Skip to main content

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gwneud pethau'n symlach. Rhagor o wybodaeth am gwcis.

Welsh Government
  • EN
  • CY
Business Wales Home
  • Business Wales Hafan
  • Pencadlys Newyddion
  • Fy Musnes Cymru
  • Cyfeiriadur Busnes
  • Mwy
Innovation
  • Sitemap
I gael cymorth neu gyngor busnes
Ffoniwch 03000 6 03000
Toggle navigation
  • Home
  • Y Cymorth a’r Arian
    • Y Cymorth
    • Yr Arian
    • SBRI
    • Eiddo Deallusol (IP)
    • Gweithio gyda Phrifysgolion a Cholegau
    • Arbenigedd Cymru
  • Newyddion
  • Storïau am Lwyddiant
    • Storïau am Lwyddiant Archif
  • Advances Wales
    • Advances Wales Archif
  • Arloesedd SMART
    • Beth yw Arloesedd SMART?
    • Beth yw nodau Arloesedd SMART?
    • A yw fy musnes yn gymwys?
    • Cefnogaeth arloesi Covid-19
    • Cysylltwch â ni
  • Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi
  1. Cartef
  2. News
  3. 2021
Rhifyn 98
Newyddion

Advances Wales – Rhifyn 98 ar gael nawr

11 Tachwedd 2021
|

Tai Sero-Net a chynhyrchu beiciau mewn ffordd wyrdd? Darllenwch am y rhain a mwy yn rhifyn Newid Hinsawdd Advances Wales.

I gyd-fynd â Cop 26 a COPCymru, thema’r rhifyn hwn yw newid hinsawdd, gan amlinellu sut mae Arloesedd Cymru’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’r erthyglau’n cynnwys datblygu technoleg i helpu datblygiadau tai sero-net, dulliau cynaliadwy o gynhyrchu beiciau a’r gwaith o ystyried system ynni lleol clyfar wedi’i datgarboneiddio sy’n defnyddio hydrogen di-garbon. Darllenwch rifyn diweddaraf Advances yma
KTN
Newyddion

Tri o Gymru wedi'u henwebu ar gyfer gwobrau goreuon KTP 2021

22 Medi 2021
|

Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn cyfuno unigolyn graddedig, busnes a choleg neu brifysgol i fynd i'r afael â phroblem neu her benodol. Creadigrwydd, cydweithredu ac ysfa i gael effaith wirioneddol yw'r hyn sy'n gwneud KTP yn llwyddiannus.

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae tri phrosiect KTP wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau ‘Y Goreuon'. Mae Coleg Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Biocatalysts Ltd, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Rhagoriaeth ym maes Peirianneg. Gan ddangos defnydd rhagorol o sgiliau peirianneg, ar y cyd maent wedi gweithredu dulliau newydd o weithio yn ôl graddfeydd llawer llai (‘Ultra Scale-down’) i gynyddu cynhyrchiant gweithgynhyrchu ensymau hyd at 50% mewn rhai achosion...
Ford
Newyddion

Cronfa newydd gwerth £1.8 miliwn i annog arloesi yng Nghymru mewn technoleg cerbydau carbon isel

16 Medi 2021
Mae cronfa newydd gwerth £1.8m i annog busnesau i symud y tu hwnt i weithgynhyrchu peiriannau hylosgi mewnol i gynhyrchu technolegau cerbydau carbon isel, gan helpu i ysgogi twf economaidd arloesol yng Nghymru, yn cael ei sefydlu gan Ford a Llywodraeth Cymru. Darllen mwy
Meeting around a table showing pens and paper
Newyddion

Mae Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi yn chwilio am aelodau newydd

25 Awst 2021
|

Ydych chi am helpu i lunio polisi arloesi ledled Cymru?

Mae Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi yn chwilio am aelodau newydd. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y cylch gorchwyl a’r ffurflen datgan diddordeb (EOI), cliciwch yma Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich ffurflen datgan diddordeb wedi'i chwblhau at innovationstrategy@llyw.cymru erbyn 13 Medi. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn 20 Medi.
People having a meeting
Newyddion

Trafodaeth Ymchwil Arloesi

12 Mai 2021
|

A ydych yn fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mawr yn nyfodol arloesi yng Nghymru, ac ymrwymiad i sbarduno newid?

A ydych yn fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mawr yn nyfodol arloesi yng Nghymru, ac ymrwymiad i sbarduno newid? Os felly, hoffai Llywodraeth Cymru a Chyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (CCCA) i chi ymuno â nhw ar gyfer sgwrs ddydd Mercher 2 Mehefin i drafod ymchwil ddiweddar i’r tirlun arloesi yng Nghymru a thramor, ac i ddeall blaenoriaethau busnes Cymru o ran arloesi. Archebwch eich lle yma. Os ydych yn y sector cyhoeddus a...
Image of activity
Newyddion

Gweithgareddau Rhwydweithio yn y sector Hydrogen gyda Chylch Ymchwil ac Arloesi Québec-Ewrop 15 Mehefin 2021

11 Mai 2021
|

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio agosach ac agosach rhwng Cymru a Thalaith Québec yn Canada.

 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio agosach ac agosach rhwng Cymru a Thalaith Québec yn Canada. Yn awr, gan adeiladu ar waith partneriaeth rhwng Hydro-Québec a Phrifysgol De Cymru i wneud ymchwil i fasnacheiddio technolegau hydrogen, mae’n hyrwyddo digwyddiad rhithwir y mis nesaf a gynhelir gan Gylch Ymchwil ac Arloesi Québec-Ewrop (CRIQUE). Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn darparu cyfle gwych ar gyfer busnesau ac academyddion sydd am fanteisio ar y...
Laptop
Newyddion

Dyddiad ar gyfer eich Dyddiadur!

12 Chwefror 2021
|

Digwyddiad Ar-lein - Pwysigrwydd Rhanbarthau'r UE i Arloesedd Cymru – Dull Ymarferol

Dydd Mawrth 2 Mawrth 2021 – 10.00 – 11.30 GMT / 11.00 – 12.30 CET

I nodi diwrnod cenedlaethol Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn trafodaeth am Arloesi yng Nghymru a chydweithio â phartneriaid yr UE. Bydd y digwyddiad yn gyfle i: glywed am asedau arloesedd Cymru, ddarganfod sut mae arloesedd Cymru wedi ymateb i Covid, weld a chlywed sut rydym yn datblygu a dyfnhau ein cydweithrediadau â phartneriaid rhanbarthol yr UE. Cofrestrwch yma
Laptop
Newyddion

Gwneud gwaith llywodraethu aml-lefel yn S3

12 Chwefror 2021
25 Mawrth 2021 Ymunwch â ni yn y digwyddiad lledaenu rhithwir Cohes3ion i glywed gan arbenigwyr blaenllaw ar wneud gwaith llywodraethu aml-lefel mewn Specilisation Smart (S3) Mwy o wybodaeth a chofrestru yma
Image of Cardiff Castle
Newyddion

Cymru'n croesawu partneriaid Ewropeaidd ar siwrnai dysgu rithwir arloesol

1 Chwefror 2021
|

CYMRU sydd wedi cynnal diweddglo’r cam cyntaf mewn prosiect cyffrous wedi ei ariannu gan yr UE; cyfres o siwrneiau dysgu rhithwir â'r nod o hyrwyddo arloesedd a hybu ffyniant ar draws wyth o ranbarthau Ewrop.

Cynhaliodd tîm Arloesi Llywodraeth Cymru'r siwrnai dysgu rithwir olaf yng ngham cyntaf y prosiect COHES3ION, sef prosiect tair blynedd o hyd Interreg yr UE sy'n tynnu ynghyd 10 partner o wyth o wledydd Ewrop — gan gynnwys Cymru — â'r nod o hyrwyddo twf busnesau a chreu swyddi ar draws Ewrop trwy arferion gorau a pholisi. Yn ystod y gyfres o siwrneiau dysgu, mae pob partner yn cael eu hannog i rannu arferion gorau a...
Jigsaw
Newyddion

COHES3ION - Cyhoeddi Mapio Tiriogaethol Deallus (STM)

7 Ionawr 2021
Mae un o allbynnau allweddol Cam 1 prosiect Cohes3ion wedi'i gwblhau drwy gyhoeddi ei Ddogfen Dysgu Polisi. Nod yr ymarfer STM oedd i bartneriaid prosiect o bob rhan o Ewrop wneud diagnosis rhanbarthol o'u Strategaethau Arbenigo Deallus, defnyddir y canfyddiadau ar gyfer datblygu a Gweithredu Cynlluniau Gweithredu Rhanbarthol yng ngham nesaf y prosiect. Darllenwch yma

Archif

  • Mawrth 2022 (1)
  • Tachwedd 2021 (1)
  • Medi 2021 (2)
  • Awst 2021 (1)
  • Mai 2021 (2)
  • Chwefror 2021 (3)
  • Ionawr 2021 (1)
  • Tachwedd 2020 (2)
  • Hydref 2020 (3)
  • Gorffenaf 2020 (1)
  • Mehefin 2020 (3)
  • Ebrill 2020 (1)
Cysylltwch â ni
Facebook Icon LinkedIn Icon Twitter Icon Youtube Icon Instagram Icon
Tanysgrifio i ebost

Tanysgrifiwch i dderbyn e-gylchlythr

Tanysgrifio
I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch
03000 6 03000
  • Darganfyddwch fwyAmdanom ni
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Cwcis
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Datganiad Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cymru | Welsh Government
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop | European Regional Development Fund

Mae'r holl gynnwys ar gael yn Open Government Licence, oni noder yn wahanol

Busnes Cymru. Llywodraeth Cymru © 2022