Meddwl am ddechrau busnes
Mae’r pynciau ar gyfer y llwybr “Ydych chi’n Ystyried Dechrau Busnes?” wedi cael eu dewis yn ofalus a byddant yn cyflwyno’r meysydd y mae angen i chi eu hystyried ar eich taith tuag at ddechrau busnes llwyddiannus, pynciau hyn yw:
- Ai Dechrau Busnes yw’r Dewis Cywir i Chi? - Yn y cwrs hwn byddwn yn eich helpu i ystyried ai dechrau busnes yw’r dewis cywir i chi.
- Datblygu eich Syniad Busnes - Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut mae datblygu eich syniad busnes.
- Ble i gael Cyllid ac Adnoddau ar gyfer eich Busnes - Yn y cwrs hwn byddwch yn gweld sut mae cael gafael ar gyllid ac adnoddau ar gyfer eich busnes.
- Nodi eich Cwsmeriaid - Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut mae nodi eich darpar gwsmeriaid yn llwyddiannus.
- Ystyriaethau Cyfreithiol wrth Ddechrau Busnes - Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu bod materion o ran treth, trwyddedu, yswiriant a rhai cyfreithiol y mae’n rhaid i chi eu hystyried.
- Cynllunio er mwyn Llwyddo - Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut gall cynllunio helpu i wneud llwyddiant o’ch busnes.Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut gall cynllunio helpu i wneud llwyddiant o’ch busnes.
Ar ôl cwblhau’r llwybr hwn, byddwch wedi penderfynu a yw dechrau busnes yn iawn i chi ac wedi cwblhau gweithgareddau i baratoi eich cynllun busnes, wedi dysgu technegau marchnata defnyddiol ac wedi meddwl am sut i ddatblygu eich syniad busnes.