O ddefnyddio technoleg synwyryddion cost isel, parhaol ar ffermydd Cymru, mae ganddo’r potensial i wneud ffermio yn fwy ‘digidol’, gan leihau costau a hybu effeithlonrwydd cynhyrchu.

Mae cysyniad ‘Y Rhyngrwyd Pethau / Internet of Things (IoT yw ei enw cyffredin) wedi bodoli ers yr ‘80au. Y syniad sylfaenol yw y gall pob math o ddyfeisiau electronig gysylltu â’r Rhyngrwyd er mwyn anfon a derbyn data. Mae’r defnyddiau’n eang ac amrywiol, mawr a bach, o oergelloedd cysylltiedig sy’n olrhain yr hyn rydych chi’n ei storio y tu mewn iddyn nhw i declynnau y gallwch eu gwisgo i fonitro iechyd a rheoli rhestr eiddo’r gadwyn gyflenwi.

Fodd bynnag, mae IoT a’i effeithiau yn dylanwadu ar y sector amaethyddiaeth hefyd. Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru, ac mae Coleg Glynllifon ger Caernarfon yn arloeswyr mewn technegau rheoli cefn gwlad newydd sy’n defnyddio technoleg synhwyro digidol cost isel. Mae datblygiadau diweddar wedi cynhyrchu dyfeisiau IoT bach, sy'n cael eu pweru gan fatri a all weithredu o bell am fisoedd, weithiau blynyddoedd ar y tro. Yn bwysicach na dim, gall y synwyryddion hyn weithredu yn ddi-wifr, heb fod angen ceblau.

Gall y dechnoleg hon newid ffermio yn llwyr. Am flynyddoedd, mae ffermwyr wedi gweithredu fel casglwyr data â llaw, gan asesu cyflwr eu tir, eu cnydau a’u da byw, a gweithredu yn unol â hynny. Ond gyda phatrymau tywydd yn gynyddol anwadal, ynghyd â mympwyon afiechyd a phlâu, dyw ffyrdd traddodiadol o weithio ddim yn effeithiol a gallant ddatblygu’n argyfwng yn gyflym iawn oni bia y gweithredir mesurau adfer mewn pryd.

A landscape in Wales.

Yr offeryn delfrydol ar gyfer y 21ain ganrif?

Gyda chyfres o synwyryddion anghysbell, cynt, mae’n bosibl monitro amrywiol elfennau allweddol y fferm o bell ac yn awtomatig. Yn ogystal â chasglu gwybodaeth sylfaenol am dymheredd, glaw a lleithder, gall technoleg IoT helpu i fesur symudiad da byw, lefelau dŵr neu slyri, plâu, cynnwys y pridd; gall hyd yn oed gadw llygad ar gatiau a lleoliad offer fferm drud. Wedi’i arfogi gyda’r data hwn, a’r mewnwelediadau y gall greu, gall ffermwyr gymryd y camau mwyaf effeithiol ar unwaith i gynnal effeithlonrwydd ac i ddod o hyd i broblemau posibl.

Mae’n swnio fel yr offeryn delfrydol ar gyfer symud ffermio i’r 21ain ganrif. Felly, pam nad yw’n cael ei roi ar waith yn eang yng Nghymru? Yn ôl Geraint Hughes, ymgynghorydd bwyd-amaeth sy’n gweithio gyda chonsortiwm Cymru Ddigidol, dan arweiniad y sefydliad di-elw Menter Môn, y prif heriau y mae Cymru’n eu hwynebu yw prinder ymwybyddiaeth o dechnoleg IoT a diffyg gwybodaeth ar sut y gall gael effaith gadarnhaol ar ffermio. Mae yn gweithio i newid hyn.

“Yn aml, gall gwybodaeth fynd a’r goll yn y technegolaethau,” eglura Hughes. “Mae ffermwyr, fel y mwyafrif o berchnogion busnesau, eisiau gwybod sut y gall [IoT] eu helpu nhw a’u busnes, nid sut mae nod neu borth yn gweithio. Gallwch ddadlau bod yr her yn fwy gydag IoT oherwydd cyflymder y newid, a hefyd bod ofn sylfaenol am bopeth TG ymhlith rhai rhannau o’r boblogaeth.”

Cyswllt Ffermio a LoRaWAN

Felly, beth am i ni egluro’r mater ymhellach. Mae defnyddio dyfeisiau IoT yn syml ac mae’r dechnoleg sylfaenol yn gymharol syml hefyd. Mae menter Cyswllt Ffermio – ar y cyd â Chymru Ddigidol – yn treialu nifer o systemau LoRaWAN ar draws ffermydd Cymru. Yn syml, mae ‘LoRa’ yn cyfeirio at ‘Pellter Hir’ o’r synwyryddion a ddefnyddir a ‘WAN’ yw’r Rhwydwaith di-wifr y maen nhw’n cysylltu ag ef. Gall pob ‘porth’ WAN (sy’n cyfateb i lwybr wi-fi) wasanaethu nifer o synwyryddion, a all fod mor bell i ffwrdd â 10km yn yr amodau cywir.

Mae pob synhwyrydd yn casglu math penodol o wybodaeth ac yn anfon pecynnau bach o ddata i'r porth, sydd yn ei dro yn ei anfon i rwydwaith pwrpasol, lle gellir ei goladu, ei archwilio, a'i ddefnyddio i ysgogi gweithrediadau eraill. Gall botymau a switshis ganfod a yw rhywbeth wedi’i wasgu neu a yw drws neu giât ar agor neu ar gau. Gall synwyryddion cylchdro synhwyro sawl gwaith neu i ba raddau y cawsant eu troi, tra gall synwyryddion uwchsonig fesur pellter - lefel pwll slyri, er enghraifft, neu uchder afon mewn amser real.

