Sesiynau Arbenigol Busnes Cymru: Cynadleddau Cadwyni Cyflenwi
Yn cyflwyno Cynadleddau Cadwyni Cyflenwi Busnes Cymru; pedair sesiwn a fydd yn archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael i BBaCh Cymreig yn cyflenwi'r sector preifat a phrynwyr mawr o'r byd diwydiant.
Ym mhob sesiwn rithiol, bydd ein siaradwyr yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad i'ch helpu chi i gael gwell dealltwriaeth am sut y gall eich busnes ddod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.
Beth bynnag yw maint eich busnes, ble bynnag yr ydych chi yng Nghymru, a pha bynnag gynhyrchion neu wasanaethau rydych yn eu darparu, bydd y cynadleddau hyn yn eich helpu chi i ddysgu sut i ddod yn rhan o'r cyfle £6.5b y flwyddyn yma.