i weithio o'ch cartref. Efallai y gwelwch ei fod yn eich helpu i:

  • arbed ar y costau cychwyn, gan nad oes angen adeilad arnoch chi
  • arbed amser a fyddai'n cael ei dreulio'n chwilio am adeilad addas
  • osgoi cael eich clymu i gytundebau tenantiaeth hir
  • trefnu gwaith o gwmpas dyletswyddau teulu
  • cael help gan y teulu - er enghraifft efallai y byddant yn eich helpu i ffeilio neu i wneud tasgau gweinyddol cyffredinol
  • arbed amser ac arian a dreulir yn teithio i’r gwaith
  • osgoi sŵn ac ymyriadau’r gweithle

Ond, y mae anfanteision hefyd i weithio o adref. Efallai y byddwch yn cael trafferth gyda’r canlynol:

  • gwahanu eich bywyd teuluol o’ch bywyd gwaith
  • cost gychwynnol sefydlu busnes
  • ymyriadau a thrafferthion domestig
  • teimlo’n ynysig/unig