Efallai y byddwch chi wedi rhoi cynnig cyflym arni, neu efallai eich bod chi wedi ceisio ei osgoi hyd yma, gan ffafrio cyswllt dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Ond yn y cyfnod heriol hwn, gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn fendith.

Dyma un o’r ffyrdd hawsaf i gyrraedd pobl, cadw mewn cysylltiad a theimlo’n gysylltiedig â’r byd allanol.

Dyma ambell awgrym i'ch rhoi ar ben ffordd:

Ewch i’ch cwsmeriaid

Gallwch ddysgu pa lwyfannau mae eich cwsmeriaid yn eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol, cofrestru a dechrau gwrando ar yr hyn maent yn ei drafod er mwyn i chi ymuno. Fel enghraifft, ar Twitter mae’n hawdd dilyn eich cwsmeriaid a phobl berthnasol eraill – a chyn hir, byddwch yn sylwi eu bod yn eich dilyn chi hefyd.

Cofiwch y pethau sylfaenol!

Efallai bod hyn yn ymddangos i fod yn amlwg, ond dylai eich proffil ar y cyfryngau cymdeithasol ddweud yn glir wrth bobl pwy ydych chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud. Sicrhewch eich bod chi’n cynnwys eich manylion cyswllt busnes a dolen i’ch gwefan neu dudalen lanio i’w wneud yn rhwydd i bobl ddod o hyd i chi.

Byddwch yn ymatebol

Mae pobl yn llawer mwy tebygol o gysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach na’ch ffonio na’ch e-bostio, ac mae hynny’n cynnwys cwynion. Ac ar ben hynny, cyn gynted ag y byddant wedi rhannu’r postiad, mae’n weladwy i’r cyhoedd. Felly, beth ydych chi’n ei wneud? Peidiwch ag anwybyddu! Atebwch yn gyflym ac yn gwrtais, yn union fel y byddwch wrth ymdrin â phobl yn bersonol.

Dangoswch bersonoliaeth

Yn y bôn, rydym ni’n fodau cymdeithasol. Mae pobl yn hoffi siarad â phobl eraill, nid systemau awtomatig, felly byddwch chi eich hun. Dangoswch eich cwsmeriaid fod unigolyn go iawn y tu ôl i’r busnes, hynny yw chi! Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn estyniad o’ch mangre ffisegol (os oes gennych un) a’ch gwefan felly cadwch bethau'n gyson ond peidiwch â bod yn rhy ffurfiol neu geisio gwerthu gormod!

Mesurwch yr hyn sy’n gweithio

Fyddwch chi ddim yn gwybod os ydych chi’n gwneud yn dda oni bai eich bod chi’n mesur yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim. Mae gan y rhan fwyaf o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis Twitter, Facebook ac Instagram ddulliau dadansoddeg am ddim a fydd yn dangos i chi pa fath o byst sy’n cael yr ymateb gorau, pwy sy’n ymateb a ble a phryd.


Mae gennym weminarau ar gael i helpu busnesau mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Bydd y gyfres yn cynnwys pynciau allweddol sy’n ymwneud â COVID-19 a’ch busnes. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen