Cyrsiau ar-lein am ddim
Os oes angen help arnoch i fynd â’ch busnes ar-lein, rydyn ni yma i chi. Byddwn yn rhoi’r sgiliau a’r gefnogaeth ddigidol i chi i ddiogelu eich busnes nawr ac yn y dyfodol.
P'un a ydych chi'n newydd i’r byd digidol neu'n ystyried gwneud mwy o'ch presenoldeb ar-lein, mae gennym weminar fanwl yn aros amdanoch chi.
Rhedeg Eich Busnes Ar-lein: Ble i Ddechrau - Cwrs ar-lein am ddim
Rhedeg busnes bach newydd neu fusnes sy’n tyfu ac eisiau creu delwedd broffesiynol ar-lein ond ddim yn gwybod ble i ddechrau?
Byddwn yn eich arwain drwy bopeth sydd ei angen arnoch i greu neu gomisiynu eich gwefan newydd Mae’r meysydd sy’n cael sylw yn y cwrs Cychwyn Arni Ar-lein hwn yn cynnwys:
- Cychwyn arni gydag enwau parth a gwe-letya
- Sefydlu a rheoli cyfrif e-bost proffesiynol
- Manteision ac anfanteision defnyddio Wix, WordPress, Shopify, GoDaddy a mwy
Mae ein gweminarau Gweithio’n Ddoethach yn ymdrin â phopeth sydd angen i chi ei wybod am:
- hyrwyddo'ch busnes ar gyfryngau cymdeithasol
- Adnoddau ar-lein i'ch helpu i weithio’n gyflymach ac yn fwy effeithlon
- Cadw’n ddiogel ar-lein a gwarchod eich busnes
Mae'r pynciau'n cynnwys:
Gweithio Ar-lein - Seibergadernid
Mae ein gweminarau Hyrwyddo Eich Busnes yn dangos i chi sut mae gwneud y canlynol:
- Dweud wrth bobl eich bod ar agor, neu y byddwch chi cyn bo hir
- Targedu cwsmeriaid newydd i gael arian yn y banc
- Siarad â chwsmeriaid yn eu hiaith
Mae'r pynciau'n cynnwys:
Gwybodaeth Sylfaenol am y Cyfryngau Cymdeithasol - Cyfryngau Cymdeithasol Uwch - Darparu Cyrsiau Ar-lein - Marchnata E-bost Effeithiol
Bydd ein gweminarau Cystadlu Ar-lein yn helpu eich busnes i ddringo i’r cam nesaf a:
- Gwneud yn siŵr bod pobl yn dod o hyd i chi yn hytrach na'ch cystadleuwyr
- Rhoi rheswm i bobl brynu gennych chi pan fyddan nhw’n cyrraedd eich gwefan
- Troi cwsmeriaid posibl yn gwsmeriaid ffyddlon sy’n prynu gennych chi’n gyson
Mae'r pynciau'n cynnwys:
SEO - Marchnata Digidol - Gwefannau - E-Fasnach - Mewnwelediadau a Dadansoddeg - Deall Hysbysebion a Thalu Fesul Clic
Marchnata Digidol ac Offer Ar-lein ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch
Ymunwch â ni am weminar dwy ran am ddim sydd wedi'i theilwra ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch.
Byddwn yn dangos i chi sut i osod eich busnes ar wahân ar-lein, ymgysylltu â chwsmeriaid newydd, manteisio’n well ar adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol megis platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.
Rhan 1 – Marchnata digidol ar gyfer y maes twristiaeth a lletygarwch
Rhan 2 – rhedeg eich busnes twristiaeth a lletygarwch ar-lein