“Rydyn ni’n darparu contract i Cyswllt Ffermio ar hyn o bryd sy’n cynnwys gosod 18 o byrth LoRaWAN ar ffermydd arddangos ledled Cymru,” esboniodd Geraint Hughes. “Bydd pob un wedi’i gysylltu â’r IoT, gan ganiatáu i unrhyw un sydd o fewn ei gwmpas ddefnyddio’r pyrth. Mae hyn ar flaen y gad mewn gwirionedd, a chredaf mai ni yw’r cyntaf i sefydlu rhwydwaith gydgysylltiedig o byrth gwledig yn y DU. Bydd yn agor drysau i lawer o unigolion a busnesau gwledig sydd â diddordeb mewn defnyddio IoT.”

Synwyryddion yn creu posibiliadau newydd

Mae diffyg dyfeisiau pellter hir, pŵer isel / oes batri hir wedi rhwystro'r defnydd o IoT mewn ardaloedd gwledig yn y gorffennol, ond gyda LoRaWAN, dyw’r rhwystrau hyn ddim yn bodoli. “Mae’r dechnoleg hefyd yn raddadwy ac yn fforddiadwy,” ychwanega Hughes. “Mae’r pyrth yn dod yn fwy eang a bydd yn y pen draw yn gwneud y rhwydwaith yn fwy gwydn – hynny yw, does dim rhaid i chi ddibynnu ar un porth. Mae’r rhwydwaith hefyd yn cael ei hystyried yn ddiogel, ac oherwydd mai hwn yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd ac sy’n ennill y mwyaf o fomentwm, mae yna fwy o opsiynau o ran synwyryddion ar gael.”

Yn wir, unwaith y bydd gennych rwydwaith LoRaWAN ar waith, dywed Hughes mai’r unig beth sy’n debygol o’ch cyfyngu wrth ei ddefnyddio yw’r nifer o synwyryddion sydd ar gael a’ch creadigrwydd eich hun. “Yn y bôn, yr hyn sydd gennych yw porth sy’n cyfathrebu â’r synwyryddion ac sy’n anfon data i gronfa ddata yn y cwmwl. Mae’r cam olaf yn nefnyddio’r feddalwedd yn gyffrous tu hwnt...er enghraifft, efallai eich bod yn gosod synhwyrydd ar feic quad. Fodd bynnag, d’ych chi ddim am iddo gysylltu â chi pob tro mae’r beic yn symud. Gall darn syml o feddalwedd sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu os yw’r beic yn symud rhwng 11pm a 5am yn unig.”

Mae’r buddiannau i ffermio yn ymddangos yn amlwg ond mae llawer o heriau ar hyd y ffordd eto. “Dydyn ni ddim wir yn gwybod eto pa fodelau sy’n gweithio orau,” dywed Hughes. “Hefyd, gall cost fod yn rhwystr os nad ydych yn glir ynghylch defnyddiau [IoT] a phrin yw’r bobl sydd ar gael i’w osod sydd â phrofiad mewn defnyddio’r math hon o dechnoleg.”

A farmer in a barn with cows.

Gall IoT leihau costau ac ychwanegu gwerth

Wedi dweud hynny, mae pethau’n newid ac mae Hughes yn bendant ynghylch pwysigrwydd technoleg IoT a’i bwysigrwydd i fusnesau. Yn enwedig ym maes ffermio. “O ran amaethyddiaeth yng Nghymru, rydyn ni’n ddibynnol ar farchnadoedd nwyddau,” meddai. “Er mwyn goroesi, mae angen brand da arnom i ychwanegu gwerth – Cig Oen er enghraifft. Neu, mae’n rhaid i ni gael sylfaen gost is a systemau cynhyrchu sy’n fwy effeithiol. Dyma lle gall IoT helpu.

“Yr hyn yr hoffwn ei weld yw mwy o anogaeth a chefnogaeth frys i fusnesau ddatblygu’r cynhyrchion gwerth uchel yn IoT, sef y feddalwedd. Mae amser yn hanfodol. Mewn pum mlynedd, hoffwn weld llawer iawn mwy o apiau IoT yn cael eu defnyddio ar ffermydd Cymru sydd wedi cael eu rhedeg a’u datblygu gan gwmnïau o Gymru – ddim y meddylfryd ‘silicon valley’ nodweddiadol. Fy ail ddymuniad yw cymryd camau cydgysylltiedig nawr i sicrhau bod busnesau Cymru yn cadw rheolaeth a pherchenogaeth ar eu data eu hunain. Bydd hon yn ffactor hollbwysig wrth symud ymlaen.”

Mae cyfleoedd cyffrous yma all ysbrydoli busnesau Cymru ac mae Geraint Hughes yn glir ynghylch buddiannau craidd defnyddio technoleg IoT yn y sector amaethyddiaeth. “Ar ddiwedd y dydd, mae’n ymwneud â chwtogi costau, ychwanegu gwerth, gwella ansawdd, gweithio’n ddiogel a gwneud bywyd yn haws.” Ac yn y sefyllfa fregus sydd ohoni, mae angen pob help posibl ar ffermwyr Cymru.”

Darllenwch sut mae Cyswllt Ffermio yn sbarduno busnesau Cymru yma.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen