Sut y gallwn ni helpu

Byddwn yn dangos i chi sut gall technoleg ddigidol eich helpu i gyrraedd mwy o gwsmeriaiad, i werthu mwy, i arbed amser ac i gyflawni mwy, fel y gallwch chi ganolbwyntio ar dyfu a rhedeg eich busnes.

Dyma beth mae ein cymorth busnes am ddim yn ei gynnwys:

Cam Un - Cofrestru eich busnes

Bydd un o’n Cynghorwyr Busnes Ar-lein cyfeillgar yn cysylltu i drafod eich anghenion a’ch targedau cychwynnol ac yn cofrestru eich busnes i gael cymorth am ddim.

Cam Dau – Cyrsiau ar-lein

Dewiswch o blith amrywiaeth o bynciau digidol a chael cyngor ymarferol am ddim ar farchnata digidol, SEO, e-fasnach, cyfryngau cymdeithasol, gweithio ar-lein, a llawer mwy.

Cam Tri – Cyngor busnes un-i-un

Manteisiwch ar gyngor busnes wedi’i deilwra gan un o’n harbenigwyr, sy’n rhad ac am ddim. Bydd eich cynghorydd digidol yn darparu cynllun gweithredu digidol a fydd yn rhoi manylion eich camau nesaf, yn ogystal ag adolygu eich gwefan er mwyn eich helpu i ganfod datrysiadau sydyn.

Cam Pedwar – Adroddiad cynnydd

Ar ôl eich cymorth cychwynnol, bydd ein tîm yn cysylltu â chi i weld sut rydych chi’n dod yn eich blaen, yn ogystal â helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf ar adnoddau digidol.