MedaPhor

Crëwyd MedaPhor gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd i helpu pobl sy’n cael eu hyfforddi i ddefnyddio offer ym maes uwchsain gael profiad ymarferol hanfodol cyn iddynt gwrdd â’u cleifion cyntaf. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae wedi datblygu a bellach disgwylir y bydd yn cael cyfran sylweddol o’r farchnad fyd-eang, a hwnnw’n werth £400 miliwn.