Mae’r sector ynni a’r amgylchedd yn un bwysig yn economi Cymru. Mae’n cynnwys nid yn unig gwmnïau mwy yn y farchnad cynhyrchu ynni ond hefyd gwmniau llai ynni adnewyddadwy, lleihau carbon a gwasanaethau nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol. Amcangyfrifir y gallai £50 biliwn gael ei fuddsoddi yn y sector Ynni a’r Amgylchedd yn ystod y degawd a hanner nesaf; mae hyn yn arian mawr a bydd yn gwneud cyfraniad amlwg i’r economi’n gyffredinol.


Document

Share this page

Print this page