BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnes Cymru – wrthi ers 10 mlynedd yn helpu busnesau yng Nghymru i dyfu

Ddeng mlynedd ers iddo gael ei lansio, mae Busnes Cymru wedi cefnogi dros 390,000 o entrepreneuriaid a busnesau, wedi helpu i greu dros 19,000 o fusnesau newydd ac wedi rhoi cymorth uniongyrchol i greu bron 47,000 o swyddi yn economi Cymru.

Busnes Cymru yw prif wasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru ar gyfer micro-fusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a darpar entrepreneuriaid o bob oed. Mae Busnes Cymru yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Mae'n rhoi cymorth pwrpasol i'r bobl hynny sydd am ddechrau, cynnal neu dyfu eu busnes, gan wneud hynny drwy gynnig darpariaeth amrywiol sydd ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein.  

Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu Llywodraeth Cymru i greu economi gryfach, decach, a mwy gwyrdd, ac mae'n:

  • Rhan hanfodol o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc, sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau busnes ac yn rhoi cymorth i'w helpu i sefydlu eu busnesau eu hunain neu i fod yn hunangyflogedig.
  • Cynnig cyngor arbenigol i helpu gweithwyr i brynu busnesau, ynghyd â chymorth pwrpasol sy’n cael ei ariannu'n llawn drwy Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi mwy o gymorth i sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn aros yn nwylo’r Cymry.
  • Helpu busnesau i ddatgarboneiddio drwy gynnig ystod eang o gyngor a chefnogaeth ar bolisïau ac arferion gwyrdd ac ar ddefnyddio adnoddau’n effeithlon, gan gynnwys Ymgyrch yr Uchelgais Werdd a'r Adduned Twf Gwyrdd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.