Mae cynyddu traffig y wefan yn un o’r prif heriau sy'n wynebu llawer o fusnesau. Fodd bynnag, ni ddylai'r ffocws fod ar gynyddu nifer y defnyddwyr ar eich safle yn unig, ond yn hytrach ar ddenu a chadw cwsmeriaid ffyddlon sy’n ymgysylltu ac sy'n parhau i ddefnyddio eich gwefan fel ffynhonnell wybodaeth, cyngor neu adloniant.

 

Dyma 15 o gynghorion cyflym gan Gyflymu Cymru i Fusnesau a all eich helpu i gynyddu traffig ar y we:

 

Gwnewch yn siŵr fod y pethau sylfaenol yn gywir gyda gwefan hylaw

Mae'n bwysig bod amser llwytho’r wefan yn dda a’i bod yn gweithio’n effeithiol - fel arall bydd defnyddwyr yn gwylltio ac yn clicio oddi ar eich gwefan. Mae’n bwysig cael ymwelwyr i'ch gwefan ond mae'r un mor bwysig eu cadw nhw yno hefyd!

 

A yw eich gwefan yn symudol-gyfeillgar?

Ynghyd â bod yn hylaw, gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn hygyrch i'ch cwsmeriaid waeth pa ddyfais maen nhw’n ei ddefnyddio!

 

Rhannwch gynnwys llawn gwybodaeth ac o ansawdd uchel yn rhad ac am ddim

Ffordd wych o ymgysylltu â defnyddwyr a'u hannog i ddychwelyd yw rhannu eich arbenigedd a'ch gwybodaeth yn y maes. Drwy gynhyrchu cynnwys bytholwyrdd, sy’n hawdd i’w rannu gallwch ddatblygu eich awdurdod fel busnes cyfrifol a gyrru defnyddwyr i ailddefnyddio a rhannu eich tudalennau gwe.

 

Ysgrifennwch flog gwadd ar flogiau diwydiant perthnasol

Lledaenwch eich enw brand o fewn eich diwydiant drwy gynhyrchu cynnwys pwrpasol i ymddangos ar flogiau eraill yn y diwydiant. Drwy gynnwys dolen yn ôl at eich gwefan, gallwch annog darllenwyr â diddordeb i gael gwybod mwy am eich busnes.

 

Hyrwyddwch eich blog/gwefan drwy eich e-gylchlythyr

Mae negeseuon e-bost busnes yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid. Drwy rannu pytiau o’ch blog a chamau galw-i-weithredu clir gallwch yrru darllenwyr at eich gwefan.

 

Cyhoeddwch negeseuon yn amlach

Peidiwch â gadael i’ch blog lechu yng nghefn eich gwefan! Os ydych am weld eich ymwelwyr yn dychwelyd, yna’r allwedd yw cynnig cynnwys ffres yn rheolaidd. Fel arall byddant yn diflasu ac yn anghofio am eich safle.

 

Optimeiddiwch eich negeseuon

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y defnydd gorau o'ch cynnwys trwy optimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio! Dylech gynnwys geiriau allweddol perthnasol i helpu eich blog i gyrraedd safle uwch.

 

Rhannwch eich cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol

Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych i gyfeirio traffig ar eich safle. Cyhoeddwch negeseuon diddorol (gweledol a thestun) a hyrwyddwch eich blogiau gyda dolenni i yrru dilynwyr at eich safle.

 

Byddwch ar YouTube

Gallai rhannu eich fideos eich hun drwy YouTube fod yn arf gwych er mwyn cynyddu traffig ar eich gwefan gan mai YouTube yw'r rhwydwaith orau ar gyfer gyrru cyfeiriadau, yn ôl Shareaholic.

 

Cymrwch ran mewn cymunedau diwydiannol perthnasol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgysylltu yn eich maes a chreu ymwybyddiaeth o'ch brand drwy ymuno â thrafodaethau gyda chymunedau ar-lein ar lwyfannau fel LinkedIn, Facebook neu fforymau.

 

Cymrwch ran mewn sgyrsiau diwydiant ar gyfryngau cymdeithasol

Dewch o hyd i sgyrsiau diwydiant perthnasol a gynhelir ar gyfryngau cymdeithasol ac y gallech fod yn rhan ohonynt. Dyma ffordd wych o gael sylw i’ch brand ac annog cyfranogwyr i gael gwybod mwy am eich busnes. Gwnewch yn siŵr fod eich cyfeiriad ar y we mewn lle amlwg yn eich manylion proffil.

 

Ymgysylltwch â chwsmeriaid a dilynwyr ar-lein

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnig ffordd wych o ddatblygu cysylltiadau cwsmeriaid tymor hir. Helpwch eich cwsmeriaid i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi trwy ymateb i'w sylwadau a chwestiynau. Bydd hyn yn datblygu eich safle fel brand y gellir ymddiried ynddo ac yn eu hannog i ddefnyddio eich busnes yn hytrach na chystadleuwyr.

 

Hysbysebu a delir amdano ac ar y cyfryngau cymdeithasol

Ystyriwch opsiynau talu-amdanynt a all helpu i yrru traffig yn uniongyrchol at eich gwefan. Dechreuwch gyda chyllideb fach i weld pa mor effeithiol yw’r dulliau hyn a chynyddu’r swm fel bod angen.

 

Cysylltwch â dylanwadwyr yn eich diwydiant

Dewch o hyd i ffordd i gael dylanwadwyr i ymwneud â’r brand (er enghraifft: cyfweliadau, blogiau gwadd neu fideos). Mae pobl yn fwy tebygol o ymgysylltu â brandiau sy'n cael eu hargymell neu eu hyrwyddo gan weithwyr proffesiynol uchel eu parch yn y diwydiant.

 

Profwch, profwch, profwch!

Mae cymaint o elfennau y gallwch eu profi a all eich helpu i ddeall beth sydd ac nad sy’n gweithio'n effeithiol i yrru traffig at eich gwefan. Gallai hyn gynnwys penawdau amgen, llinellau pwnc, mathau o gynnwys, amseroedd a anfonir… mae'r rhestr yn ddiddiwedd! Ystyriwch yr elfennau amrywiol y gallech eu gwella i helpu gyrru mwy o draffig at eich gwefan.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen